Chwarter poblogaeth Cymru dros 80 oed wedi'u brechu
- Cyhoeddwyd
Mae chwarter poblogaeth Cymru dros 80 oed - sydd ddim yn byw mewn cartrefi gofal - wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn Covid-19, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Mae'r ystadegau'n dangos bod 43,879 (23.9%) o bobl allan o gyfanswm o 183,394 wedi derbyn eu brechiad cyntaf.
Ymddengys bod y ffigyrau yn gwrth-ddweud sylwadau gan y Gweinidog Iechyd yn y Senedd ddydd Mawrth - pan ddywedodd ei fod "ar ddeall" fod darpariaeth y brechlyn wedi cyrraedd "y mwyafrif" o boblogaeth dros 80 oed Cymru.
Dywedodd Vaughan Gething wrth ASau ei fod hefyd yn disgwyl y byddai 70% o bobl dros 80 yng Nghymru, a 70% o drigolion a staff cartrefi gofal wedi derbyn eu brechiad cyntaf erbyn diwedd y penwythnos yma.
Mae Mr Gething wedi cyfaddef gwneud "camgymeriad diniwed" pan siaradodd yn y Senedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "dal ar y trywydd iawn i fod wedi brechu 70% o bobl dros 80 oed ac mewn cartrefi gofal erbyn diwedd yr wythnos, fel y dywedodd y Gweinidog Iechyd yn y Senedd".
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae 56.4% (9,364 o 16,602) o drigolion cartrefi gofal wedi derbyn eu pigiad cyntaf a 67.5% o weithwyr gofal (20,087 o 29,750).
Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o 86,717 o weithwyr gofal wedi derbyn y brechlyn - er nad yw'r ffigyrau'n dynodi pa ganran o'r gweithlu yw hyn.
Dros Gymru mae 190,435 o bobl wedi derbyn brechlyn cyntaf, sy'n 6% o'r boblogaeth.
Mae hynny'n is na'r canrannau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon (7.6%), ond yn debyg i ganran Yr Alban (6.1%).
Yn y Senedd ddydd Mawrth, ymatebodd Mr Gething i gwestiwn gan yr AS Ceidwadol Andrew RT Davies ynglŷn â'r nifer o bobl dros 80 oed sydd wedi derbyn y brechlyn:
"Dwi nid yn unig yn gobeithio byddwn wedi cyrraedd saith mewn 10 o drigolion a staff cartrefi gofal erbyn y penwythnos, dwi nid yn unig yn disgwyl byddwn wedi cyrraedd 70% o bobl dros 80 oed erbyn y penwythnos, rydw i'n disgwyl i ni wneud hynny, ac rydw i ar ddeall ar hyn o bryd ein bod yn barod wedi llwyddo i wneud hynny ar gyfer y rhan fwyaf o'r boblogaeth sydd dros 80 oed.
"Bydd gen i fwy o ffigyrau yn hwyrach yr wythnos hon a byddai'n hapus i rannu'r rheiny gydag aelodau a'r cyhoedd er mwyn rhoi hyder i aelodau sydd eisiau hynny... mae hyn yn raglen sy'n cyflymu."
Yn ymateb i gyhoeddiad y ffigyrau ddydd Mercher, galwodd Mr Davies ar Mr Gething i wneud "datganiad brys yn egluro'r sefyllfa".
Dywedodd: "Mae'r gwahaniaeth mawr rhwng honiad y Gweinidog ddydd Mawrth a'r ystadegau a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn peri gofid, a'n dangos nad yw'r Gweinidog ar draws y manylion pwysig.
"Ar hyn o bryd, mae'n hollbwysig bod gweinidogion Llafur yn darparu'r wybodaeth gywir i bobl Cymru, yn enwedig gwybodaeth sy'n gysylltiedig gyda'r rhaglen brechu, ni ddylai'r Senedd na'r cyhoedd cael eu camarwain.
"Mae nifer o bryderon wedi cael eu codi gan y cyhoedd ynglŷn â gweithrediad a chyfathrebu Llywodraeth Cymru am y brechlyn ac unwaith eto mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd apwyntio unigolyn sy'n ffocysu'n gyfan gwbl ar ddarpariaeth y brechlyn yng Nghymru."
