Busnes casglu mefus ar fferm yn ffynnu yn y cyfnod cloi
- Cyhoeddwyd
Mae coronafeirws wedi achosi pob math o broblemau i fyd amaeth, ond mae un ffermwraig yn ffyddiog y bydd ei chynlluniau arallgyfeirio yn llwyddo er gwaetha'r feriws.
Mae Barbara Hughes, sy'n ffermio ym Malpas ar y ffin rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a Lloegr, wedi plannu mefus am y tro cyntaf.
Y syniad yw bod modd i'r cyhoedd dalu i ddod i'r caeau i gasglu eu mefus eu hunain.
Fe wnaeth Ms Hughes agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf y penwythnos diwethaf.
Dros y gaeaf roedd y planhigion mefus dan ddŵr ar dir fferm Ivy House, ac er ei bod yn dywydd sych mae'r mefus yn tyfu'n dda.
"Hefo'r feirws a bob peth o'n i'n meddwl 'be dwi wedi ei wneud rŵan, wedi mynd i dyfu mefus achos doeddw ni ddim yn gwybod dim amdanyn nhw", meddai Ms Hughes.
"Dwi wedi dysgu lot."
"Da ni wedi operatio weekend diwetha' efo'r one-way system, so mae pobl yn mynd mewn trwy'r giât fyny'r cae ac wedyn yn dod lawr y cae yr ochr arall.
"Mae pobl yn andros o dda - maen nhw wedi dod i arfer rŵan ac mae pawb yn splitio fyny."
Mae 'na system ddiogel wedi cael ei sefydlu hefyd i bobl dalu ar ôl hel y mefus.
"Pan maen nhw'n dod allan o'r cae maen nhw'n gorfod aros tan ein bod ni'n barod, ac wedyn maen nhw'n rhoi'r mefus ar y bwrdd ac wedyn 'da ni'n rhoi nhw ar y scales," meddai Ms Hughes.
"Mae gennym ni sgriniau o'n blaenau ni i wneud pawb yn saff.
"Mae'r ffôn wedi bod yn brysur efo pobl yn gofyn a ydw i wedi agor, so mae'n rhaid 'mod i wedi gwneud rhywbeth yn iawn!"
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd3 Mai 2020
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2020