'Dwi jyst isio teimlo'n ddigon...'
- Cyhoeddwyd
Mewn podlediad newydd ar gyfer BBC Sounds, mae'r cerddor Non Parry yn rhannu ei phrofiadau o fyw gyda problemau iechyd meddwl mewn cyfres o sgyrsiau gyda ffrindiau a chyfoedion.
Mae'r aelod o'r grŵp Eden wedi siarad yn agored am y ffaith ei bod yn byw gyda chyfnodau o iselder, panig a gor-bryder.
Ei gwestai cyntaf ar y gyfres yw ei chyfnither, Caryl Parry Jones, sy'n trafod ei chyfnodau hithau o fyw gyda gor-bryder ac iselder.
Fe soniodd Non wrth Cymru Fyw pam ei bod wedi dewis mynd ati i greu'r podlediad newydd.
Wedi blynyddoedd o ddioddef yn dawel gyda phroblemau iechyd meddwl nes i benderfynu "digon".
Digon ar y cywilydd a digon ar yr unigrwydd. Mewn byd sy'n aml yn disgwyl i ni fod yn fwy hyn neu'n llai llall, dwi jyst isio teimlo'n ddigon.
Mae'n hawdd iawn edych ar bawb arall a meddwl mai chi yw'r unig un sy'n stryglo ond pan ddechreuais i siarad yn agored am fy mhrofiadau i, daeth o'n hollol amlwg nad oeddwn i ar ben fy hun.
Yn y gyfres yma dwi 'di cael y fraint o siarad gyda rhestr arbennig o bobl sy'n rhannu straeon a phrofiadau personol iawn, weithiau'n amrwd, weithiau'n ffyni.
Mewn sgyrsiau hamddenol a gonest dwi a'r cyfranwyr anhygoel yma'n trafod ychydig am ein hanes, gwaith a bywyd yn gyffredinol yn ogystal â chyfnodau heriol yn delio gyda amryw o gyflyrau yn cynnwys iselder, anhwylder bwyta a gorbryder.
Mae yna hefyd sgyrsiau dwi'n meddwl gall pawb yn gallu uniaethu gyda nhw fel y pwysau i ffitio mewn a chyrraedd disgwyliadau.
Yn ystod y prosiect personol yma fe wnaeth tri pheth aros gyda mi:
Mae dod i ddeall, derbyn a bod yn agored am iechyd meddwl yn gallu bod yn broses hir a pharhaol. 'Da ni gyd yn dal i ddysgu ac addasu. Does dim un datrysiad sy'n gweithio i bawb, ond mae cefnogaeth ar gael.
Mae pobl yn gryf. Mae pobl o'n cwmpas ni bob dydd yn wynebu heriau, yn aml yn dawel ac heb gefnogaeth ond yn dal ati. Mae cymryd amser i ddysgu mwy am yr heriau yma yn gwneud gwahaniaeth MAWR i unrhyw un sy'n dioddef o'ch cwmpas.
Gallwn ni wneud hyn yn syml iawn trwy siarad a gwrando. Nid bod gwneud y cam cyntaf yna i siarad yn hawdd, ond trwy wneud hynny, yn ogystal â gwrando ar brofiadau eraill, mae'n helpu i leihau'r teimladau unig ac ynysig yna sy'n arwain at gyfnodau tywyll.
Dwi methu pwysleisio digon faint o gryfder a chysur sydd mewn dangos ein bod ni gyd, weithiau, yn fregus.
Mi wnes i ennill gymaint a charu siarad gyda'r criw sbesial yma, a dwi'n gobeithio fydd y podlediad yma o gysur a chymorth i chi ar y siwrne i deimlo'n ddigon.
Hefyd o ddiddordeb: