Llywodraeth yn amddiffyn cynllun brechu i bobl dros 80
- Cyhoeddwyd
Mae pobl dros 80 oed yn dechrau cael eu gwahodd am frechlyn Covid-19, meddai Llywodraeth Cymru.
Daw yn dilyn pryder am y drefn o frechu pobl hyn sydd ddim mewn cartrefi gofal na'n derbyn gofal ysbyty.
Yn ôl un cyn-AS Llafur o Gymru, mae pobl hyn yn "ofnus iawn ac eisiau sicrwydd".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y llywodraeth i ddod a'r sefyllfa dan reolaeth.
Yn Lloegr mae rhai pobl dros 80 sy'n byw yn annibynnol eisoes wedi derbyn brechlynnau.
Ond yng Nghymru, pobl mewn cartrefi gofal, ysbytai a staff iechyd rheng flaen sydd wedi cael y pigiad hyd yn hyn.
Dywedodd Ann Clwyd, cyn-AS Cwm Cynon, sydd ei hun yn 83 oed, bod pobl yn "ofnus iawn" ac "eisiau gwybod beth sy'n digwydd".
"Dwi'n gwybod am bobl o nghwmpas i sy'n hŷn na fi, ac yn sâl, a dydyn nhw heb gael gwybodaeth.
"Maen nhw'n chwilio am sicrwydd, yn enwedig o glywed am yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr ac maen nhw'n meddwl bod pawb yn cael y brechlyn heblaw nhw."
Disgwyl ail frechlyn
Hyd yma, mae 25,000 o bobl wedi derbyn dos cyntaf o'r unig frechlyn sydd wedi ei gymeradwyo yn y DU - brechlyn Pfizer/BioNTech.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod rhai byrddau iechyd yn dechrau gwahodd pobl o'r gymuned am frechiadau, ond mai'r gobaith oedd cyflymu hynny pan fydd ail frechlyn yn cael ei gymeradwyo.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd ail frechlyn - brechlyn Rhydychen-AstraZeneca - yn cael ei gymeradwyo gan reoleiddiwr y DU a bydd hynny'n ein galluogi i gyflymu'r broses o frechu a chynnig mwy o glinigau mewn lleoliadau fel meddygfeydd," meddai llefarydd.
Mae un bwrdd iechyd, Powys, wedi dweud eu bod yn bwriadu gwahodd pobl dros 80 am frechlyn yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd wedi dweud bod angen dod â'r sefyllfa dan reolaeth.
Yn ôl Andrew RT Davies mae'r cynllun brechu yn methu'n barod, ac mae "pryderon gwirioneddol am ddiffyg cymorth i gartrefi gofal a phobl dros 80 o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU".
Dywedodd AS Plaid Cymru bod "diffyg gwybodaeth am frechu pobl dros 80, sydd ond yn ychwanegu at bryder pobl dros y Nadolig".
Ychwanegodd Dr Dai Lloyd bod angen i lywodraethau Cymru a'r DU "ail-asesu ar frys a yw Cymru'n derbyn cyfran deg" o'r brechlynnau sydd ar gael dros Brydain.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020