Gorseddu Archesgob Cymru, John Davies, yn Aberhonddu

  • Cyhoeddwyd
Yr Archesgob JohnFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Davies ei eni yng Nghasnewydd a'i ordeinio yn 1984

Mae Archesgob Cymru wedi cael ei orseddu mewn gwasanaeth brynhawn Sadwrn.

Cafodd John Davies - fu'n Esgob Abertawe ac Aberhonddu - ei ethol yn archesgob ym mis Medi.

Bu'n annerch torf o tua 700 o bobl yng Nghadeirlan Aberhonddu yn dilyn gorymdaith.

Cafodd ei ethol i'r swydd yn dilyn ymddeoliad Dr Barry Morgan, a gamodd i'r neilltu ym mis Ionawr wedi bron i 14 mlynedd wrth y llyw.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Archesgob yn gwneud ei ffordd i Gadeirlan Aberhonddu ar gyfer ei orseddiad

Cafodd John Davies ei eni yng Nghasnewydd a dechreuodd yrfa yn y gyfraith cyn cael ei ordeinio yn 1984.

Daeth yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 2008.

Fel rhan o'r orymdaith ddydd Sadwrn, roedd yn cael ei arwain i Gadeirlan Aberhonddu cyn cael ei osod yng ngorsedd bren yr Archesgob gan Esgob Bangor.

Bydd yr orsedd honno - oedd yn rhodd gan Esgob Caergaint i'r Eglwys yng Nghymru yn 1920 - yn aros yn Aberhonddu am gyfnod John Davies wrth y llyw.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gorsedd yr Archesgob yn aros yng Nghadeirlan Aberhonddu tra bydd John Davies yn y swydd