Covid-19: Profion torfol i ddechrau ym Merthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd
merthyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd profion torfol yn dechrau ym Merthyr Tudful ddydd Sadwrn, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau.

Y sir yw'r gyntaf yng Nghymru lle bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno, gyda chymorth y fyddin.

Y gobaith yw y bydd y profion yn dod o hyd i bobl iach a allai fod wedi'u heintio, fel y gallan nhw hunan-ynysu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd holl drigolion y sir yn cael cynnig profion Covid o ddydd Sadwrn hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw symptomau.

Bydd y safle cyntaf yn agor yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful ar 21 Tachwedd, a bydd safleoedd eraill yn agor yn ddiweddarach yn y mis.

Merthyr Tudful oedd â'r gyfradd uchaf yn y DU ar ddechrau mis Tachwedd.

Erbyn hyn, mae'r gyfradd yn uwch ym Mlaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aelod o'r fyddin yn croesawu trigolion Lerpwl mewn canolfan brofi dros dro yn stadiwm Anfield

Mewn cynllun peilot yn Lerpwl, cafodd 23,000 o bobl eu profi, gan ganfod 154 o achosion, ac mae ar y gweill ar gyfer 67 o ardaloedd pellach yn Lloegr.

Bellach, mae dros 700 o bobl heb symptomau wedi profi'n bositif am Covid yn ardal Lerpwl yn dilyn bron i 100,000 o brofion.

Mae cynllunwyr milwrol wedi bod yn ardal Merthyr Tudful ers yr wythnos ddiwethaf.

Cyfradd achosion Covid-19 ym Merthyr Tudful. Achosion wythnosol fesul 100,000 o'r boblogaeth.  Merthyr o'i gymharu â chyfartaledd Cymru.

Bu 458 o achosion ym Merthyr Tudful yn ystod yr wythnos flaenorol ac roedd cyfradd yr achosion wedi taro 759 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth.

Roedd cyfran y canlyniadau positif o brofion a gymerwyd hefyd yn bryderus o uchel - bron i draean o'r bobl a gymerodd brawf.

Mae'r cyfraddau hynny wedi gostwng ers hynny ac mae Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot bellach wedi mynd heibio Merthyr.

Sut fydd y drefn yn gweithio?

Dylai pawb sy'n byw neu'n gweithio yn y sir gael dau brawf dros 14 diwrnod, neu dri phrawf dros gyfnod o dair wythnos, medd Cyngor Merthyr Tudful, ac mae pobl yn cael gofyn am fwy os oes angen.

Gall unrhyw un dros 11 oed gael eu profi.

Does dim system fwcio o flaen llaw - gall pobl fynd yn syth i'r ganolfan brofion.

Dan system brofion torfol, mae modd cael canlyniad mewn rhwng 20 munud a hanner awr.

Os yw person yn cael canlyniad positif, bydd yn rhaid iddyn nhw fynd adref yn syth i hunan-ynysu, a chael y prawf traddodiadol.

Mae'n fwriad i rai canolfannau fod ar waith tan 23 Rhagfyr.

Mae rhagor o fanylion ar wefan y cyngor, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer yr achosion wedi dechrau gostwng ym Merthyr Tudful

Roedd Merthyr Tudful yn "ddewis amlwg" o ran cynnal profion torfol, medd pennaeth GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, sy'n apelio ar bobl i fanteisio ar y cynllun, boed â symptomau coronafeirws ai peidio.

Dywedodd arweinydd Cyngor Merthyr Tudful, Kevin O'Neill ei fod yn credu y bydd pobl yn gwneud hynny, gan fod ganddo "ffydd ym mhobl Merthyr Tudful".

Bydd yna 14 o ganolfannau yn y pen draw, meddai.

"Rydym oll wedi dychryn o weld y nifer uchel o achosion ym Merthyr Tudful ac mae angen gweithredu i ymateb fel cymuned i warchod ein trigolion.

Pwysleisiodd bwysigrwydd mynd am brawf wedi i'r arbrawf profi torfol cyntaf, yn Lerpwl, ganfod "700 o bobl oedd â'r feirws, heb yn wybod iddyn nhw - achosion na fyddai wedi eu darganfod fel arall".

Ymateb gwleidyddol

Daeth croeso i'r cyhoeddiad gan lefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Andrew RT Davies.

Dywedodd: "Rwy'n falch o weld y prosiect yma'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Merthyr, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chefnogaeth gan y lluoedd arfog, a ddylai fod wedi bod yn fwy cyffredin gydol y pandemig.

"Mae profi torfol yn ddull hanfodol i gynorthwyo lleihau'r nifer sy'n mynd i'n hysbytai, a gobeithio y bydd yn lleihau'r pwysau a welir yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf.

"Os fydd yn llwyddiannus, rwy'n gobeithio y bydd gweinidogion yn gweithio'n bositif gyda phartneriaid i sicrhau bod hyn yn cael ei ehangu i ardaloedd eraill yng Nghymru gyda nifer uchel o achosion er mwyn i ni gael mwy o reolaeth o'r feirws, a dod ag ychydig mwy o normalrwydd i fywydau pobl."

Dywedodd Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd sy'n cynrychioli De Ddwyrain Cymru, fod profi torfol "yn gam cyntaf pwysig" ond bod angen gwneud mwy i helpu pobl hunan-ynysu adref yn ddiogel.

"Dyma pam mae Plaid Cymru'n galw am ddynodi'r fath ardaloedd yn 'Ardaloedd Cefnogaeth Arbennig Covid', i godi'r taliadau hunan-ynysu yn yr ardaloedd hyn i £800 ac i awdurdodau lleol dderbyn y gefnogaeth ychwanegol angenrheidiol," meddai.

"Mae angen i'r gefnogaeth ychwanegol yma fod yn ei lle y funud y mae'r profi'n dechrau ddydd Sadwrn. Mae pobol... angen gofal, nid dim ond diagnosis."