Trafod rheolau'r Nadolig yn wyneb lledaeniad Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae Mark Drakeford wedi dweud nad ar chwarae bach y byddai'n newid ei feddwl ynglŷn â'r ymrwymiad i lacio rheolau Covid-19 am bump diwrnod dros y Nadolig.
Cynyddu mae'r pwysau ar bedair llywodraeth y DU i ailystyried y cynlluniau sy'n caniatáu i aelodau tri chartref gwrdd rhwng 23-27 Rhagfyr.
Dywedodd Mr Drakeford yn y Senedd y byddai penderfyniad y naill ffordd neu'r llall yn achosi niwed, a bod y "dewis yn un du".
Fe fydd gwleidyddion y pedair gwlad yn trafod y sefyllfa yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Mewn dau fwrdd iechyd, mae marwolaethau wedi cyrraedd y lefel uchaf ers cyfnod gwaethaf y feirws hyd yma.
Mae meddygon rheng flaen a grwpiau sy'n eu cynrychioli hefyd wedi cynyddu'r pwysau ar y llywodraethau i newid eu meddyliau.
Cafodd Mr Drakeford ei holi ar y mater gan Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd.
Dywedodd Mr Drakeford fod gwaith caled wedi ei wneud wrth lunio'r cytundeb ac na fyddai'n newid ei feddwl ar chwarae bach.
Cadarnhaodd y bydd y pwnc yn cael ei drafod mewn cyfarfod y pnawn yma rhwng arweinwyr y llywodraethau datganoledig a gweinidog y cabinet, Michael Gove.
Dewis 'anhygoel o anodd'
"Rwyf wedi derbyn e-byst dros y dyddiau diwethaf gyda phobl yn apelio'n daer i mi beidio newid fy meddwl ar beth sydd wedi ei gytuno ar gyfer y Nadolig," meddai'r prif weinidog.
"Pobl sy'n byw ar ben eu hunain, sydd wedi gwneud trefniadau i gwrdd gyda rhywun am y tro cyntaf mewn misoedd, ac sy'n dweud mai hwn yw'r unig beth maen nhw wedi bod yn edrych ymlaen ato am wythnosau."
Ychwanegodd: "Ond eto rydym yn gwybod oni bai fod pobl yn defnyddio'r ychydig ryddid ychwanegol sydd ar gael dros y Dolig mewn modd cyfrifol, yna byddwn yn gweld yr effeithiau ar wasanaeth iechyd sydd eisoes dan bwysau.
"Rwy'n meddwl bod y dewis yn un anhygoel o anodd."
Galw am gadarnhad o'r rheolau
Dywedodd fod penderfynu ar drefn o reolau yn well na threfn rhwydd hynt i bawb, lle nad yw pobl yn fodlon derbyn yr hyn sy'n cael ei awgrymu ac felly yn dilyn rheolau eu hunain.
Ychwanegodd: "Os ydym yn ceisio rhwystro pobl rhag cwrdd dros y Nadolig yna bydd math gwahanol o niwed yn cael ei wneud i iechyd meddwl pobl."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Andrew RT Davies, bod "dadleuon pwerus" dros dynhau'r cyfyngiadau.
Mae "cytundeb clir" ar gyfer llacio'r cyfyngiadau dros y Nadolig, meddai, ond bellach mae "dadleuon pwerus yn cael eu gwneud yn wyneb pwysau ar y GIG yng Nghymru".
Galwodd am gadarnhad o'r rheolau gan Lywodraeth Cymru "fel mater o frys" er mwyn i bobl gael paratoi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020