Gwireddu breuddwyd merch 15 oed o Batagonia
- Cyhoeddwyd
Mae newid i ddosbarthiadau ar-lein oherwydd argyfwng Covid-19 wedi ysbrydoli Canolfan Gerdd William Mathias i ddarparu gwersi ledled y byd.
Mae'r delynores Elinor Bennett yn un o diwtoriaid y Ganolfan Gerdd sydd â chanolfannau yng Nghaernarfon, Dinbych a Rhuthun, ac ymhlith ei disgyblion mae Helen Green, 15 oed o Batagonia.
O fewn wythnos i gychwyn y cyfnod clo ym mis Mawrth y llynedd fe wnaeth y ganolfan ddechrau gwersi ar-lein ac y mae hynny wedi galluogi Helen Green i gael gwersi gan ei harwres.
"Rwy'n teimlo mor ffodus bod gennym y dechnoleg i wneud hyn," medd Helen.
"Mae cael Elinor fel fy mentor yn fraint go iawn, ac yn gyfle i ddysgu cymaint. Mae hi'n athrawes eithriadol ac yn delynores anhygoel."
'Ffurfio cyswllt cyffrous'
Dywedodd Elinor ei bod hi'n edrych ymlaen yn fawr at y gwersi bob pythefnos gyda Helen, ac yn mwynhau dal i fyny â'r newyddion o Batagonia gan iddi fod yno ar ymweliad deirgwaith.
"Mae gwyrthiau technoleg fodern wedi bod yn hynod fuddiol yn ystod y cyfnod anodd hwn i gerddorion ledled y byd," meddai.
"Er gwaethaf yr anawsterau rydym wedi ffurfio cyswllt cyffrous y mae Helen a minnau yn edrych ymlaen ato bob pythefnos.
"Mae'n cymryd tipyn o waith paratoi ar y ddwy ochr i wneud iddo weithio, ac mae'n rhaid i ni ystyried y gwahaniaeth amser tair awr ond hyd yma mae'r gwersi wedi mynd yn rhyfeddol o dda.".
'Agor ein llygaid i'r cyfleoedd sydd ar gael'
Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias, Meinir Llwyd Roberts: "Does dim dwywaith ein bod ni wedi wynebu rhwystrau digynsail wrth geisio cynnal y ddarpariaeth addysg gerddorol yn ystod y pandemig, ond rydym wedi llwyddo i addasu ein holl brosiectau rheolaidd i gynnig rhywfaint o ddarpariaeth ar-lein.
"Mae wedi agor ein llygaid i'r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio hyn fel dull o ddarparu gweithgareddau yn y dyfodol.
"Gwersi wyneb yn wyneb yw'r opsiwn gorau ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i allu dychwelyd i gynnal ein holl brosiectau wyneb yn wyneb, ond mewn rhai amgylchiadau lle nad yw hyn yn bosibl mae'r cyfleuster ar-lein yn opsiwn amgen gwych. Byddwn yn parhau i'w gynnig yn y tymor hir, ar ôl y pandemig.
"Nid oes ond rhaid edrych ar enghraifft ryfeddol Elinor a Helen i weld sut y gall addysg gerddorol fynd y tu hwnt i ffiniau - rhai daearyddol, corfforol neu emosiynol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020