Archesgob Cymru, John Davies i ymddeol ym mis Mai

  • Cyhoeddwyd
Y Parchedicaf John Davies
Disgrifiad o’r llun,

John Davies yw 13eg Archesgob Cymru

Bydd Archesgob Cymru'n ymddeol ym mis Mai wedi pedair blynedd yn arweinydd yr Eglwys yng Nghymru.

Bydd y Parchedicaf John Davies, 67, hefyd yn ymddeol fel Esgob Abertawe ac Aberhonddu ar 2 Mai.

Esgob Bangor, Andrew John, fydd yn arwain yr Eglwys wedi hynny nes y bydd Archesgob newydd yn cael ei ethol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd yr Archesgob fod "arwain yn fraint ac yn her" a'i fod, fel Esgob ac Archesgob "wedi ceisio defnyddio'r cyntaf ac wynebu'r ail gyda gweledigaeth, dewrder ac amynedd".

Ychwanegodd mai ei obaith cyson trwy wneud hynny oedd "sicrhau bod yr Eglwys yn fwy parod, ei bod yn cael ei deall yn well, ei bod yn llai o ddirgelwch ac yn fwy croesawus".

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Davies hefyd wedi gwasanaethu fel Esgob Abertawe ac Aberhonddu am 13 blynedd

Dathlodd yr Eglwys ei chanmlwyddiant yn ystod ei gyfnod wrth y llyw - cyfnod ble bu'n rhaid hefyd arwain ymateb y sefydliad i heriau'r pandemig.

"Dan yr amgylchiadau eithriadol o anodd presennol, fe wnaeth y cydymdeimlad, dychymyg a'r blaengaredd y mae rhai wedi eu dangos wrth ymateb iddynt argraff anferth arnaf," meddai, "gan lwyddo i wneud yr Eglwys yn fwy hygyrch ac, os caf ddweud, yn fwy perthnasol."

'Llais cysurlon'

Talodd Esgob Bangor deyrnged i'w arweinyddiaeth gan ddweud: "Mae John wedi bod yn gadarn a phendant yn yr amseroedd anodd iawn yma, gan gynnig sefydlogrwydd yr oedd mawr ei angen a llais cysurlon, i'r rhai yn yr Eglwys ac yn y gymuned ehangach.

"Ar ran ei gyd-esgobion, rwy'n diolch iddo am yr oruchwyliaeth y mae wedi ei rhoi i ni ac yn anfon ein dymuniadau gorau un am ymddeoliad hir a hapus."

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr Archesgob ar ddiwrnod ei ei orseddu'n arweinydd yr Eglwys yng Nghymru

Mae Archesgob Caergaint, Justin Welby, wedi ei ddisgrifio fel "cydweithiwr gwerthfawr" o fewn y Cymundeb Anglicanaidd.

"Rwyf wedi gwerthfawrogi'n fawr ei ddoethineb, ei angerdd am yr Efengyl ac efengyliaeth, a'i allu a'i bwyll wrth ddelio gyda sefyllfaoedd a all yn aml fod yn gymhleth," dywedodd.

"Roedd y pandemig coronafeirws wedi golygu na fedrais ymweld fis Ebrill diwethaf ar gyfer canmlwyddiant dadsefydlu'r Eglwys yng Nghymru ond rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd modd dod i Gymru cyn i John ymddeol i ddiolch iddo yn bersonol am ei gefnogaeth a'i gyngor doeth."

Pynciau cysylltiedig