Ateb y Galw: Y canwr Myrddin Owen
- Cyhoeddwyd
Y canwr Myrddin Owen sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Arwel Jones yr wythnos diwethaf.
Ynghyd â bod yn aelod o Hogia'r Wyddfa, mae Myrddin hefyd yn adnabyddus am fod yn un hanner y ddeuawd Rosalind a Myrddin gyda'i wraig. Gallwch wrando yn ôl ar Myrddin ac Arwel yn cyflwyno Swyn y Sul ar BBC Radio Cymru.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae'r blynyddoedd wedi mynd heibio cymaint i geisio cofio fy atgof cyntaf. Fe'm ganwyd yng nghanol yr Ail Ryfel Byd (dyna ddangos oedran ynte). Yn y cyfnod yna roedd yna ffatri, ar ran o dir chwarel Dinorwig, yn cynhyrchu rhannau o awyrennau i ymgyrch rhyfel Prydain Fawr.
Mi fyddai yna awyrennau estron yn hedfan uwchben Llanberis a hynny i geisio dinistrio'r ffatri. Mae gennyf gof o Mam yn mynd â mrawd Gwynedd a fi i ddiogelwch y twll dan y grisiau. Ai breuddwyd yntau atgof oedd hynny, wn i ddim, ond bydd rhywun yn sicr o'm cywiro!!
Mae gennyf atgof gwir ohonof yn canu pan oeddwn tua pedair neu bump oed ar ben llwyfan yn festri Capel Coch yn canu mewn eisteddfod. Wn i ddim a enillais, neu gael ychydig o geiniogau am gynnig.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Roedd Llanbêr yn llawn o ferched hyfryd a del pan o'n i'n fy arddegau ac ydw i am roi gwybod ichi pwy oeddynt? Na dwi'm yn credu, ond fe fydd fy nghyfoedion sy'n darllen hwn yn gwybod yn iawn pwy oeddent.
Ond ar ôl gweld y ffilm Doctor Zhivago o'n i'n genfigennus iawn o Omar Sharif yn cyd-actio gyda Julie Christie. Roedd hi'n llawer rhy hen imi wrth gwrs ond ro'n i wedi gwirioni'n lân gyda hi. Wedi gweld y ffilm nifer iawn o weithiau a hynny ddim ond i weld Julie.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dros y blynyddoedd dwi wedi crwydro Cymru benbaladr gydag aelodau Hogia'r Wyddfa a gyda'm gwraig Rosalind i ddiddanu mewn cyngherddau. Pa le yng Nghymru sydd ora gennyf? Wel sut 'da chi'n ateb y cwestiwn yna heb bechu pobl?
Mae pob ardal yng Nghymru â'i rinweddau arbennig. Ond be' 'di geiriau'r gân deudwch - 'Does unman yn debyg i gartref ' - ac mae Llanberis neu 'Hen Bentra Bach Llanbêr' yn agos iawn i'r brig. A gweddill Cymru, wel maddeuwch imi, 'tewach gwaed na dŵr'...
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n berson teimladwy iawn, ac mae nifer o bethau yn gwneud imi grïo. Y tro diwethaf oedd wrth wylio'r ffilm E.T. Ffŵl gwirion ynte!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pan yn gweithio i'r Cyngor Sir yng Nghaernarfon flynyddoedd yn ôl, roedd yn arferiad gan nifer ohonom fynd am ginio i caffi Mrs Hughes yn Twll yn y Wal - Hole in the Wall oedd o pryd hynny. Un stafell ffrynt fechan oedd hi a'r pupur a halen a'r poteli sôs ar y cownter i bawb helpu eu hunain.
Ar un achlysur roeddwn angen sôs coch ar fy mwyd. Wrth ddod â'r botel o'r cownter dyma fi'n ei hysgwyd ar y ffordd i'r bwrdd heb sylweddoli nad oedd rhywun wedi cau top y botel yn iawn. Trychineb - aeth y sôs i bobman, dros ben pobl, ar y waliau a phob man arall y gallwch feddwl, hynny yw, ar wahan i'm mhlât bwyd i.
