Tân Bangor: Dechrau'r gwaith o ddymchwel adeiladau
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y gwaith o ddymchwel adeiladau ar Stryd Fawr Bangor gafodd eu difrodi mewn tân ym mis Rhagfyr 2019 yn dechrau ym mis Chwefror.
Dywed Cyngor Gwynedd y bydd y gwaith o ddymchwel adeiladau rhif 164 a 166 ar y stryd yn cychwyn ar 1 Chwefror, ac fe fydd yn cael ei gwblhau mewn dwy ran.
Mae cryn feirniadaeth wedi bod yn lleol fod y gwaith wedi cymryd cymaint o amser i'w drefnu, gyda busnesau'n cwyno fod cau'r Stryd Fawr wedi golygu colledion ariannol iddyn nhw.
Bydd rhan gyntaf y cynllun yn ymwneud â chryfhau'r ffordd ar gyfer lleoli craen i alluogi'r gwaith dymchwel ddechrau. Mae disgwyl i'r cam yma gymryd tua saith wythnos.
Unwaith y bydd craen wedi ei leoli ar y safle yna fe fydd yr ail gam, sef dymchwel yr adeiladau, yn gallu dechrau. Mae disgwyl i'r gwaith yma gymryd tua chwech wythnos i'w gwblhau.
Dywedodd Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Rydym yn cydnabod yn llwyr yr effaith a'r aflonyddwch y mae'r sefyllfa yma wedi'i achosi i drigolion a masnachwyr lleol.
"Rwy'n hynod falch felly ein bod wedi cyrraedd sefyllfa lle gall gwaith nawr ddechrau ar y safle, gyda'r golwg i ail-agor y rhan yma o'r Stryd Fawr i draffig cyn gynted â phosib."
Dechrau'r gwaith paratoi
Dywedodd John Evans o Beirianwyr EWP sy'n gweithio ar ran perchnogion yr adeiladau: "Rydym nawr mewn sefyllfa i ddechrau paratoadau pellach i ddymchwel y ddau eiddo gyda gwaith yn cychwyn ar y safle wythnos nesaf.
"Mae cyflwr a lleoliad yr eiddo sydd wedi'u difrodi gan dân, cyflwr gwael y ddaear a gwasanaethau tagedig wedi golygu ymchwilio sylweddol a mesurau lliniaru risg wedi'u rhoi mewn lle."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2020