Suzy Davies: 'Amser hir' cyn iddi ddod yn Geidwadwr

  • Cyhoeddwyd
Suzy Davies

Mae un o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig wedi pleidleisio dros Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y gorffennol.

Yn ôl Suzy Davies, fe gymerodd "amser hir" iddi sylweddoli ei bod hi'n Geidwadwr.

Bydd Ms Davies yn herio AC Sir Benfro, Paul Davies yn y ras i olynu Andrew RT Davies fel arweinydd y blaid.

Dywedodd wrth raglen Newyddion 9: "Am wn i roeddwn i'n floating voter. Dwi'n credu fod gen i lawer o bethau'n gyffredin gyda phobl Cymru.

"Dwyt ti methu a jest dewis y blaid sydd mewn pŵer; er mai dyna oedd y cwbl i mi weld yn tyfu fyny yng nghymoedd de Cymru.

"Ti'n edrych am rywbeth gwahanol, dyna pryd wnes i drio gwahanol bethau, meddwl am yr hyn fedrwn ni ei wneud yng Nghymru a dod i ddeall fy mod i'n geidwadwr."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ms Davies yn herio Paul Davies yn y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn y Cynulliad

Ni chafodd AC Gorllewin De Cymru ei magu fel Ceidwadwr, a dywedodd ei bod hi wedi pleidleisio dros Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y gorffennol.

Ychwanegodd y byddai hi nawr yn pleidleisio dros adael yr UE pe bai refferendwm arall, er iddi gefnogi'r ymgyrch i aros yn wreiddiol.

"Dwi'n meddwl mod i mewn sefyllfa lle gallwn i bleidleisio o blaid Brexit, nawr fy mod i'n gwybod sut yn union mae Brexit yn edrych.

"Y pwynt yw ein bod ni ddim yn gwastraffu amser, rhywbeth rydyn ni wedi ei wneud ar lefel Brydeinig ac yma yng Nghymru."

'Hurt' peidio siarad ag eraill

Yn ôl Ms Davies, gwendid mwyaf ei gwrthwynebwr yw ei anallu fel AC i weld gweddill Cymru.

Wrth drafod y posibilrwydd o gydweithio â phleidiau eraill, meddai: "Dydw i ddim yn gwybod sut byddai hynny yn edrych, ond byddai eistedd yma mewn bocs ceidwadol gan wrthod siarad ag eraill yn hurt."

Dywedodd ei bod hi'n "hurt" hefyd nad yw rhywun sy'n anelu i fod yn brif weinidog ar Gymru yn cael eu hystyried fel "arweinydd y blaid yng Nghymru".

Bydd canlyniad y bleidlais yn cael ei gyhoeddi ar 6 Medi.