Rhybudd i fusnesau wrth i'r cyfnod pontio ddod i ben

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nwyddau wedi'u storioFfynhonnell y llun, Penderyn

Mae busnesau'n storio cynnyrch gan fod "pryder" ynglŷn â beth fydd yn digwydd pan ddaw cyfnod pontio Brexit i ben ar 1 Ionawr, yn ôl Siambr Fasnach Cymru.

Dywedodd Stena Line fod ei llwybr fferi rhwng Dulyn a Chaergybi wedi bod y prysuraf erioed dros y tair wythnos diwethaf.

Mae'r Siambr yn rhybuddio busnesau "i beidio cuddio eu pennau yn y tywod" ac efallai na fydd manylion y berthynas fasnachu rhwng y DU a'r UE yn glir erbyn 1 Ionawr hyd yn oed os fydd cytundeb.

Mae trafodaethau'n parhau cyn i'r cyfnod pontio ddod i ben.

Dywedodd prif weithredwr y Siambr, Heather Anstey-Myers, wrth y BBC fod storio cynnyrch yn digwydd o ran allforio mwy o nwyddau o Gymru a mewnforio mwy o nwyddau gan gynnwys cydrannau.

"Mae'r sefyllfa yn un eithaf pryderus gan ein bod ni wedi cael llawer o ansicrwydd. Rhaid cofio bod busnesau eisoes wedi bod yn masnachu drwy pandemig byd-eang, a nawr mae'n rhaid iddyn nhw geisio gweithio allan beth i'w wneud â'r newid amgylchedd masnachu gyda'r UE.

"Felly, i unrhyw fusnes sy'n teimlo na fyddant yn cael eu heffeithio - peidiwch â chuddio eich pennau yn y tywod. Edrychwch ar sut y gallech gael eich effeithio, hyd yn oed os fydd effaith posib ar eich cadwyni cyflenwi," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heather Anstey-Myers fod y sefyllfa'n un "eitha pryderus"

Mae cwmni Penderyn yn cynhyrchu wisgi a gwirodydd eraill ger Bannau Brycheiniog ac fel llawer o gwmnïau mae'n allforiwr sydd hefyd yn dibynnu ar fewnforion.

Dywedodd ei brif weithredwr, Stephen Davies, gydag wythnosau i fynd cyn diwedd y cyfnod pontio, ei fod wedi bod yn storio cynnyrch.

"Rydym yn mewnforio poteli gwydr o ansawdd uchel iawn. Maen nhw'n dod o Ffrainc," meddai.

"Ry'n ni'n cynllunio yn ofalus iawn bob amser i sicrhau bod y gwydr yn cyrraedd yn brydlon. Ac mae hynny llawer yn anoddach nawr oherwydd yr ansicrwydd. A fydd trethi mewnforio ychwanegol? Beth fydd yn digwydd? Felly mae hynny'n rhan o'r her."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae pethau'n llawer anoddach oherwydd yr ansicrwydd," medd Stephen Davies

Mae tagfeydd wedi bod ym mhorthladdoedd ledled y DU ac mae ofnau y gallai'r problemau waethygu pe na bai cytundeb masnach wedi i'r cyfnod pontio ddod i ben.

Mae storio cynnyrch yn ychwanegu at y pwysau sydd ar y system drafnidiaeth gan gynnwys porthladdoedd a chludo nwyddau awyr, yn ôl Siambr Fasnach Cymru.

Maen nhw'n dweud bod problemau ymarferol gan gynnwys prinder paledi i symud nwyddau.

Mae cwmnïau warws a chludo nwyddau wedi gweld cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau gydag ychydig iawn o le sbâr ar ôl ar safleoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geraint Davies fod cysylltiadau'r cwmni gydag Iwerddon wedi helpu i baratoi'n well

Mae cwmni John Raymond Transport ym Mhen-y-bont ar Ogwr - sydd gyda 120 o gerbydau - wedi bod yn brysurach nag erioed o'r blaen.

"Mae'n hynod o brysur ar hyn o bryd," meddai Geraint Davies, prif swyddog gweithredu'r cwmni.

"Mae cyfraddau gwaith wedi cynyddu'n gynt nag y byddent fel arfer yr adeg hon o'r flwyddyn, ac mae Covid a phwysau staff yn gwneud pethau'n anoddach. Ond rydym yn llwyddo i ddelio â phethau yn y ffordd fwyaf pragmatig posibl."

Dywedodd fod cysylltiadau'r cwmni gydag Iwerddon wedi helpu i baratoi'n well ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.

Mae Cymdeithas Cludo Nwyddau Ffyrdd Iwerddon wedi dweud o'r blaen ei bod yn disgwyl y bydd "anrhefn llwyr" pan ddaw'r cyfnod pontio i ben.

Ond dywedodd Stena Line, sy'n berchen porthladd Caergybi, y byddai'r broses yn un esmwyth.

Pynciau cysylltiedig