Enw newydd plaid Neil McEvoy yn cael ei wrthod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Neil McEvoy

Mae cais cyn-aelod o Blaid Cymru i gofrestru enw newydd ei blaid wedi cael ei wrthod.

Roedd Neil McEvoy yn dymuno cofrestru yr enw 'Plaid y Genedl Gymreig' (Welsh Nation Party) cyn etholiad y Senedd yn 2021.

Ond mae'r corff sy'n goruchwylio etholiadau wedi gwrthod yr enw.

Dywed y Comisiwn Etholiadol bod yr enw yn "ddryslyd o debyg i blaid arall sydd wedi'i chofrestru", dolen allanol.

Wrth ymateb dywedodd Mr McEvoy ei fod am i'w blaid gael ei galw yn Propel o hyn ymlaen.

'Chwyldro democrataidd'

Dywedodd Mr McEvoy: "Ry'n ni'n byw mewn amseroedd gwrth-ddemocrataidd - oes lle mae biwrocratiaid yn rheoli ein bywydau. Ry'n ni wedi aros 13 mis i'r sefydliad hwn ddod i benderfyniad.

"Dim ond pythefnos sydd gennym i gyflwyno cais newydd a hynny bedwar mis cyn yr etholiad."

Mae'n honni bod y penderfyniad yn un bwriadol er mwyn "difetha cyfleon i'w blaid yn yr etholiad" a sicrhau nad oes "modd cael adolygiad barnwrol" oherwydd diffyg amser.

"Ein nod yw gyrru Cymru yn ei blaen ac felly Propel fydd enw'r blaid o hyn ymlaen," ychwanegodd Mr McEvoy.

"Yr hyn sy'n bwysig yw yr hyn a fyddwn yn ei gyflawni ac nid ein henw. Bydd Propel yn sicrhau chwyldro democrataidd yng Nghymru. Byddwn yn gyrru Cymru drwy gael gwared ar y Sefydliad... Mae hwn yn gyfnod cyffrous."

Roedd Neil McEvoy yn wreiddiol wedi llwyddo i gofrestru enw ei blaid yn 'Plaid Genedlaethol Cymru' ond fe wnaeth y Comisiwn Etholiadol newid eu penderfyniad wedi her gyfreithiol gan Blaid Cymru.

Wrth roi sylwadau ar y pryd dywedodd Neil McEvoy bod y penderfyniad yn syndod ac fe ddywedodd Plaid Cymru ei fod yn gydnabyddiaeth bod "y comisiwn wedi gweithredu yn anghyfreithlon".

Fe wnaeth AS Canol De Cymru benderfynu ail-gofrestru enw'r blaid yn niwedd 2020.

Wrth wrthod yr enw newydd fe ychwanegodd y Comisiwn ei "fod yn debygol o gamarwain pleidleiswyr".