Pobl yn 'llwyr anwybyddu' rheolau'r cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Moel Famau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 100 o geir eu troi am yn ôl ym Moel Famau ddydd Sadwrn

Mae pobl yn "llwyr anwybyddu" rheolau'r cyfnod clo er gwaetha'r ffaith eu bod wedi derbyn sawl rhybudd, yn ôl yr heddlu.

Cafodd dros 100 o geir eu troi am yn ôl ym Moel Famau erbyn amser cinio dydd Sadwrn.

Dywedodd warden bod Eryri yn dawelach y penwythnos hwn, ond bod rhai pobl yn parhau i anwybyddu'r rheolau, gan gynnwys pobl wedi teithio o Gaerlŷr i ddringo'r Wyddfa.

Mae Cymru mewn cyfnod clo lefel 4 ar hyn o bryd, sy'n golygu y dylid gadael eich cartref pan yn hanfodol yn unig.

Presentational grey line

Beth ydy'r rheolau?

Dan gyfyngiadau lefel 4 mae'n rhaid i unrhyw ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref, a does dim hawl teithio i leoliad arall i ymarfer - mynd yn y car i ddringo mynydd, er enghraifft.

Oni bai eich bod yn gallu cerdded i rywle o'ch cartref, fel mynyddoedd Eryri neu Fannau Brycheiniog, does dim hawl teithio yno er mwyn ymarfer corff.

Yr unig reswm dros deithio i ymarfer ydy os oes rheswm na allwch chi wneud hynny o'ch cartref, fel pobl mewn cadair olwyn.

Presentational grey line

'Trïo eu lwc'

Dywedodd Warden Yr Wyddfa, Keith Ellis: "Roedden ni wedi cael tri o Gaerlŷr yma'r peth cynta' bore 'ma, a phe na bai'r heddlu wedi dod yma mae'n debyg y byddan nhw wedi anwybyddu ein cyngor ni a dechrau i fyny'r mynydd.

"Roedd yr hyn roedden nhw'n ei wisgo yn hollol anaddas a mwy na thebyg fe fyddan nhw wedi mynd i mewn i drwbl.

"Rydyn ni hefyd wedi cael pobl o Lerpwl a phobl leol yn dod yma, yn gwybod yn iawn am y rheolau ond yn trïo eu lwc beth bynnag.

"Yn ffodus mae mwy o heddweision wedi bod yma, ac mae'r bobl hynny wedi cael gair gyda'r heddlu hefyd."

Llanuwchllyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae meysydd parcio Eryri wedi cael eu cau gan y Parc Cenedlaethol i atal ymwelwyr

Dywedodd tîm troseddau cefn gwlad Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi "gwastraffu diwrnod arall yn delio gyda phobl sy'n torri rheolau Covid".

"Mae hi mor rhwystredig ein bod yn gorfod delio gyda'r bobl yma sydd ddim yn poeni, tra bo'r mwyafrif ohonom yn gwneud y peth iawn ac aros adref," meddai'r llu ar Twitter.

"Rydyn ni'n gweld pobl o Loegr a gwahanol rannau o Gymru - mor hunanol."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae achosion coronafeirws yn uchel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae straen newydd o'r feirws yn lledaenu, sy'n heintus iawn ac yn symud yn gyflym.

"Ar lefel rhybudd 4, dylai ymarfer corff wastad ddigwydd o'ch cartref oni bai bod amgylchiadau arbennig sydd angen hyblygrwydd - fel anabledd neu awtistiaeth.

"Y mwyaf o bobl sy'n casglu, y mwyaf yw'r perygl o ledaenu neu ddal y feirws."