AC yn galw am un arweinydd i'r blaid a'r grŵp Ceidwadol

  • Cyhoeddwyd
Suzy Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau'r blaid wedi datgan eu bod eisiau Paul Davies fel arweinydd y blaid, medd yr AC Suzy Davies

Mae'r ffordd mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi delio gyda sefyllfaoedd "anodd" yn dangos y dylai arweinydd y grŵp fod yn arweinydd y blaid yng Nghymru hefyd, yn ôl un Aelod Cynulliad.

Dyw hi ddim wedi bod yn glir pwy sydd â'r awdurdod i edrych ar faterion mewn ffordd "cyflym a theg", medd Suzy Davies.

Er y llwyddiant diweddar yn yr etholiad cyffredinol mae'n dweud bod y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi cael "blwyddyn anodd".

Ers mis Medi 2018, Paul Davies yw arweinydd y grŵp yn y Cynulliad.

Ond ers peth amser mae yna deimlad gan rai yn y blaid y dylai'r person yn y rôl yma hefyd fod yn arweinydd y blaid yn gyffredinol yng Nghymru.

Y sefyllfa ar hyn o bryd yw bod yr arweinyddiaeth yn cael ei rhannu rhwng Mr Davies, cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig sef yr Arglwydd Davies o Gŵyr a'r Ysgrifennydd Cymreig, Simon Hart.

Dyw hi ddim yn glir pa un o'r tri yw'r un â'r rôl fwyaf uchel ei statws.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Paul Davies yw arweinydd y grŵp yn y Cynulliad ers 2018

Yn y misoedd diwethaf mae'r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi gorfod delio gyda sawl helbul yn ymwneud ag unigolion.

Ym mis Ionawr fe roddodd Ross England orau i fod yn ymgeisydd y blaid ar gyfer etholiad Cynulliad oherwydd ei rôl mewn dymchwel achos llys yn ymwneud â threisio.

Fis diwethaf dywedodd cyfreithiwr yr AC Nick Ramsay ei fod yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn ei blaid ar ôl iddo gael ei ddiarddel.

Mae'r Aelod Seneddol Jamie Wallis hefyd wedi ei feirniadu yn sgil honiadau ei fod yn gysylltiedig â gwefan "sugar daddy".

'Blwyddyn anodd'

Dywedodd Suzy Davies wrth BBC Cymru: "Dwi'n credu bod hi'n amlwg mewn ffordd pam y dylai Paul Davies arwain y Ceidwadwyr.

"Mae wedi ei ddewis gan y blaid i wneud yr union beth yma.

"Roedd yna bleidlais lai na dwy flynedd yn ôl pan ofynnwyd i'r blaid pwy oedden nhw eisiau i arwain a fe oedd y dewis.

"Yn amlwg rydyn ni wedi cael blwyddyn anodd. Does dim pwrpas gwadu hynny.

"Ond dyw hi ddim wedi bod yn glir pwy sydd â'r awdurdod i ddelio yn gyflym a theg gyda phawb sydd yn ymwneud â'r straeon hynny sydd wedi bod yn rhai reit anodd.

"Dyw hynny ddim yn fanteisiol i neb, yn enwedig y bobl sydd yn ymwneud â'r sefyllfaoedd hynny."

Ychwanegodd bod angen "atebion clir ynglŷn â phwy sydd yn gallu gwneud penderfyniadau, pwy sydd yn gallu gwneud yn siŵr bod pethau'n digwydd ac yn gallu argyhoeddi'r blaid pan mae pethau yn mynd o'i le bod yna un person maen nhw yn gallu troi ato i gymryd cyfrifoldeb".