Panto ar-lein Blaenau i 'ddathlu' y flwyddyn a aeth heibio

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PantoFfynhonnell y llun, BROcast Ffestiniog
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cast wedi bod yn brysur yn ffilmio'r pantomeim o amgylch Blaenau Ffestiniog dros yr wythnosau diwethaf

Mae hi'n dymor y pantomeim, ond mae'r theatrau i gyd wedi cau. Dim panto eleni felly? Anghywir!

Mae yna griw ym Mlaenau Ffestiniog wedi bod wrthi'n brysur yn paratoi pantomeim fydd i'w weld ar y we pob nos yr wythnos hon.

Y Dewin OZ(oom) ydy enw'r panto, a bydd hanes Dorothy yn mynd draw dros yr enfys yn datblygu dros dair noson.

Ar y noson olaf bydd modd i'r gwylwyr gymryd rhan, a'r gynulleidfa adref fydd yn penderfynu tynged Dorothy a diweddglo'r panto.

Disgrifiad o’r llun,

"Dim ond wrth gydweithio a chyd-greu ydan ni'n mynd i oresgyn ac edrych ymlaen at ddyfodol gwell," meddai Ceri Cunnington

Yn ôl Ceri Cunnington o Gwmni Bro Ffestiniog, sy'n un o drefnwyr y pantomeim, mae nifer o fudiadau ym Mlaenau Ffestiniog wedi dod at ei gilydd i greu'r panto er mwyn "dathlu" y flwyddyn a aeth heibio.

"Mae'n beth rhyfedd i'w ddweud - dathlu'r ffaith fod y gymuned wedi dod at ei gilydd yn ystod y pandemig," meddai.

"Y syniad ydy ein bod yn creu rhyw fath o ddigwyddiad rhithiol - pant-on-line - a 'dan ni wedi cael cefnogaeth y loteri."

Disgrifiad o’r llun,

"Ar y bedwaredd noson mae'r gynulleidfa yn cael penderfynu beth sydd yn digwydd i Dorothy," meddai Gwenlli Evans

Dywedodd Gwenlli Evans, un arall o'r trefnwyr, mai'r syniad ydy creu fersiwn Gymreig o'r Wizard of Oz, sef Dewin OZ(oom).

"Mae Dorothy ar goll yn y byd digidol, fel rydan ni i gyd wedi bod yn ystod y pandemig, ac [yn gofyn] ydy hi'n gweld gwerth yn ei chymuned," meddai.

"Mi fydd cyfres o dri, i'w gweld ar Youtube a Facebook, ac ar y bedwaredd noson mae'r gynulleidfa yn cael penderfynu beth sydd yn digwydd i Dorothy - ydy hi'n mynd i fod yn sownd yn y byd digidol?

"Mi fyddan ni yn cael noson interactive, a 'dach chi'n cael siarad hefo'r cymeriadau."

'Neges leol ond gweledigaeth ryngwladol'

Ychwanegodd Ceri: "Mae'r neges yn un lleol, a gweithredu'n lleol, ond hefo gweledigaeth ryngwladol.

"Rhaid i ni dynnu at ein gilydd rŵan ac edrych ymlaen i'r dyfodol, a dim ond wrth gydweithio a chyd-greu ydan ni'n mynd i oresgyn ac edrych ymlaen at ddyfodol gwell."

Mae'r holl fanylion i'w gweld ar dudalennau Facebook a Twitter BROcast Ffestiniog.