ASau wedi yfed yn y Senedd ar ôl gwaharddiad Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Alun Davies, Paul Davies, Darren Millar and Nick Ramsay
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BBC yn deall mai (ch-dd) Alun Davies, Paul Davies, Darren Millar a Nick Ramsay oedd yn rhan o'r digwyddiad

Fe wnaeth grŵp o aelodau Seneddol yfed alcohol yn adeilad Senedd Cymru, ddyddiau ar ôl i'r gwaharddiad ar weini alcohol ddod i rym.

Mae BBC Cymru'n deall bod arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies, yr aelodau Ceidwadol Darren Millar AS a Nick Ramsay AS, a'r AS Llafur Alun Davies yn rhan o'r digwyddiad.

Dywedodd awdurdodau'r Senedd eu bod yn ymchwilio i "ddigwyddiad" ar safle'r Senedd, "allai fod wedi bod yn groes i reoliadau iechyd cyhoeddus".

Roedd datganiad ar ran Paul Davies a Darren Millar yn dweud na wnaethon nhw dorri rheolau, ond eu bod yn ymddiheuro am y digwyddiad. Mae Nick Ramsay wedi cael cais am sylw.

Dywedodd Alun Davies ei fod yn ymddiheuro os nad oedd wedi rhoi'r argraff ei fod wedi ei ymrwymo i ddilyn y rheolau, ond nad oedd wedi torri'r rheolau oedd mewn grym.

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Llafur y Senedd: "Mae aelod wedi'i atal rhag breintiau aelodaeth Grŵp Llafur y Senedd tra bod ymchwiliad yn digwydd i'r digwyddiad honedig hwn."

Mewn cyfweliad ar raglen Wales Live ar y BBC nos Fawrth, dywedodd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atheron: "Yng Nghymru rydym wastad wedi cael y teimlad ein bod ni i gyd gyda'n gilydd yn hyn, ac mae'n hollbwysig ein bod ni'n diogelu hynny, felly mae 'na ddisgwyliad y bydd pawb yn dilyn y rheolau."

Gwaharddiad ar werthu alcohol

Daeth gwaharddiad ar werthu, cyflenwi ac yfed alcohol mewn adeiladau trwyddedig i rym am 18:00 ar 4 Rhagfyr, er y gallai busnesau lletygarwch werthu alcohol i'w gludo i ffwrdd ar ôl 18:00.

Ond bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar 8 Rhagfyr, fe yfodd y grŵp o aelodau a staff y Senedd alcohol yn adeilad Tŷ Hywel - sy'n gartref i swyddfeydd y Senedd.

Mae gan gwmni arlwyo allanol y drwydded ar gyfer gweini alcohol ar safle'r Senedd. Dywedodd cwmni Charlton House eu bod yn cynnal "ymchwiliad llawn i'r mater".

Ar 1 Rhagfyr, ddiwrnod ar ôl cyhoeddi'r gwaharddiad ar alcohol, gofynnodd Paul Davies, arweinydd grŵp Seneddol y Ceidwadwyr, gwestiwn i'r prif weinidog yn y Senedd:

"Pa mor hyderus ydych chi y bydd y mesur hwn yn lleihau ffigyrau trosglwyddo ac nid yn arwain at bobl yn ymgynnull ar aelwydydd ac yn cael partïon mewn tai am nad oes modd iddyn nhw brynu diod alcoholig mewn tafarn?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Blaid Geidwadol yn dweud na wnaeth yr aelodau yfed wisgi, dim ond gwin

Gwrthwynebodd Ceidwadwyr Cymru y cyfyngiadau clo byr ddaeth i rym ym mis Hydref, ac ar yr adeg honno dywedodd Mr Davies: "Er ein bod yn anghytuno gyda nhw, byddwn yn naturiol yn cadw at y gyfraith a byddwn yn sicrhau bod pobl Cymru yn gwneud hynny hefyd."

Ar 9 Rhagfyr, y diwrnod ar ôl y "digwyddiad", dywedodd Darren Millar ar lawr y Siambr: "Mae gweinidogion wedi dewis gosod cyfyngiadau difrifol ar bob unigolyn yn y wlad oherwydd lleiafrif bach yn rhai o'n cymunedau na fydd, waeth beth yw'r rheolau, byth yn ufuddhau.

