'Twnnel nid ogof yw Covid ond pryder am sgil effaith'
- Cyhoeddwyd
Dywed meddyg teulu o Wynedd ei fod yn poeni'n fawr am bobl sydd wedi bod yn ofni mynd at y meddyg yn sgil haint Covid-19.
Yn ôl Dr Gwilym Siôn Pritchard o Feddygfa Waunfawr ger Caernarfon dyma un o sgil effeithiau gwaetha'r haint.
"Roedd un o'm cleifion, er enghraifft, wedi cael trawiad ers wythnos ond ddim wedi mynd at y meddyg," meddai.
"Mae nifer wedi dioddef poen am eu bod ofn mynd allan o'u cartrefi neu ddim am wastraffu amser meddygon ond mae'n hynod o bwysig fod y bobl yma yn cael cefnogaeth feddygol.
"Wedi'r haint mi fydd rhestri aros yn sicr o fod yn llawer hwy," meddai Dr Pritchard, "ac i mi y sgil effeithiau i bobl sydd yn dioddef o afiechydon eraill yw un o ganlyniadau gwaethaf y pandemig.
"Canlyniad ofnadwy arall yw effaith yr haint ar iechyd meddwl pobl ac mae nifer wedi profi unigrwydd."
'Twnnel nid ogof'
Ond er gwaethaf y dioddef a cholledion yn sgil Covid, mewn cyfweliad ar raglen Bwrw Golwg dywed Dr Gwilym Siôn Pritchard, sy'n flaenor yng Nghapel y Groes, Penygroes nad yw erioed wedi anobeithio.
"Twnnel yw'r pandemig wedi bod i mi ac nid ogof. Oes mae yna broblemau gyda chyflenwad o'r brechlyn ond dwi'n gwbl ffyddiog fod pobl yn y cefndir yn gwneud eu gorau glas er mwyn i ni ei gael.
"Mae wir yn fraint cael cymryd rhan mewn rhywbeth sy'n datgloi y sefyllfa bresennol a chaniatáu pobl i weld anwyliaid y maen nhw'n eu caru.
"Mae'n wyrth fod y brechlyn yn bodoli a bod y ffasiwn beth wedi ei ddatblygu mor sydyn a bellach ar gael i'w roi ym mreichiau pobl.
"Ydi mae fy ffydd yn fy nghynnal - y sicrwydd yna fod Duw yn ben a bod Crist wrth ochr rywun.
"Mae yna ddigalonni weithiau ond mae yna sicrwydd ac mae rhywun yn gwybod y bydd daioni yn trechu drygioni yn y diwedd.
"Oes mae yna bobl wedi dioddef ond mae yna bethau da hefyd wedi dod o'r pandemig - mae pobl wedi ffindio pethau pwysig fel llwybrau cerdded newydd, bod allan yn yr awyr iach ac ysbryd cymunedol."
Mae Dr Pritchard yn credu y byddwn yn byw gyda Covid am byth ond ymhen amser bydd system imiwnedd y corff yn gallu ymdopi ag ef a hefyd fe fydd datblygiadau pellach yn y byd meddygol.
"Ydi mae ffydd yn rhywbeth personol wrth gwrs - ac mae'r wybodaeth yna bod gen i Waredwr bob dydd yn gysur i fi."
Mae cyfweliad Dr Gwilym Siôn Pritchard i'w glywed yn llawn yn rhifyn dydd Sul o Bwrw Golwg - am 12.30 ar Radio Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2020