Sefydlu Canolfan Dystiolaeth Covid i ymateb i'r pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae Canolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru yn cael ei sefydlu er mwyn "llywio" ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig.
Mae gan y ganolfan gyllideb gychwynnol o £3m dros ddwy flynedd o'r mis hwn.
Cytunodd Eluned Morgan - y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg - i sefydlu'r ganolfan er mwyn "darparu rhaglen − penodol i Gymru − o waith ymchwil a gwaith i gyfuno tystiolaeth, a defnyddio gwybodaeth er mwyn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau a'r anghenion brys sy'n codi yn sgil pandemig y coronafeirws".
Ond dywedodd un aelod o'r Senedd y dylid canolbwyntio adnoddau ar lefel y DU yn hytrach na "dyblygu".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru: "Mae ymchwil yn hanfodol wrth ddatblygu ein dealltwriaeth a'n triniaeth o'r coronafeirws.
"Er mwyn cefnogi mynediad cyflym at dystiolaeth, bydd Canolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru yn ariannu rhaglen ymchwil sy'n canolbwyntio ar Gymru dros y ddwy flynedd nesaf.
"Defnyddir hwn i lywio ein hymateb i'r pandemig coronafeirws a sut mae'n effeithio ar iechyd a gofal yng Nghymru."
Ond dywedodd Mark Reckless AS, un o ddau aelod Plaid Diddymu'r Cynulliad ym Mae Caerdydd, bod "ymchwil a thystiolaeth ar y coronafeirws yn hollbwysig, ond dylem ganolbwyntio adnoddau ar lefel y DU, yn hytrach na rhannu arian ymhlith y pedair gwlad i ddyblygu gwaith.
"Byddai Cymru yn sicr o elwa yn fwy drwy fod yn rhan o ganolfan dystiolaeth coronafeirws yn y DU gyda chyllideb o £60 miliwn, dyweder, yn lle sefydlu canolfan ei hun gyda chyllideb o ddim ond £3 miliwn".
Yn ôl yr hysbyseb , dolen allanolam rôl cyfarwyddwr y ganolfan, "yr hyn sydd ei angen yw tystiolaeth a gallu ymchwil ymatebol a hyblyg a all weithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr yn y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddod â thystiolaeth i wneud penderfyniadau yn effeithiol."
Ychwanegodd, "mae angen synthesis tystiolaeth gyflym i ddefnyddio'r sylfaen ymchwil enfawr sydd bellach wedi datblygu, a'r gallu i wneud rhywfaint o ymchwil sylfaenol cyflym yng Nghymru wedi'i dargedu at faterion neu anghenion ymchwil penodol a lleol."
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn derbyn cyngor o sawl ffynhonnell, gan gynnwys arweiniad gwyddonol gan Y Gell Cyngor Technegol, dolen allanol.
Ym mis Rhagfyr, wynebodd Llywodraeth Cymru bwysau i ddangos tystiolaeth i gefnogi cyfyngiadau llym newydd ar y diwydiant lletygarwch.
Cyhoeddodd adroddiad gan Y Gell Cyngor Technegol oedd yn cyfeirio at bapur, dolen allanol a gyhoeddwyd gan weinidogion Llywodraeth y DU oedd yn dwyn ynghyd rywfaint o'r wybodaeth sy'n helpu gwyddonwyr i ddeall lle mae trosglwyddiad y feirws yn digwydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020