Lle i enaid gael llonydd: Megan Williams

  • Cyhoeddwyd
Megan WilliamsFfynhonnell y llun, Megan Williams

Mae'r cyflwynydd Tywydd ar S4C Megan Williams, wedi ymgartrefu yn Nyffryn Tywi, gyda'i gŵr Osian a'u meibion Deio ac Elis. Yma, mae'n trafod y lle sy'n rhoi llonyddwch meddwl iddi wrth fynd am dro yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin:

Llonyddwch. Dyna beth prin yn ein cartref ni! Ers tair blynedd bellach rydw i a'r teulu wedi ymgartrefu ar fferm enedigol Osian, y gŵr, yn nyfnder cefn gwlad Sir Gâr, ger tref Llandeilo. Mae'n gywilydd i mi ddweud, ers symud yno, nad wyf wedi cael llawer o gyfle i grwydro'r tir amaethyddol cyfoethog sy'n ein hamgylchynu.

Ond fe ddaeth y cyfnod clo llynedd a'n gorfodi i stopio. Llonyddodd bywyd ac yn ystod y gwanwyn a'r haf fe ddaeth cyfle!

Yn ystod y cyfnod yma profom wythnosau hir o dywydd heulog a phoeth a chyfle i fi a'r plant, sef Deio ac Elis, i hel ein pac ar brynhawniau braf, a mynd ar deithiau cerdded di-ri, heb adael ein cynefin ni wrth gwrs.

Lawr i'r afon, mewn i'r coed, ar hyd ehangder y caeau gwyrdd ac i fyny i'r darn uchaf o dir i edrych ar olygfa ysblennydd Dyffryn Tywi. Yma, ar y copa, daw wir gyfle i'r enaid gael llonydd.

Ffynhonnell y llun, Megan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Megan a'i meibion Deio ac Elis

Ymlacio ac anadlu a sŵn chwarae a chwerthin y ddau fach yn y cefndir! Mae 'na wledd i'r llygaid yma. Golygfeydd godidog o'r Mynydd Du yn sefyll yn urddasol o'ch blaen a Llyn y Fan Fach yn cysgodi yn ei chesail.

Yn agosach, gerllaw, mae Parc Abermarlais a phentref Llangadog a'i ffermydd mud. Ymhellach i'r chwith, mae pentref bychan Llansadwrn lle mae gwreiddiau teulu'r gŵr yn ddwfn yn seiliau'r tir.

Wrth ddilyn ac ymdroelli gyda'r afon Tywi tua'r gorllewin mae modd, ar ddiwrnod braf, i weld cyn belled â phentrefi Y Tymbl a Crosshands sydd ryw 20 milltir i ffwrdd. Yn y llecyn yma, mae modd anghofio am bopeth sydd y tu allan i fy 'swigen' fach i a chaf ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig.

Ffynhonnell y llun, Megan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dyffryn Tywi yn ei holl ogoniant

Fe fuodd 2020 yn flwyddyn heriol i bawb ond fe wnaethom, a rydym yn parhau i wneud y gorau o'r cyfnodau clo. Rydym wedi gweld natur yn cylchdroi a'r amgylchfyd yn ymateb i'r tywydd a'r tymhorau.

Y tir yn sychu'n grimp yn ystod gwanwyn chwilboeth ac yna yn llenwi gyda glaw di-baid erbyn yr Hydref a'r eira diweddar yn gorchuddio creithiau'r ddaear.

Y blodau, y dail a'r glaswellt yn egino ac yna yn crebachu yn eu tro. Croesawu a ffarwelio â'r gwcw a'r wennol. Y cynaeafu ac y rhod amaethyddol yn troi. A ninnau wedi cael y fraint o eistedd yn y sedd flaen i brofi cylchrediad bywyd wrth i ŵyn bach gael eu geni, prancio yn yr heulwen a thyfu'n gryf.

Fe welsom grifft broga mewn cafn yn un o'r caeau a wnaeth y 'dysgu o adref' yn bleser, am gyfnod, wrth i'r plant ymweld â'r penbyliaid a'u datblygiad yn ddyddiol yn ystod yr haf! Yng nghanol amseroedd tymhestlog, cafwyd profiadau gwerthfawr i'w trysori, ar gof a chadw.

Yndi, mae bywyd yn gallu bod yn ras wyllt, ond yma, ar garreg y drws mae cyfle i ddianc, addysgu a llonyddu am ychydig.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig