Dedfrydu bachgen, 15, dros farwolaeth Carson Price
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 15 oed wedi osgoi cyfnod dan glo wrth gael ei ddedfrydu am ei ran ym marwolaeth bachgen 13 oed o Sir Caerffili.
Cafwyd hyd i Carson Price, o Hengoed, yn anymwybodol ym Mharc Ystrad Mynach ar 12 Ebrill y llynedd, a bu farw'r un diwrnod yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Plediodd y diffynnydd yn euog mewn gwrandawiad fis diwethaf i gyhuddiad o gyflenwi'r cyffur ecstasi iddo.
Wrth dderbyn Gorchymyn Atgyfeirio Ieuenctid fydd yn para am 12 mis, dywedodd wrth Lys Ieuenctid Cwmbrân: "Roedd yr hyn a wnes i yn ffôl iawn ac mae'n wir ddrwg gen i."
Dywedodd y Barnwr Rhanbarth Martin Brown wrth y llys nad oedd cyfnod dan glo yn opsiwn oherwydd oedran y diffynnydd adeg y drosedd, sef 14.
Ond mewn datganiad ar ddiwedd yr achos, dywedodd teulu Carson Price nad yw'r ddedfryd yn "danfon y neges gywir ynghylch peryglon cyffuriau".
Rhwystredigaeth
Dywed y datganiad: "Rydym yn llwyr ymwybodol fod y ddedfryd yma'n adlewyrchu oedran y troseddwr. Ond rydym yn teimlo nad yw'n mynd yn ddigon pell i ddanfon y neges gywir i bobl plentyn a pherson ifanc fod cymryd neu ddelio cyffuriau yn beryglus eithriadol gyda chanlyniadau difrifol."
Dywedodd y teulu eu bod yn cydnabod ymdrechion yr heddlu hyd yma ac yn derbyn bod yr ymchwiliad yn parhau. Ond maen nhw hefyd wedi mynegi rhwystredigaeth nad ydyn nhw wedi dwyn achos yn erbyn "yr oedolion sy'n cyflwyno'r cyffuriau yma i rwydweithiau cymdeithasol ein plant".
Mae dyn 22 oed o Gaerffili a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a'i ryddhau yn dal yn destun ymchwiliad.
Clywodd y gwrandawiad fwy o fanylion am y cyfnod cyn i Carson gael ei ddarganfod yn anymwybodol, yn welw ac yn ysgwyd ar ôl cymryd ecstasi.
Dywedodd yr erlyniad fod y diffynnydd eisiau £30 am y cyffuriau a bod Carson ond yn gallu cynnig £25 ac roedd yna gyfres o negeseuon testun ynghylch y pris.
Yn ôl ffrind oedd gyda Carson a ofynnodd pam y cymrodd y cyffuriau, atebodd: "Oherwydd mae'n ddydd Gwener, ac rwy'n hoffi'r buzz."
'Dylech chi fod yn difaru'
Dywedodd Wiliam Bebb ar ran yr amddiffyn fod y diffynnydd "yn derbyn bod rhaid iddo gael ei gosbi heddiw a bod y canlyniadau wedi achosi poen difesur parhaus".
Clywodd y llys hefyd fod negeseuon ar ffôn y diffynnydd yn y dyddiau wedi'r farwolaeth yn dangos ei fod yn dal yn ceisio prynu mwy o dabledi, ac felly, yn ôl y barnwr "heb ddysgu unrhyw beth".
Dywedodd wrtho: "Dylech chi fod yn difaru... Dylech chi fod yn dweud wrthoch chi'ch hun 'gwnaf beth bynnag y gallaf i osgoi rhoi fy hun yn y sefyllfa yma eto, ac ymdrechu i wneud yn iawn ar yr hyn y gwnes i y tro hwn'."
Yn ogystal â'r gorchymyn, fydd yn anelu at ei helpu i newid ei ymddygiad, bydd yn rhaid i'r diffynnydd dalu £105 mewn costau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd7 Mai 2019