Ateb y Galw: Y canwr a'r cyflwynydd Welsh Whisperer
- Cyhoeddwyd
Y canwr a'r cyflwynydd Welsh Whisperer sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Trystan Llŷr Griffiths.
Y Welsh Whisperer yw cyfansoddwr a chanwr nifer o glasuron y sin bop a gwerin Gymraeg, fel Ni'n Beilo Nawr a Loris Mansel Davies. Mae sticeri 'Ni'n Beilo Nawr' i'w gweld ar gerbydau ledled Cymru. Mae o hefyd yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru ac S4C.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Rwy'n cofio fy chwaer yn rhedeg drosta i ar hen feic heb y brakes. Roedden ni'n byw hanner ffordd lawr y rhiw mawr 'ma yn mynd mewn i'r pentref felly roedd hi'n mynd ffwl pelt. Dechrau da i fywyd!
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Roedd Mam arfer tapio pob pennod o Countdown ac roedd Carol Vorderman wastad yn edrych yn dda. Rhywsut mae dal yn edrych yn dda heddiw, os nad gwell!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Wna i fyth anghofio'r olygfa o'r tŷ lle ges i fy magu yng Nghwmfelin Mynach, Sir Gaerfyrddin. Golwg dros y cwm a'r afon Gronw tuag at fferm Esgairddaugoed - enw da hefyd!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Pan wnes i ffeindio mas bod gen i'r cyflwr Crohn's Disease. Roedd yn sioc oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod yn iawn beth oedd e, ond erbyn hyn mae popeth yn iawn ac dim ond cymryd ychydig o feddyginiaeth ac osgoi doner kebabs a vindaloos sydd angen ar y cyfan.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Llac, llawen, cyfeillgar.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Wnes i fwynhau llyfr Iona ac Andy yn weddol ddiweddar. Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint wnaethon nhw chwarae yn America ac mewn lleoliadau mor enwog â'r Opry yn Nashville, a hynny yn Gymraeg! Mae'r llyfrau yn llawn selfies (cyn oedd selfies yn bodoli) gyda sêr canu gwlad y byd. Mae'n rhyfedd cyn lleied o glod sydd yna i artistiaid sydd yn codi proffil ni fel Cymry ar draws y byd, tu hwnt i Lundain a Lloegr!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
'Sai'n gwybod am erioed ond roedd e'n eithaf embarassing...Yn 2019 ar ochr llwyfan Penmaenau yn y Sioe Frenhinol, galwodd Bryn Fôn fi i'r llwyfan yng nghanol y gân Rebel Wicend i ganu pennill (heb rybudd!) a doeddwn i methu cofio'r geiriau i gyd! Roedd dros 1,000 o bobl yna ac rwy'n cofio rhai lawr yn y rhes flaen yn edrych yn siomedig... iawn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
'Sai'n cofio'r rhai gorau.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Rwy'n gwrando ar ganu gwlad a gwerin Gwyddelig yn aml ac mae teulu fy mam yn dod o'r Alban, felly dwi'n meddwl bod hwnna wedi fy nhynnu tuag at sŵn yr acordion, sef rhywbeth dwi wedi methu peidio gwrando arni ers clywed un am y tro cyntaf mewn tŷ yng Nghaerfyrddin! Does dim un cân yn hoff gân i fi ond mae jigs a reels yn blastio mas rownd y tŷ neu yn y fan yn aml!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Pigo fy nhrwyn a fflicio i ffwrdd, er pob tro i'r bin neu mas o'r ffenest.
O archif Ateb y Galw:
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am y sesh olaf un lle does dim diwedd i'r peints, hwyl, canu, creision na chnau... tan bo' fi'n marw.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae fy rhieni yn dod o Loegr yn wreiddiol ac roedden ni'n siarad Saesneg rownd y bwrdd gytre!
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Bydden i ddim yn meindio cael gwledd medd gyda Owain Glyndŵr i weld sut fath o foi oedd e. Hefyd Dai Llanilar, rwy'n siŵr bod straeon da gan y ddau!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Bill Gates er mwyn gwagio'r cyfrif banc a transferrio popeth yn syth i fi er mwyn fi gael setio lan bar karaoke Cymraeg mas yn Benidorm neu rywle... rhyw ddydd.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Bach o Parma ham, lasagne, brownie a hufen iâ. Gyda llaw d'wedodd rhywun wrtha i mewn tafarn yng Nghaerfyrddin o'r blaen taw Carmarthen ham oedd hi yn wreiddiol tan i'r Eidalwyr ddwyn y syniad, felly mae rhaid bod hwnna yn wir!
Pwy wyt ti'n ei enwebu?
Gareth yr Orangutan