"Ac nid yw canlyniadau anfwriadol y rheolau hynny, fel pobl yn cymysgu yng nghartrefi pobl ac yn yfed gyda'i gilydd, gan greu hyd yn oed mwy o heintiau, yn cael eu hystyried o gwbl yn y dogfennau hynny," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar ddechrau'r pandemig, galwodd Mr Millar ar y prif weinidog i ddiswyddo'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn dilyn cwestiynau am ei ymddygiad pan eisteddodd a bwyta sglodion pan oedd ar daith gerdded gyda'i wraig a'i fab ifanc.

Ym mis Mai, dywedodd yr AS dros Orllewin Clwyd yn y Senedd: "Mae'n edrych i'r cyhoedd fel bod un rheol i'r gweinidog iechyd a rheol arall ar eu cyfer nhw."

Ar 1 Rhagfyr, y diwrnod ar ôl cyhoeddi'r cyfyngiadau newydd, dywedodd yr AS Llafur Alun Davies ei fod "am weld mwy o orfodaeth [o reoliadau Coivd-19], yn enwedig mewn gweithleoedd".

Ymddiheuriad

Mewn datganiad, dywedodd Alun Davies AS fod yn ddrwg iawn ganddo os nad oedd wedi rhoi'r argraff ei fod wedi ei ymrwymo i ddilyn y rheolau "yr oeddwn wedi eu cefnogi'n gyson yn ystod y flwyddyn ddiwethaf".

Ychwanegodd mai bwriad y cyfarfod dan sylw oedd ceisio perswadio'r Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi ei gynnig am "Fil Calonnau Cymru", ac i ymrwymo i'r ddeddfwriaeth yn eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai.

"Mae Comisiwn y Senedd wedi cadarnhau i mi yn barod nad oeddwn wedi torri rheolau coronafeirws o ran bwyd ac alcohol oedd mewn grym ar y pryd.

"Rwyf hefyd wedi cadarnhau i'r Comisiwn nad oedd y rheolau am nifer y bobl oedd yno ag ymbellhau cymdeithasol heb eu torri chwaith. Rwy'n edrych ymlaen i glywed casgliadau terfynol y Comisiwn ar y mater hwn."

Ffynhonnell y llun, Google

Mae datganiad ar ran Paul Davies, Darren Millar ac aelod o staff y blaid, Paul Smith, oedd hefyd yn y cyfarfod, yn dweud na wnaethon nhw dorri rheolau, ond bod y tri yn ymddiheuro am y digwyddiad.

Mae'r tri yn "cydnabod nad fyddai'r hyn oedd yn rhan o'n gwaith yn cael ei weld fel bod o fewn ysbryd y rheolau, yn enwedig o ystyried y cyfnod anodd mae'r wlad wedi ei phrofi", meddai'r datganiad.

Ychwanegodd y datganiad bod y cyfarfod i drafod deddfwriaeth, ac nad oedd yr aelodau wedi yfed wisgi, dim ond gwin.

Nid yw Mr Ramsay wedi ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Mary Jones nad yw'n dderbyniol i beidio â gweithredu yn erbyn yr aelodau

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd: "Rydyn ni'n ymwybodol o ddigwyddiad ar ystâd y Senedd y mis diwethaf a allai fod wedi bod yn groes i reoliadau iechyd cyhoeddus oedd mewn grym ar y pryd.

"Mae Comisiwn y Senedd yn cymryd y rheoliadau iechyd cyhoeddus yng Nghymru o ddifrif ac ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i'r mater er mwyn darganfod y ffeithiau cywir o'r hyn a ddigwyddodd ac i benderfynu os oes angen gweithredu."

Dywedodd AS Plaid Cymru, Helen Mary Jones, bod angen "gosod esiampl" yn ystod cyfnod y pandemig.

"Mae 'na gwestiwn o ragrith yma, mae rhai o'r unigolion wedi bod yn feirniadol iawn o achosion o dorri cyfyngiadau gan bobl eraill mewn swyddi cyhoeddus, ac nid yw'n dderbyniol i beidio â gweithredu."

"Dylai'r Blaid Geidwadol wahardd yr unigolion yma ac ymchwilio i'r digwyddiad."

Pynciau cysylltiedig