Ffigyrau Covid yn amlygu pwysau ar fyrddau iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae dau o fyrddau iechyd Cymru wedi cofnodi'r nifer fwyaf o farwolaethau wythnosol ers diwedd Ebrill, sef penllanw'r pandemig hyd yma.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwadol cafodd 54 o farwolaethau Covid eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, 39 mewn ysbytai a 15 mewn cartrefi gofal.
Roedd patrwm tebyg yn ardal Aneurin Bevan, gyda 53 o farwolaethau - 38 mewn ysbytai a 13 mewn cartrefi gofal.
Ond bu gostyngiad am yr ail wythnos yn olynol yn y ffigyrau ar gyfer Cymru gyfan, gyda 203 o farwolaethau wedi eu cofnodi yn ôl y Swyddfa Ystadegau.
Fe wnaeth nifer y marwolaethau yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ostwng o 62 i 42, ac roedd yn 18 o farwolaethau yn ardal Hywel Dda.
Roedd 24 o farwolaethau covid yn ardal Betsi Cadwaladr, 14 yng Nghaerdydd a'r Fro a dau ym Mhowys.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd naw o farwolaethau ychwanegol wedi eu cofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.
Cafodd 615 o achosion newydd eu cofnodi hefyd, ond mae'r ffigyrau yma'n cael eu mesur yn wahanol i'r Swyddfa Ystadegau yr ONS.
Mae'r ONS hefyd yn cymharu nifer y marwolaethau eleni gyda blynyddoedd blaenorol.
O'i gymharu â'r cyfnod 2015-2019, ar gyfartaledd mae yna 167 yn fwy o farwolaethau - marwolaethau ychwanegol - ar gyfer yr wythnos hon.
Yng Nghymru mae nifer yr holl farwolaethau gan gynnwys rhai Covid wedi codi o 796 i 836 ar gyfer yr wythnos ddiweddara.
Mae'r cyfartaledd o 'farwolaethau ychwanegol' yng Nghymru yr wythnos hon yn gynnydd o 23.1% o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol. Y cyfartaledd ar gyfer Lloegr yw 14.6%
Ond wrth gymryd y cyfartaledd ers dechrau'r flwyddyn, cyfartaledd Cymru o ran 'marwolaethau ychwanegol 'yw 10%, o'i gymharu â 13.6% yn Lloegr.
Cyfanswm y marwolaethau Covid yng Nghymru gafodd eu cofnodi erbyn 4 Rhagfyr yw 3,892.
Yn y cyfamser, mae dau o weinidogion San Steffan wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn dweud y gallai ysbytai yn Lloegr fod ar gael i helpu pe na bai ysbytai yng Nghymru yn gallu cynnig triniaeth i gleifion nad sy'n dioddef o covid.
Mae byrddau iechyd Bae Abertawe ac Aneurin Bevan wedi'r rhoi'r gorau dros dro i lawdriniaethau nad sy'n rhai brys - er mwy trin cleifion covid.
"Rydym yn ymwybodol fod byrddau iechyd yng Nghymru yn ystyried rhoi'r gorau dros dro i driniaethau ac apwyntiadau (gan gynnwys apwyntiadau brys) er mwyn mynd i'r afael â'r pandemig," meddai'r llythyr gan ysgrifennydd Cymru Sion Hart ac ysgrifennydd iechyd Lloegr Matt Hancock.
"Rydym yn sefyll yn barod i gefnogi ysbytai yng Nghymru lle bo angen oherwydd pwysau dwys ar wasanaethu drwy roi cymorth i gleifion mewn ysbytai dros y ffin."
Dywed y llythyr hefyd fod y fyddin ar gael i roi cymorth i Lywodraeth Cymru lle bod angen.
Dywedodd Mark Drakeford y byddai'n ateb y llythyr i "ategu unwaith eto yr egwyddor o gydgymorth sydd wedi bodoli drwy coronafeirws".
Ychwanegodd: "Mae Cymru wedi darparu 11m eitem o PPE i'r GIG yn Lloegr fel rhan o'n cydgymorth.
"Mae'r llythyr a dderbyniais heddiw yn ategu hynny, ac rwy'n falch iawn, unwaith eto, i gadarnhau hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020