Dechrau brechu rhag Covid-19 mewn cartrefi gofal

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Glenda Waye
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Glenda Waye, 86, ei brechu yn y cartref ddydd Mercher

Mae brechlynnau coronafeirws ar gyfer pobl mewn cartrefi gofal yn "gamau cynnar ar siwrne arbennig", yn ôl perchennog cartrefi gofal yn y gogledd.

Bore Mercher fe wnaeth cynllun peilot ddechrau cyflwyno'r brechlyn Pfizer/BioNtech yng nghartref gofal Bryn Yr Haul yn Yr Wyddgrug.

Mae pobl sy'n byw yn y cartref yn derbyn y brechlyn yn ystod y dydd, tra bydd cartrefi gofal mewn ardaloedd byrddau iechyd eraill yn derbyn y brechlyn yn hwyrach yn yr wythnos.

I ddechrau, bydd y brechlyn yn cael ei roi mewn cartrefi gofal ger fferyllfeydd ysbytai, ond y bwriad yw ehangu'r lleoliadau yn sgil y rhaglen beilot.

Dywedodd Mario Kreft o Fforwm Gofal Cymru fod y pandemig wedi gwneud hi'n "amhosib" sicrhau ansawdd bywyd uchel i bobl tra'n eu cadw'n ddiogel mewn cartrefi gofal.

Ond unwaith y bydd y brechlyn wedi'i gyflwyno, meddai, fe allai fod "rhywfaint o normalrwydd" unwaith eto.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brechlyn yn newid popeth, medd Mario Kreft, ond mae angen pwyllo cyn ailagor cartrefi gofal i ymwelwyr

Dywedodd Mr Kreft: "Mae wedi bod mor anodd i'r bobl hynny sy'n rhedeg cartrefi gofal, sy'n gweithio mewn cartrefi, i beidio â gallu cael eu preswylwyr i gymryd rhan go iawn yn y gymuned, fel sydd wastad wedi digwydd yn y gorffennol.

"Mae'r brechlyn yn newid hynny i gyd."

Serch hynny, mae Mr Kreft yn dal yn annog pobl i bwyllo, ac fe rybuddiodd nad oedd y brechlyn yn golygu y gall cartrefi agor eu drysau i bawb unwaith eto.

"Does neb eisiau cael ein gwahanu adeg y Nadolig, ond rydym yn glir iawn - mae cynnydd mewn trosglwyddiad cymunedol ledled Cymru, felly mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf," meddai.

"Fe allen ni weld ein holl breswylwyr yn cael eu brechu erbyn Chwefror, felly rydyn ni ond wythnosau i ffwrdd.

"Gadewch i ni fod yn wyliadwrus a pheidio â pheryglu bywydau unrhyw un trwy ganolbwyntio dim ond ar yr ymweliad nesaf, neu'r ddau ymweliad nesaf. Gadewch i ni fod yn ddiogel a gweld ein hunain yn goroesi drwodd i 2021."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n hanfodol bod preswylwyr yn gallu aros mewn cysylltiad agos â'u hanwyliaid," meddai Heléna Herklots

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots ei bod "wrth ei bodd" bod y peilot yn dechrau, ond ei fod dal yn hanfodol bod ymweliadau diogel yn digwydd "lle bynnag y bo modd" dros y Nadolig.

"Mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal, a'u hanwyliaid, a byddant yn croesawu'r cam pwysig yma," meddai.

"Rwy'n gwybod y bydd staff sy'n gweithio ar draws ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y cynllun peilot yn llwyddiannus, fel y gellir cyflwyno'r brechlyn i fwy o gartrefi gofal ledled Cymru.

"A dwi yn gobeithio y bydd y dysgu a'r arfer da yn cael ei rannu ledled y DU er mwyn cefnogi'r broses o gyflwyno'r brechlyn yn ehangach.

"Gan ei bod yn debygol o fod cryn amser eto cyn i'r holl bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal gael eu hamddiffyn gan y brechlyn, mae'n hanfodol bod preswylwyr yn gallu aros mewn cysylltiad agos â'u hanwyliaid, ac y gall ymweliadau diogel fynd ymlaen lle bynnag y bo modd - rhywbeth fydd yn arbennig o bwysig dros gyfnod y Nadolig."

'Lefel newydd o ddiogelwch'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Yn dilyn cyflwyno'r brechlyn Covid cyntaf yn llwyddiannus yr wythnos diwethaf, rydym yn dechrau cam nesaf y rhaglen gyda phreswylwyr cartrefi gofal yn ofalus.

"Fodd bynnag, mae angen i ni barhau i sicrhau y gallwn gludo'r brechlyn yn ddiogel i bobl sydd ddim yn gallu dod i glinigau.

"Os aiff popeth yn iawn wythnos yma, byddwn yn dechrau ar y broses o gyflwyno'r brechlyn i weddill ein cartrefi gofal cyn y Nadolig, gan ddod â lefel newydd o ddiogelwch i rai o'n pobl fwyaf bregus.

"Mae staff ein GIG wedi gwneud gwaith gwych i gyflwyno'r brechlyn cyntaf mewn modd diogel ac amserol. Rwy'n hynod ddiolchgar am eu gwaith caled ar hyn, ac ar draws cyfnod y pandemig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae meddygfeydd yn Lloegr wedi dechrau brechu cleifion ers dechrau'r wythnos, gan flaenoriaethu pobl dros 80 oed.

Ond mae'n ymddangos na fydd hynny'n digwydd yn achos pobl oedrannus yng Nghymru, nad sydd mewn cartref gofal neu ysbyty, nes y bydd brechlyn Oxford/AstraZeneca ar gael.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru brynhawn Mercher bod y rhaglen frechu ar gyfer pobl dros 80 "yn dechrau gyda phreswylwyr cartrefi gofal a chleifion ysbyty hirdymor".

Ychwanegodd y byddai llawer o bobl dros 80 yn dymuno cael brechiad yn eu meddygfa leol a'u bod "yn gwneud trefniadau i gynnal clinigau mewn meddygfeydd gan ddefnyddio'r brechlyn Oxford/AstraZeneca, unwaith y bydd hwnnw wedi ei gymeradwyo".