Chwerthin wnaeth pawb yn cynnwys Mrs Hughes, ond bu'n dasg fawr i lanhau pobman, ac oeddwn, roeddwn yn hwyr yn ôl i'r gwaith y prynhawn hwnnw. Cywilydd ac embaras a deud y lleiaf.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Mae gennyf edmygedd mawr o'r cyfansoddwr byd-enwog Gareth Glyn. Ar hyn hyn o bryd mae ei hunangofiant Da Capo gennyf wrth ochr fy ngwely ac mae ei gynnwys yn sicr yn agoriad llygaid. Wyddwn i ddim ei fod wedi bod yn actor teledu yn ei ieuenctid ac yn gyn-trainspotter a charafaniwr ymhlith nifer fawr o bethau diddorol. Gwerth ei ddarllen.
Y llyfr nesaf sydd gennyf yw hunangofiant arall, sef un Glyn Tomos, ac yntau fel fi yn un o ardal Chwarel Dinorwig ac wedi bod yn Ysgol Brynrefail. Ma' pobl yr hunangofiannau yma yn bobl dewr iawn yn datgelu cymaint amdanynt eu hunain.
Mwynhau ystod eang o ffilmiau megis Robocop a Student Prince. Beth am bodlediad... cofiwch fy oedran da chi!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Dwi 'di edmygu llais Mario Lanza dros y blynyddoedd ac mi brynais nifer fawr o'i recordiau pan yn fy arddegau o siop Gray Thomas yng Nghaernarfon. Cafodd yrfa amrywiol iawn gyda recordio, cyngherddau, operâu a ffilmiau. Fe'i disgrifiwyd fel Caruso America ond bu farw'n ŵr ifanc iawn gyda holl bwysau ei yrfa, a byddai'n ddiddorol clywed ei hanes dros baned o de neu goffi.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cyfeillgar, trefnus (gyda rhai pethau) a busneslyd (meddai Rosalind) ac os caf roi un arall, siaradus (ac mae pawb yn dweud hynny!)
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dim arferion drwg hyd y gwn i, ond byddai nifer o fy ffrindiau hyd yn oed yn anghytuno â'r ateb yna mae'n siŵr. Dwi'n siarad gormod er fy lles fy hun weithiau, ac yn gweiddi siarad ar y ffôn meddai Rosalind. Tydi'r clyw ddim fel y bu gyda threigliad amser, ac mae'n rhaid sicrhau fod pobl yn clywed beth sydd gennych i'w ddweud yn 'does.
O archif Ateb y Galw:
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dianc i Eryri i chwilio am Ogof Arthur ac aros yn ddiogel yno gyda ef a'i fyddin cyn y bydd yn amser ail-ddeffro, hynny yw, os byddai pethau wedi dod yn ôl i drefn yn y byd ynte!
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mi ges i un wers biano pan yn ifanc a dyna ddiwedd yr yrfa honno. Mi fyddai Mam yn chwarae'r organ geg ac fe'm dysgodd innau i chwarae deuawd gyda hi ond 'rioed yn gyhoeddus. Taswn i wedi cario 'mlaen hwyrach y byddwn yn rhyw Lary Adler Cymraeg.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Mae chwaeth rhywun yn newid yn aml a hynny yn ddibynnol ar hwyl rhywun. Unrhyw gân, gan unrhyw denor o fri, boed yn Gymro neu yn ganwr rhyngwladol. 'Does dim fel llais tenor nag oes, a dyna bechu eto mae'n siŵr. Mae Stuart Burrows yn un o'r ychydig denoriaid sy'n cychwyn Arafa Don yn yr uchelfannau ac mae hyn yn rhoi ias i lawr asgwrn fy nghefn i wrth wrando arno.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Un - a'r pwyslais ar un - o'r nosweithau gora' oedd gweld fy hoff gantores, Shirley Bassey, yn canu mewn cyngerdd yng Nghaerdydd. Nifer o ddynion yn mynd â blodau iddi wrth y llwyfan a finna' yn methu gan fy mod yn y galeri.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Unrhyw golffiwr o safon da. Dros y blynyddoedd mae gennym griw yn galw'n hunan yn Criw Golff Dydd Mawrth ac yn codi arian at elusennau. Mae rhai golffwyr da iawn yn rhan o'r Criw, ac mi fyddai'n hyfryd dod i'r brig ar adegau. Mi fydda i'n teimlo weithiau mod i'n lladd fy hun yn cario fy nghlybiau i ddim ar rai dyddiau Mawrth. Ond hwyl ydi o ynte!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Dwi'n hoffi mwyd ond byddai coctel corgimwch i gychwyn yn fendigedig, a'i ddilyn gyda stêc (well done) a phwdin sticky toffee, a dyna fi'n llawn.
Pwy wyt ti'n ei enwebu?
Gwawr Edwards