'Angen diogelu'r llyfrgell er lles cenedlaethau'r dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wedi colli 23% o'i staff ers 2008

Mae angen diogelu'r Llyfrgell Genedlaethol "er lles cenedlaethau'r dyfodol" yn ôl yr Aelod o'r Senedd dros Geredigion, wrth i'r sefydliad ymgynghori ar dorri swyddi.

Mae 30 o swyddi yn y fantol yn y sefydliad yn Aberystwyth wrth i'r sefydliad geisio ailstrwythuro ei staff.

Fe wnaeth gweithwyr yn y llyfrgell dderbyn manylion strwythur arfaethedig newydd yn gynharach yn y mis, ac mae ymgynghoriad wedi dechrau.

Mae deiseb yn galw am "gyllid teg" i'r Llyfrgell Genedlaethol wedi cael ei harwyddo gan dros 11,000 o bobl bellach, gan olygu y bydd y mater yn cael ei drafod ar lawr y Senedd.

Dywedodd trefnydd y ddeiseb, y cynghorydd tref Aberystwyth, Sue Jones-Davies: "Fe ddylen ni fod â chywilydd ohonom ni ein hunain fel cenedl os ydyn ni'n barod i eistedd yn ôl a gweld y Llyfrgell yn mynd i'r gwellt.

"Alla i ddim credu bod ein llywodraeth yn barod i eistedd yn ôl a gadael i hynny ddigwydd," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

Dywed Llywodraeth Cymru na fu'n bosib cynyddu'r cymorth refeniw oherwydd "pwysau cyllidebol digynsail".

Mae'r llyfrgell yn anelu at wneud arbedion ar ôl yr hyn y mae wedi'i ddisgrifio fel "tanariannu hanesyddol systematig gan Lywodraeth Cymru".

Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu mae'n debygol y bydd hyd at 30 o swyddi cyfwerth a rhai llawn amser yn cael eu colli o'r 225 o staff sy'n gweithio yno.

Dywedodd yr aelod staff a llefarydd yr undeb, Rob Phillips, eu bod wedi colli 100 o staff dros 10 mlynedd ac nad oedd mwy i'w docio.

'Digalon i'r genedl gyfan'

Dywedodd Llywydd y Senedd ac AS Ceredigion, Elin Jones ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru bod y llyfrgell yn "gorff cenedlaethol pwysig".

"Yn y Llyfrgell Genedlaethol ni'n cadw ein cof ni fel cenedl, a ni'n gallu gwneud y cof hynny ar gael i bobl yng Nghymru a thu hwnt," meddai.

"Mae sgiliau'r staff yn amhrisiadwy ac maen nhw wedi gweld toriadau ar hyd y degawd diwethaf.

"Felly, ma' wynebu nawr y syniad o golli swyddi eto a gwneud hynny mewn cyfnod o argyfwng economaidd, mae'n ddigalon i'r staff.

"Ond mae e'n ddigalon i'r genedl gyfan wrth i ni weld y fath bwysau a'r fath doriadau ar ein llyfrgell genedlaethol ni - un o lyfrgelloedd mawr y byd a ni angen ei chadw a'i chynnal hi yma yng Nghymru, nid er ein lles ni yma nawr ond er lles cenedlaethau'r dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin Jones bod y sefydliad yn "un o lyfrgelloedd mawr y byd"

Mae deiseb sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi "cyllid teg" i'r sefydliad wedi croesi'r trothwy o 10,000 o lofnodion bellach - y swm sydd ei angen er mwyn cael dadl ar y mater yn y Senedd.

Mae'r ddeiseb yn dweud bod "rhyddid, ffyniant a datblygiad cymdeithas ac unigolion yn werthoedd dynol sylfaenol, a geir gan ddinasyddion gwybodus sydd â mynediad diderfyn at syniadaeth, diwylliant a gwybodaeth".

"Ni ellir disgwyl i lyfrgelloedd greu eu hincwm eu hunain yn yr un modd â busnesau," meddai.

'Gweithredu'n effeithiol o fewn y cyllidebau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn deall fod y cyfnod presennol yn un anodd iawn i'r sector diwylliant a threftadaeth, a bod trafod unrhyw golli swyddi yn "bryder gwirioneddol".

Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi "gallu amddiffyn cymorth grant y llyfrgell rhag unrhyw ostyngiadau ond oherwydd pwysau cyllidebol digynsail ni fu'n bosibl cynyddu'r cymorth refeniw".

"Mater i'r llyfrgell yn awr yw gwneud penderfyniadau ynghylch sut y gall weithredu'n effeithiol o fewn y cyllidebau sydd ar gael," meddai.

Yn ystod cyfarfod llawn o'r Senedd brynhnawn Mawrth, fe wnaeth AS Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian, drafod y pwysau ariannol sydd ar yr Eisteddfod Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol a'r Urdd.

Dywedodd Ms Gwenllian ei bod wedi bod yn galw am gymorth i'r Llyfrgell Genedlaethol ers mis Tachwedd diwethaf.

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans AS bod hi'n ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu'r sefydliadau.

O ran y Llyfrgell Genedlaethol fe ychwanegodd bod y cyllid sy'n cael ei roi iddyn nhw yn adlewyrchu y setliad a gafodd Llywodraeth Cymru gan San Steffan ac y bydd y cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf yn aros yr un fath.