11,468 achos Covid newydd wedi oedi mewn cofnodi data

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf

Mae 11,468 o achosion ychwanegol a 52 o farwolaethau yn ymwneud â'r coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru, yn dilyn oedi i'r systemau data.

Roedd swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cydnabod bod "tan-adrodd sylweddol" dros y dyddiau diwethaf oherwydd gwaith ar systemau cyfrifiadurol.

Mae'r cyhoeddiad yn golygu bod cyfradd achosion Cymru bellach yn 530.2 i bob 100,000 o'r boblogaeth dros yr wythnos ddiwethaf.

Bore Iau, fe wnaeth y prif weinidog ddweud nad "stori am ddata coll neu broblemau cyfrifiadurol" oedd hon, ond am "ddifrifoldeb y sefyllfa".

Daw ar ôl i'r llywodraeth gyhoeddi mai dwy aelwyd, nid tair, fydd yn cael cwrdd dros y Nadolig yng Nghymru eleni.

Beth mae'r ffigyrau yn ei ddangos?

Cafodd yr 11,000 o brofion cadarnhaol ychwanegol eu cymryd yn bennaf rhwng 9 a 15 Rhagfyr.

Yn ardal Merthyr Tudful, mae'r data'n dangos bod y gyfradd achosion yn 1,032 i bob 100,000 o'r boblogaeth ar gyfer y cyfnod.

Cafodd 623 o brofion positif eu cofnodi yno yn yr wythnos hyd at 12 Rhagfyr.

Mae 14 o ardaloedd hefyd yn adrodd y cyfraddau uchaf erioed, gan gynnwys Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Ar 14 Rhagfyr, cafodd 153 o achosion eu hadrodd dros Gymru, ond mae'r data newydd yn dangos bod y gwir nifer yn 2,592 - dros 2,400 o wahaniaeth.

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos tua 2,000 o achosion ychwanegol ar bedwar diwrnod arall.

Beth ddywedodd y prif weinidog?

Yn siarad fore Iau, dywedodd y prif weinidog nad problem gyfrifiadurol oedd hon, ac nad oedd achosion positif wedi eu methu.

Dywedodd Mark Drakeford bod rhybudd am welliannau i'r system wedi eu cyhoeddi ddydd Gwener.

"Nid stori am ddata coll neu broblemau cyfrifiadurol sydd yma, ond am ddifrifoldeb y sefyllfa", meddai.

"Does dim problem gyfrifiadurol a does dim achosion wedi eu methu. Mae pawb gafodd brawf positif wedi cael gwybod am hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae canfod mwy o achosion positif yn "newyddion da" meddai Mark Drakeford

Dywedodd: "Doedd y data ddim ar goll, roedd e yna drwy'r amser, yn aros i gael ei fwydo i'r system.

"Roeddech chi'n gwybod nad oedd y system yn mynd i allu adrodd yr holl achosion yma."

Ychwanegodd ei fod wedi disgwyl niferoedd uchel, gan fod swyddogion Cymru wedi cynnal y nifer uchaf o brofion yr wythnos ddiwethaf.

"Os ydych chi'n profi mwy o bobl byddwch chi'n canfod mwy o achosion, sy'n newyddion da."

Beth oedd ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru?

Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi gwneud eu gorau i rybuddio'r cyhoedd am y gwelliannau i'r systemau cyfrifiadurol.

"Dim ond un llif data ydy hwn, ac ry'n ni'n edrych ar nifer o bethau eraill tra'n chwilio am dueddiadau'r darlun Covid yng Nghymru," meddai.

Ychwanegodd bod rhaid gwneud y gwaith cyn y flwyddyn newydd am fod y gefnogaeth i'r hen systemau yn dod i ben ym mis Ionawr.

"Roedd defnyddwyr yn cael probelmau cyson gydag e - roedd y system yn methu yn aml, ac yn profi'n anghynaladwy," meddai.

"Ni fydden ni wedi gallu gwneud unrhyw beth yn wahanol - roedd y feddalwedd ar fin methu'n llwyr felly os na fydden ni wedi gwneud y gwelliannau mae'n bosib na fydden ni'n cael unrhyw ganlyniadau trwodd.

"Fy neges i'r cyhoedd ydy peidiwch gadael i'r oedi yma i'r canlyniadau dynnu ein sylw - dyw e ddim wedi newid y tueddiadau. Mae coronafeirws yn dal yma, yn ffynnu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Gydag achosion cadarnhaol yng Nghymru yn codi i'r lefelau uchaf erioed mae'n hanfodol bod adrodd ar ddata yn amserol ac yn gadarn.

"Mae angen darlun cyflawn a chyfredol ar y cyhoedd o'r sefyllfa i sylweddoli difrifoldeb yr hyn sy'n ein hwynebu. Mae angen sicrwydd brys arnom fod y methiannau wedi cael sylw."

Mae'r Ceidwadwr Andrew RT Davies wedi galw am ymchwiliad i'r "camgymeriad data syfrdanol arall yn ystod rheolaeth y Gweinidog Iechyd ar argyfwng Covid".

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n yn galw'r llanast diweddaraf hwn yn 'dan-adrodd sylweddol'. Rwyf yn ei alw yn 'dan-ddatganiad sylweddol' sy'n bychanu gwir raddfa'r broblem."

Pynciau cysylltiedig