'Barbeciw i ginio Dolig'
- Cyhoeddwyd
Mi fydd Nadolig eleni yn wahanol iawn i'r arfer, gydag effaith COVID-19 yn golygu bod nifer o'r arferion traddodiadol ddim yn ymarferol. Ond beth am rheiny sydd yn dathlu'r ŵyl yn hemisffer y de?
Er bod y rheolau wedi'u llacio fymryn, mae sawl un yn poeni na fydd modd trefnu dathliadau yn union fel y buasen nhw'n dymuno. Ond ar draws y byd mae'r Nadolig yn cael ei ddathlu mewn ffyrdd gwahanol.
Roedd rhaglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru ar ddydd Sul 29 Tachwedd yn sôn am sut y bydd Cymry'n dathlu'r Nadolig ar ochr arall y byd.
Un sydd wedi addasu i ddull newydd o ddathlu'r Nadolig yw Marisa Beaumont-Conway o Lanon. Mae hi wedi byw rhwng Sydney a Chymru ers teithio yno fel backpacker yn ei hugeiniau a syrthio mewn cariad ag Aussie. Ar ôl blwyddyn heriol, bydd hi a'i theulu yn dathlu'r Nadolig yn Sydney eto eleni.
"Do'n i ddim yn hoffi fy Nadolig cyntaf i yma - o'dd e'n rhy wahanol," mae'n cyfaddef.
Ond mae ei merch hynaf, Cara Mai yn 19 oed erbyn hyn ac ni fysai hi'n newid unrhyw beth am yr ŵyl.
"Fi'n caru Nadolig fan hyn - mae yna chilled vibes!" meddai Cara Mai.
Tra'n ferch fach yn Sydney, fe ddysgodd hi mai chwe changarŵ gwyn oedd yn tynnu sled Sion Corn nid ceirw. Bellach mae wedi gorffen ei blwyddyn gyntaf ym mhrifysgol Macquarie.
Iddi hi, mae'r Nadolig yn gyfnod o hwyl yn yr haul gyda'i ffrindiau ar y traeth.
"Fi a ffrindie fi yn gwisgo bicinis Sion Corn!" meddai, "a ma' pawb yn gwisgo bucket hats a boxers Sion Corn - mae jest yn wahanol! Pan ma' pobl yn nofio a syrffio mewn pethau Nadolig, mae jest yn absolutely hilarious! Fi'n caru Nadolig fan hyn."
Y drefn arferol i Marisa, ei gŵr Ken, Cara Mai a'i brawd bach Iwan yw codi, mynd i'r môr yna dod 'nôl am rywfaint o fwyd y môr, cyn gwledd draddodiadol i swper.
"Os odd Ken [yn penderfynu] - base fe'n cal bwydydd y môr drwy'r dydd, ond rwy'n benderfynol o gael twrci. Fi'n draddodiadol," meddai Marisa.
Canu carolau a bwyta 'sausage sizzle' ar y barbeciw
Does dim plygain yn Sydney, ond mae Marisa'n chwilio am wasanaeth ganol nos beth bynnag.
"I fi mae'n bwysig, ond fi ddim yn credu bo' chi'n cael yr un teimlad.
"Ar y dechrau o'n i'n meddwl bod y [canu] carolau yn y parc neu ar y traeth yn od. Ma fe actually'n lyfli, ond mae'n rili od pan ma' nhw wedyn yn dweud ma'r sausage sizzle yn barod - chi'n meddwl, beth yn y byd? Dwi ishe paned o de a mins pei!
"Ond yn lle, chi'n cal sausage sizzle ar y barbeciw yn y gwres a chi'n meddwl, 'reit ma hwn yn od'."
Mae Marisa a'i theulu wedi arfer â pheidio gweld teulu dros y Nadolig ond mae'n dweud y bydd yn arbennig o anodd i beidio gallu dychwelyd i Gymru eleni. Fel sawl teulu, bydd rhaid bodloni ar alwad fideo i gadw cysylltiad.
"Pan mae hi'n fore i Mam a Dad, mae'n nos fan hyn a dydd Nadolig i gyd wedi mynd...ni dal yn dymuno Nadolig Llawen i bawb, mae jest yn wahanol," meddai Marisa.
Cyngor Cara Mai i unrhyw un sy'n poeni na fydd y Nadolig yr un peth 'leni yw sianelu ysbryd laid-back yr Aussies.
"Fi'n credu galli di 'neud y Nadolig be ti ishe fe fod. Ydy, mae'r coronafeirws wedi neud pethau yn wahanol. Ond os wyt ti'n berson sy'n mwynhau'r Nadolig, alli di dal ei neud e'n sbeshal."
'Cig oen yn yr Andes'
Draw ym Mhatagonia bydd Alwen Green a'i chwaer yng nghyfraith Margarita Jones de Green ddim yn dyheu am Nadolig gwyn chwaith - mwynhau'r haul fyddan nhw.
"Ar ddydd Nadolig dan ni'n mynd i'r llynnoedd neu i'r afon," medd Alwen dros y we yn Nhrefelin yn yr Andes.
"Fel rheol dan ni'n dod at ein gilydd am oen o gwmpas y tân a chael Asado. Dan ni'n sgwrsio am oriau wrth iddo fo goginio ac yna'n dod a fo fewn."
Barbeciw yn null yr Ariannin yw Asado, lle mae oen cyfan, neu gig gwahanol, yn cael ei goginio'n araf ar y tân. Salad ffrwythau sydd fel melysbryd fel arfer, ac mae amserlen y dathliadau wrth baratoi at yr ŵyl yn wahanol yn yr Ariannin hefyd.
"Yr wythfed o Ragfyr yw'r diwrnod mawr," medd Alwen gan egluro mai dyma ddiwrnod y Forwyn Fair. "Dyna pryd mae'r goleuadau yn cael eu codi a dach chi'n codi'r goeden."
'Llymed o champagne'
Ond mae'r ddwy yn falch nad oes cymaint o ffws am siopa Nadolig yn ardal yr Andes chwaith. Yn ôl Alwen, mae rhannu un anrheg rhwng teulu yn ddigon, ac ar noswyl Nadolig bydd y plant yn agor eu hanrhegion nhw.
"Mae hynny yn wahanol i chi ynte," medd Margarita, "fel arfer dan ni yn hwyr iawn yn cael swper. Mae'r swper yn dal tan un o'r gloch y bore achos ar ôl 12 dach chi'n gallu gweld y tân gwyllt yn y dre a hwyrach bydd ffrindie yn dod i gael llymed o champagne."
Ac mae'r dathliadau'n parhau wedi nos Galan hefyd.
"Ar y pumed o Ionawr mae'r doethion yn dod o gwmpas ar eu ceffylau a dod ag anrhegion i'r plant," medd Alwen.
"Mae 'na dri enw; Caspar, Melchior a Balthasar. Maen nhw'n dod ar gefn ceffylau neu ar ben lori fawr y dynion tân ac yn mynd â losin neu anrhegion i'r plant a chael hwyl."
Bydd llai o ffrindiau o Gymru yn gallu dod i'w gweld nhw eleni, ond mae caniatâd i griwiau bach gyfarfod ar hyn o bryd. Er na fydd Nadolig yr un fath, bydd y dathlu'n parhau rywsut yn y Wladfa eto eleni.
Hefyd o ddiddordeb: