Peilota cynllun profi Covid-19 i swyddogion Heddlu'r De

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
heddluFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Bydd swyddogion Heddlu De Cymru yn cael eu profi am Covid-19 dros gyfnod o bedair wythnos mewn ymgais i leihau nifer y staff sy'n gorfod hunan-ynysu.

Mae profi cyfresol asymptomatig yn golygu y byddai'n rhaid i staff yr heddlu sydd wedi dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif naill ai hunan-ynysu fel arfer neu gymryd prawf llif unffordd (LFT) ar ddechrau eu shifft drwy gydol y cyfnod hunan-ynysu.

Gall y rhai sy'n profi'n negatif barhau â'u gwaith arferol, tra bydd rhaid i'r rhai sy'n profi'n bositif hunan-ynysu a threfnu prawf i gadarnhau.

Fe all y cynllun gael ei ehangu i ardaloedd eraill yr heddlu yng Nghymru yn ddibynnol ar lwyddiant yr un yn y de.

Cyhoeddwyd cynllun tebyg ar gyfer staff a myfyrwyr ysgolion a cholegau Cymru yr wythnos ddiwethaf a fydd yn dechrau ym mis Ionawr.

Yn y cyfamser, mae Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud y byddan nhw'n stopio cerbydau ar hap dros gyfnod y Nadolig yn sgil y wlad yn mynd i Lefel 4.

'Effaith ddifrifol iawn'

O ran y profion, dywedodd Prif Uwch-arolygydd Heddlu De Cymru, Andy Valentine fod trefniadau olrhain yn cael "effaith ddifrifol iawn" ar adnoddau'r heddlu.

"Bydd y peilot hwn yn caniatáu i swyddogion sy'n profi'n negatif ddychwelyd at eu dyletswyddau'n ddiogel fel eu bod yn gallu parhau i ddiogelu'r cyhoedd a chadw ein cymunedau'n ddiogel," meddai.

Dywedodd Vaughan Gething: "Mae natur gwaith rheng flaen yr heddlu yn golygu bod rhyngweithio helaeth gydag aelodau o'r cyhoedd sy'n aml yn fwy agored i niwed - gan arwain at risg uwch o drosglwyddo, heintio a gofyn am hunan-ynysu.

"Mae hyn yn arwain at effaith andwyol ar allu gweithlu'r heddlu i fynd i'r afael ag ymrwymiadau gorfodi'r gyfraith arferol o ddydd i ddydd."