Oedi brechu wedi i staff brofi'n bositif am Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae brechiadau wedi cael eu hoedi wedi i staff brofi'n bositif am Covid-19

Mae naw aelod o staff canolfan frechu coronafeirws yng Nghaerdydd wedi profi'n bositif am y feirws.

Mae ebost i staff gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn dweud bod brechu wedi "oedi" a bod staff eraill sy'n gweithio ar y safle yn cael profion.

Ychwanegodd y bwrdd: "Does dim risg ychwanegol wedi 'i adnabod i unrhyw un sydd wedi cael ei frechu yn y ganolfan."

Dywed yr ebost, sydd wedi cael ei weld gan y BBC: "Gallwn gadarnhau bod naw o staff yn ein canolfan frechu yn Sblot wedi profi'n bositif am Covid-19.

"Bydd ein brechiadau Covid-19 dros y dyddiau nesaf yn cael eu hoedi wrthi ni gynnal profion ar ein staff, a byddwn yn gwerthfawrogi eich hamynedd yn y cyfnod yma."