'Camgymeriad diniwed'
Yn ddiweddarach ddydd Iau, fe wnaeth Mr Gething gyfaddef iddo wneud "camgymeriad diniwed" gyda'r ffigwr.
Dywedodd bod "ychydig o ddryswch am y gwahaniaeth rhwng preswylwyr cartrefi gofal... a phobl dros 80".
Pan ofynnwyd i Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru os oedd ganddo'r un hyder a'r Gweinidog Iechyd ei fod yn gallu cyrraedd y targed, dywedodd ei fod "hyderus bydd y niferoedd yna'n cael eu hadlewyrchu ar gyfer pobl dros 80 oed erbyn diwedd yr wythnos".
Yn ôl Mr Evans: "Mae bron 44,000 o bobl dros 80 oed wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, hynny yw 24% o'r boblogaeth ond rydyn ni'n ymwybodol bydd mwy yn cael eu gwneud wrth i'r penwythnos fynd yn ei flaen, felly'r niferoedd yw: 15,000 [yn cael eu brechu] pob dydd nawr a bydd hynny'n cynyddu'n bellach dros y penwythnos, yn enwedig wrth i feddygon teulu, sydd â mynediad i'r brechlyn AstraZeneca, flaenoriaethu pobl yn y grwpiau yna wrth i ni fynd mewn i ddydd Gwener, Sadwrn a Sul."
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n ymwybodol bod 56% o bobl mewn cartrefi gofal wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, felly mae hwnna'n gynnydd aruthrol tuag at y targed o 7 mewn 10 a gafodd ei osod gan y gweinidog."
Dywedodd y Prif Swyddog Fferyllol bydd y GIG yn rhoi mwy na 60,000 o ddosau o'r brechlyn Pfizer BioNtech allan yr wythnos hon yn ogystal â 90,0000 o frechlynnau Rhydychen AstraZeneca i ysbytai a meddygfeydd.
"Rydyn ni'n gwybod bod meddygon ar draws Cymru wedi bod yn awyddus iawn i gael eu dwylo ar y brechlyn, ac fel mae wedi digwydd, dydy'r cyflenwadau ddim wedi gallu cwrdd â'r galw felly rydyn ni'n hyderus bod yna gapasiti a'r system."
Gweithio mor gyflym ag sy'n bosib
Yn ymateb i feirniadaeth bod Llywodraeth Cymru yn cwympo tu ôl gwledydd eraill wrth ddarparu'r brechlyn, dywedodd Mr Evans bod Cymru'n symud mor gyflym ag y mae'n gallu.
Eglurodd fod heriau ynghylch trafnidiaeth a storio'r brechlyn Pfizer BioNtech, sydd angen cael eu cadw mewn canolfannau arbenigol ar dymheredd isel iawn.
Ychwanegodd bod cynlluniau ar gyfer brechlyn Rhydychen AstraZeneca yn seiliedig ar nifer penodol wedi eu derbyn gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr pob wythnos.
Yn egluro'r amrywiaeth mewn cyfraddau brechu ar draws Cymru, dywedodd: "Mae'r holl frechlynnau sy'n dod mewn i Gymru yn cael eu rhoi i fyrddau iechyd yn seiliedig ar y garfan yn ardal y bwrdd iechyd yna, felly dydy e ddim yn wir fod un ardal yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer trosglwyddiadau'n fwy nag eraill."
"Ond mae'r nifer o frechlynnau gall fwrdd iechyd gael ar unrhyw amser yn adlewyrchu capasiti neu'r nifer o apwyntiadau gall fod wedi bwcio yn eu canolfannau brechu."
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru 46 marwolaeth yn rhagor gyda coronafeirws ddydd Iau yng Nghymru, sy'n mynd â chyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig i 4,392.
Adroddwyd bod 1,153 o achosion pellach yng Nghymru wedi'u cadarnhau, gyda chyfanswm y nifer o achosion nawr yn 185,035.
Mae cyfanswm o 190,435 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn ac mae 396 wedi derbyn eu hail ddos.
Yng Nghaerdydd roedd y nifer mwyaf o achosion newydd, wedi'i ddilyn gan Wrecsam.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2021