Lle i enaid gael llonydd: Myrddin ap Dafydd

  • Cyhoeddwyd
Myrddin ap Dafydd

Yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd sy'n trafod y lle i enaid gael llonydd sy'n bwysig iddo, sef Braich Ciliau ym Mhen Llŷn:

Dyfyniad o englyn enwog J. Glyn Davies i Lŷn ydi'r llinell sy'n bennawd i'r gyfres hon - a gan fy mod i'n dderyn diarth o Ddyffryn Conwy sydd yn byw yn Llŷn ers dwy flynedd ar hugain, dydi hi ddim yn syndod mai i le arbennig yma yr af innau i chwilio am lonyddwch.

Y man cychwyn ydi maes parcio 'Top Nant' - yr un yn y bwlch cyn disgyn i lawr y lôn serth am Nant Gwrtheyrn.

'Lle i ryfeddu a gwagio'r meddwl i'r cymylau'

Troi ar hyd llwybr i gyfeiriad Pistyll y bydda i - ar hyd esgair uchel o dir o'r enw Braich Ciliau, gyda golygfeydd o'r ddau fôr sydd i'r gogledd ac i'r de o'r penrhyn.

Tro ben bore neu yng ngolau'r hwyr ydi hwn - ac mae golau twll y gaeaf yn arbennig yma hefyd. Rhyw dro mynd i unlle ydi hwn, os mynnwch chi - does dim rhaid mynd ymhellach na dilyn y llwybr at y fan lle mae ysgwydd y tir yn disgyn yn serth i lawr am Ciliau.

Mi allwch chi ddal i fynd, wrth gwrs. Dyma ran o Lwybr Arfordir Cymru. Daliwch i fynd ddigon pell, ddigon hir, gan gydio hwn wrth Lwybr Clawdd Offa, ac mi fyddwch yn sefyll y tu ôl i chi'ch hun mewn rhyw dair wythnos go dda.

Dyna sy'n braf am y lle - mae o fewn cyrraedd mewn byr dro, ond mi allwch fod yno'n hir yn rhyfeddu a gwagio'r meddwl i'r cymylau.

Ffynhonnell y llun, Myrddin ap Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Myrddin ap Dafydd yn ei hoff le

Un o fy hoff gwpledi yn yr iaith ydi hwn gan Hedd Wyn: 'A braich wen o heulwen oedd/Am hen wddw'r mynyddoedd.' Mae'n dal natur y tir a'r tywydd yng Nghymru ac yn cyfleu'r rhyfeddod sydyn a ddaw wrth i'r heulwen daro ar rimyn main o ddaear neu fae bychan o ewyn.

Mae'r breichiau yma i'w gweld yn aml o Fraich Ciliau gan fod cymaint o gysgodion bryniau a phantiau Llŷn i'w gweld oddi yma.

Peth arall braf am yr olygfa yma ydi'r bobl sy'n gysylltiedig â hi. Mi fydda i yn dod â ffrindiau sy'n galw heibio yma; dwi'n nabod teuluoedd y ffermydd wela i oddi yma. Mae'r bobl yn rhan ohoni.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig