Brechiadau cyntaf mewn cartref gofal ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dwylo gwraig oedrannusFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Staff cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a phobl 80 oed a throsodd sy'n cael eu brechu gyntaf

Bydd pobl mewn cartrefi gofal yn dechrau cael eu brechu rhag Covid-19 fel rhan o gynllun peilot o ddydd Mercher, gan ddechrau yng ngogledd Cymru.

Cartref gofal penodol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fydd y cyntaf yng Nghymru i dderbyn y brechlyn Pfizer/BioNtech, ond dydy Llywodraeth Cymru ddim yn cadarnhau ei union leoliad.

Cartref yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda fydd yr ail i fod yn rhan o'r cynllun cyn i dimau byrddau Iechyd eraill fynd â'r brechlyn i gartrefi gofal cyn diwedd yr wythnos.

"Os ydy popeth yn mynd yn dda yr wythnos hon, byddwn yn darparu'r brechlyn yn gynt i gartrefi gofal cyn y Nadolig, gan amddiffyn rhai o'n pobl fwyaf bregus," meddai'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd bod dros 6,000 o bobl yng Nghymru eisoes wedi derbyn dos cyntaf y brechlyn a gafodd ei gymeradwyo ar 2 Rhagfyr.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Craig Aitkins ymhlith y bobl gyntaf i dderbyn y brechlyn yng Nghymru

Mae symud y brechlyn Pfizer/BioNtech o ganolfannau brechu i gartrefi gofal yn heriol oherwydd yr angen i'w gadw ar dymheredd isel iawn, a'r perygl y gallai fod yn llai effeithiol os yw'n cael ei symud yn ormodol ar ôl dadmer.

Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod gyda'r gwneuthurwyr a'r asiantaeth rheoleiddio meddyginiaethau, MHRA ynghylch ailbecynnu a chludo'r brechlyn heb beryglu safonau diogelwch ac effeithiolrwydd.

Yn sgil y trafodaethau hynny, mae modd i fyrddau iechyd fynd â'r brechlyn "i leoliadau ag o leiaf bum preswylydd" ond bydd yn cymryd sawl diwrnod i hyfforddi staff a sicrhau bod y trefniadau'n safonol.

Mae hynny'n golygu y bydd yn cael ei roi yn y lle cyntaf "i gartrefi gofal sy'n agos at fferyllfeydd ysbytai" medd Llywodraeth Cymru, ond mae'n fwriad iddo fod ar gael mewn lleoliadau eraill "yn yr wythnosau nesaf, unwaith y bydd gwybodaeth yn deillio o'r cynllun peilot mewn cartrefi gofal ar gael".

Newid polisi ar ryddhau cleifion i gartrefi?

Bydd penderfyniad ar bolisi Llywodraeth Cymru ar ryddhau cleifion sydd wedi adfer o Covid-19 o ysbytai i gartrefi gofal yn cael ei wneud yn y dyddiau nesaf, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething bod cannoedd o gleifion yn gorfod aros yn yr ysbyty am "nifer o wythnosau" am eu bod yn dal i gael profion positif am Covid-19, er nad ydyn nhw'n heintus.

Yn ôl y gweinidog mae ymchwil rhyngwladol wedi dangos nad ydy mwyafrif y rheiny sy'n cael coronafeirws yn heintus ar ôl pythefnos, ond eu bod yn gallu parhau i brofi'n bositif am fisoedd.

Ar hyn o bryd dydy cleifion Covid-19 ddim yn gallu cael eu rhyddhau i gartref gofal nes eu bod yn cael prawf negatif, ond dywedodd Mr Gething bod y llywodraeth yn trafod gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn gyda'r bwriad o newid y polisi hynny.

"Os ydyn ni'n llwyddo i newid hyn, ac os yw'r dystiolaeth yno, yna'r bobl fydd yn cael y budd mwyaf o hyn fydd y bobl hŷn eu hunain," meddai.

Mwy o'r gynhadledd

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid storio'r brechlyn ar dymheredd o tua -70C

Dywedodd Mr Gething bod cludo'r brechlyn i gartrefi gofal wedi bod yn her.

"Ar ôl i Gymru gyflwyno'r brechlyn Covid cyntaf yn llwyddiannus yr wythnos diwethaf, rydym yn dechrau'n ofalus ar y cam o'i roi i beswylwyr cartrefi gofal; fodd bynnag, mae angen inni barhau i sicrhau y gallwn gludo'r brechlyn yn ddiogel i bobl nad ydynt yn gallu dod i glinigau.

"Os bydd popeth yn mynd yn iawn yr wythnos hon, byddwn yn cyflwyno'r broses frechu i gartrefi gofal cyn y Nadolig, gan ddod â lefel newydd o ddiogelwch i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed.

"Mae staff y GIG wedi gwneud gwaith gwych i gyflwyno'r brechlyn cyntaf hwn yn ddiogel ac yn gyflym. Rwy'n hynod ddiolchgar am eu gwaith caled ar hyn, ac yn ystod y pandemig yn gyffredinol."

Dywedodd Dr Gill Richardson, Cadeirydd Rhaglen Frechu Covid-19 Cymru: "Mae darparu brechlyn Covid-19 i staff cartrefi gofal a phreswylwyr wastad wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

"Rydym wedi bod yn gweithio ers misoedd i ymateb i'r heriau dosbarthu ac rydym yn credu bod gennym ateb ymarferol y byddwn yn ei ddefnyddio mewn safleoedd peilot o ddydd Mercher.

"Mae staff cartrefi gofal wedi cael cynnig brechiadau yng nghanolfannau'r Byrddau Iechyd wrth aros i'r model symudol ddechrau."

"Rydym bellach yn hyderus iawn y gall ysbytai'r GIG ailbecynnu a chludo'r brechlyn yn ddiogel i gartref gofal heb beryglu ei sefydlogrwydd."

Pynciau cysylltiedig