Pum person ifanc i'w gwylio ym myd y campau yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Unwaith eto eleni, mae Cymru Fyw wedi herio Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru, Owain Llŷr, i ddewis pum person ifanc ym myd y campau i'w gwylio yn 2021. Gadewch i ni wybod be' ry'ch chi'n ei feddwl...

Sam Costelow -19 oed - Rygbi

Chwaraewr ddaeth i sylw pawb tra'n chwarae i dîm dan-20 Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Y maswr oedd seren y gêm wrth i Gymru guro Lloegr o 23-22. Fe sgoriodd 18 o bwyntiau, gan gynnwys cais unigol gwych.

O Bencoed yn wreiddiol, fe chwaraeodd i dîm o dan 16 y Gweilch cyn gadael Cymru er mwyn astudio yn Ysgol Oakham ac ymuno ag academi clwb Caerlŷr.

Fe ddychwelodd i Gymru i ymuno â'r Scarlets ar ddechrau'r tymor. Tydi o dal ddim wedi chwarae i dîm cyntaf Y Scarlets, ond mater o amser ydi hi cyn iddo gael cyfle yn y crys rhif 10 gan Glenn Delaney.

Lily Woodham - 20 oed - Pêl-droed

Mi roedd 2020 yn flwyddyn siomedig i dîm merched Cymru ar ôl iddyn nhw fethu â chyrraedd gemau ail-gyfle Euro 2022.

Ond gydag un llygad ar y dyfodol, fe welson ni Jayne Ludlow yn rhoi cyfle i chwaraewyr iau yn ystod yr ymgyrch ragbrofol.

Un o'r chwaraewyr oedd Lily Woodham, ac am argraff mae hi wedi ei greu ar y llwyfan rhyngwladol yn barod. O fewn munudau i ddod ymlaen fel eilydd i ennill ei chap cyntaf yn erbyn Ynysoedd Y Ffaro fe sgoriodd ei gôl ryngwladol gyntaf.

Gyda chwaraewyr fel Jess Fishlock a Helen Ward yn dod tuag at ddiwedd eu gyrfaoedd, mi fydd Woodham yn sicr yn chwarae rhan fwy blaenllaw yn ymgyrch ragbrofol Cwpan Y Byd 2023.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Alex Horton -16 oed - Criced

Anaml iawn mae chwaraewr criced yn cael cytundeb pum mlynedd o hyd. Ond dyna be mae Morgannwg wedi ei wneud gydag Alex Horton.

Mae Cyfarwyddwr Criced y sir, Mark Wallace, yn ei ddisgrifio fel "gŵr ifanc talentog ac aeddfed".

Fe chwaraeodd i dîm cyntaf Trecelyn pan oedd yn 13 oed, ac yn ogystal â bod yn wicedwr da mae o hefyd yn fatiwr o safon.

Mae Horton ar y funud yn astudio ar gyfer Lefel A mewn ysgol yn Rhydychen, ac mi fydd yn parhau i gyfuno ei astudiaethau gyda chriced.

Luke Jephcott -20 oed - Pêl-droed

Enw anghyfarwydd o bosibl i gefnogwyr Cymru, ond chwaraewr sydd wedi creu argraff i Plymouth Argyle yn Adran 1 y tymor yma.

O Aberystwyth yn wreiddiol, fe dreuliodd yr ymosodwr gyfnod ar fenthyg gyda Truro sy'n chwarae yn y 7fed haen ym mhyramid pêl-droed Lloegr y tymor diwethaf.

Ers dychwelyd i Plymouth mae o wedi sefydlu ei hun yn eu tîm cyntaf, ac yn barod wedi sgorio 10 gôl y tymor hwn. Mae 'na adroddiadau bod clybiau o'r Bencampwriaeth yn cadw golwg arno.

Mae o'n barod wedi chwarae i dîm o dan 21 Cymru, a fuaswn i ddim yn synnu ei weld yn ennill cap llawn cyn bo hir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bethany Moule - 19 oed - Taflu'r waywffon

Mae hi wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i'r Gymraes.

Ar ôl profi lot fawr o lwyddiant mewn cystadlaethau i athletwyr iau dros y blynyddoedd diwethaf, fe lwyddodd i ennill medal efydd ym Mhencampwriaethau Prydain ym Manceinion ym mis Medi.

Mi fydd hi'n gobeithio sicrhau ei lle yn nhîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022.

Pob hwyl i'r pump.

Pynciau cysylltiedig