Angen prawf Covid negyddol ar deithwyr tramor i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
TaithFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd yn rhaid i deithwyr sy'n bwriadu teithio i Gymru o dramor ddangos eu bod wedi profi'n negyddol am y coronafeirws cyn iddynt adael, meddai'r gweinidog iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething y byddai'r rheol newydd, sy'n dod i rym am 04:00 ar ddydd Llun, 18 Ionawr, yn helpu i amddiffyn rhag mathau newydd o Covid-19 sy'n cylchredeg yn rhyngwladol.

Mae'r rheol newydd am deithio i Gymru yn berthnasol i deithwyr sy'n cyrraedd mewn cwch, awyren neu drên o wledydd y tu allan i'r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.

Mae pedair gwlad y DU wedi cytuno ar y mesurau, ac fe fyddan nhw mewn grym tan o leiaf 15 Chwefror.

Rhaid cymryd prawf Covid-19 o fewn 72 awr i adael am Gymru, gyda thystiolaeth o ganlyniad negyddol yn orfodol, yn ogystal â ffurflen lleoli teithwyr.

Bydd cyfnod cwarantîn 10 diwrnod yn parhau mewn grym ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd o wledydd nad ydynt ar restr gwaharddiadau teithio Llywodraeth Cymru, beth bynnag fydd canlyniad eu prawf cyn gadael.

'Atal mathau newydd o'r feirws'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, bod amrywiaethau o'r feirws wedi eu gweld dros y byd, ac felly bod angen "camau pellach i amddiffyn pobl yng Nghymru".

"Mae atal teithio rhydd yn golygu y bydd pobl sy'n teithio dramor yn gorfod cael prawf cyn dychwelyd ac ynysu ar ôl cyrraedd Cymru i sicrhau nad ydyn nhw'n dod â'r feirws yn ôl gyda nhw."

Ddydd Gwener, dywedodd Mr Gething bod y llywodraeth yn "gwneud popeth o fewn ein gallu" i arafu lledaeniad y feirws.

Yn ôl gwybodaeth gan arbenigwyr sydd yn astudio amrywiaethau Covid-19, mae un o ddau fath gwahanol o amrywiadau newydd o'r haint o Frasil wedi ei ddarganfod yn y DU.

Yn siarad yn Downing Street brynhawn Gwener, dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, bod y mesurau newydd yn "hanfodol" wrth i'r DU gymryd camau ymlaen yn y broses frechu.

Ddydd Iau fe wnaeth Llywodraeth Cymru ychwanegu nifer o wledydd at y rhestr o safbwynt y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws).

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf, bydd y gwledydd canlynol yn cael eu tynnu o'r rhestr o wledydd sydd wedi'u heithrio, ac felly bydd rhaid i deithwyr o'r gwledydd hynny hunan-ynysu pan fyddant yn cyrraedd Cymru.

  • Aruba;

  • Ynysoedd Açore;

  • Bonaire;

  • Sint Eustatius a Saba;

  • Chile;

  • Madeira;

  • Qatar.

Fe wnaeth yr asesiad hefyd ystyried ymddangosiad amrywiolyn newydd ym Mrasil ac mae'n argymell bod yn ofalus nes bod gwybodaeth bendant ar gael.

Pynciau cysylltiedig