Ateb y Galw: Y canwr Arwel Jones

  • Cyhoeddwyd
Arwel Jones

Y canwr Arwel Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan ei fab Dafydd Meredydd.

Mae Arwel yn gyfarwydd fel rhan o un o'r boybands Cymraeg gwreiddiol - Hogia'r Wyddfa. Gallwch wrando'n ôl ar raglen radio diwrnod Nadolig Arwel a Myrddin, Hogia'r Wyddfa ar BBC Sounds.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Lladd fy hun yn crïo ar lin Miss Morfydd Evans, athrawes dosbarth derbyn Ysgol Dolbadarn Llanberis ar fy niwrnod cyntaf yn yr ysgol. Babi mami go iawn!

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Doris Mary Anne Kappelhoff!

Disgrifiad o’r llun,

Pwy oedd Doris Mary Anne Kappelhoff? Doris Day wrth gwrs!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Cae pêl-droed Llanberis lle y treuliais ddeuddeng mlynedd fel chwaraewr, cyn i mi orfod dewis rhwng fy nhraed a'm larynx, a blynyddoedd wedyn fel cefnogwr brwd a Llywydd Oes ymysg ffrindiau o'r un anian.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pan gyhoeddwyd canlyniadau pleidleisiau Pennsylvania ar newyddion CNN. Crïo o lawenydd oeddwn i a dagrau o ryddhad a gobaith oedd yn llifo - mewn eiliad rhoddwyd Trump yn y dymp!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Plentyn yn Ysgol Gynradd Bontnewydd yn dangos i mi sut i ddefnyddio cyfrifiadur. Cywilydd? Peidiwch â sôn - fi oedd ei phrifathro hi! Penderfynais ymddeol ymhen blwyddyn!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Hoff Lyfr: Detholiad o Gerddi T. H. Parry Williams. Er i mi bori drwy'r cynnwys ugeiniau o weithia - dwi'n darganfod rhywbeth newydd yn y cerddi bob tro. Mae darllen rhai o'r cerddi yma yn procio'r cydwybod ac ar yr un pryd yn falm i'r enaid. Trysor!

Hoff Ffilm: Dwi wedi bod yn sgit am ffilmiau cowbois ers yn blentyn ac yn parhau felly! Y ffefryn ydi un o'r rhai cynhara' du a gwyn o 1952, High Noon. Actio gwych gan Gary Cooper a Grace Kelly, stori gynnil a chrefftus yn adeiladu i uchafbwynt, a cherddoriaeth gefndirol yn ychwanegiad addas i'r cyfanwaith. Clasur!

Ffynhonnell y llun, LMPC
Disgrifiad o’r llun,

Mae High Noon yn parhau i fod yn ffefryn i Arwel

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Y diweddar annwyl Rhydderch Jones, cyfarwyddwr rhaglenni teledu eiconig, awdur, dramodydd a sgriptiwr o'r radd flaenaf. Cwmnïwr heb ei ail ac yn hoff o'i beint! Dyfynnwr myrdd o gerddi, gan gynnwys dwy awdl, a rheiny ar ei gof a thalpia' o weithiau Dylan Thomas. Be' yn well o flaen tanllwyth o dân mewn tafarn croesawgar yn rhyfeddu at ddawn gŵr athrylithgar. Braint!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Gwladgarol, sensitif, diamynedd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Chwyrnu pan yn cysgu a bytheirio pan mae pethau'n mynd o chwith.

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dathlu fy mhen-blwydd yn 70 oed. Ar ôl pysgota drwy'r dydd ar lan yr Afon Teifi, dychwelyd i hen blasdy yn ardal Llandysul roedd y plant wedi ei logi am y penwythnos ac yno ymhlith teuluoedd Caerdydd, Brynaman, Waunfawr a Phenisarwaun, dathlu hyd oriau mân y bore!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd yn lloerig!

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n greadur ofnadwy o hiraethus. Dyn fy milltir sgwâr fum i ac yn parhau felly. Mae wythnos o gartref yn gallu bod yn hunllefus hyd yn oedd efo fy nheulu o'm cwmpas! Mae Carys fy ngwraig yn gwybod yn iawn pan fyddwn ar wyliau y bydd y cwestiwn yn cael ei ofyn -"faint sgyno ni ar ôl yn fama eto?"

Gofynnwyd i mi unwaith gan newyddiadurwr: "Pa un o deithiau Hogia'r Wyddfa oedd yr un mwya' cofiadwy?" Fy ateb: "Yr un oedd yn dwad â fi adra!"

Disgrifiad o’r llun,

Elwyn, Arwel a Myrddin: Cafodd Hogia'r Wyddfa ei sefydlu yn 1963

Beth yw dy hoff gân a pham?

Country Roads gan y diweddar John Denver. Gweler yr ateb uchod am y rheswm!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Adam Price, y diwrnod y bydd yn cael ei dderbyn yn Brif Weinidog Cymru yn y Senedd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?

Unrhyw beth â garlleg ynddo, cig oen i ginio dydd Sul, pwdin reis Carys.

Pwy wyt ti'n ei enwebu?

Myrddin Owen - Hogia'r Wyddfa

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw