Wrecsam gam yn nes at berchnogion newydd o Hollywood
- Cyhoeddwyd
Mae sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney gam yn nes at fod yn berchnogion newydd Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam gadarnhau bod y ddwy ochr wedi arwyddo cytundeb ar gyfer y pryniant.
Cyn bod y cytundeb yn derfynol, mae'n rhaid cael sêl bendith yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), ac maen nhw'n disgwyl am hynny ar hyn o bryd.
Datgelwyd ym mis Medi y llynedd mai'r ddau oedd y dynion busnes dirgel oedd yn gobeithio buddsoddi £2m i'r clwb.
Ar hyn o bryd mae Wrecsam yn yr wythfed safle yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2020