'Covid yn esgus' i oedi ailagor Stryd Fawr Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr busnes wedi beirniadu'r arafwch i sicrhau bod Stryd Fawr Bangor yn ailagor wedi i dân ddifrodi dau adeilad bron i flwyddyn yn ôl.
Mae rhan o'r stryd, ger y Gadeirlan, ar gau i gerbydau ers tân a ddechreuodd mewn fflat uwchben bwyty ar 17 Rhagfyr 2019.
Yn ôl un o gyfarwyddwyr siop ddillad So Chic, Haydn Davies, y disgwyl yn y lle cyntaf oedd y byddai diogelu'r adeiladau a ddifrodwyd ac ailagor y ffordd yn cymryd pedwar mis.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, cyfrifoldeb perchnogion yr adeiladau yw eu dymchwel yn dilyn y tân a'r difrod a achoswyd.
Does dim amserlen wedi'i gadarnhau o hyd am wneud y gwaith, a dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod "yn siomedig nad yw'r gwaith wedi symud ymlaen" a'u bod hefyd "bellach yn ystyried camau gorfodaeth pellach er mwyn ceisio adfer y sefyllfa".
Mae cau'r lôn wedi "creu trafferthion mawr" i fusnesau, meddai, "o ran cael deunyddiau i'w siopau".
Mae Mr Davies yn derbyn bod y pandemig wedi cael effaith, "ond o'dd cyfle fan hyn pan o'dd y Stryd Fawr yn wag i tynnu adeilad i awr.
"Ma' rhai busnesau adeiladu yn parhau i weithio trwy'r pandemig," meddai ar raglen Post Cyntaf. "Ma' Covid ma' 'di roid esgus, dwi'n meddwl, i roi pethe ar y back-burner.
"Fi'n derbyn bod e'n sefyllfa unigryw, a ni gyd yn diodde' ohono fo. Ond dyw e ddim yn esgus. Ma' ffenestri wedi bod i dechrau'r gwaith, os oeddan nhw'n barod i neud e a dydyn nhw ddim."
Ychwanegodd: "Ni wedi bod yn cyfathrebu - ond ychydig o gyfathrebu wedyn o beth yw'r cynllun weithredu sy'n dod yn ôl i ni, er mwyn codi gobaith."
Cytunodd un o gynghorwyr sir Gwynedd bod hi wedi cymryd rhy hir i'r gwaith fynd rhagddo.
Dywedodd Sion Jones, gan bwysleisio nad oedd yn siarad ar ran y cyngor, ei fod yn deall heriau'r pandemig "ond dwi'm yn meddwl bod o'n esgus llawer i atal unrhyw waith fel hyn mynd ymlaen".
Ychwanegodd: "Mae o'n waith mawr ac yn waith sydd angen ei 'neud er mwyn trio sicrhau dod â'r Stryd Fawr ym Mangor yn ôl i fel o'dd o.
"Mae'n ddistaw yno yn barod, felly yn amlwg mae hyn yn rhwystr mawr i fusnesa' a dwi'n gobeithio fedar Cyngor Gwynedd a'i busnesa' a grwpia' er'ill fynd ymlaen efo'r gwaith gynted â phosib."
Dywedodd Mr Davies fod y stryd "yn dawel iawn trwy'r wythnos" a "bach yn well dros y penwythnos ond mae'r darlun yn un ddu iawn" i fusnesau ar drothwy'r Nadolig ar ddiwedd blwyddyn mor heriol.
"Mae patrwm o siope'n cau, ac wrth grws mae cwmwl du droston ni yn Bangor hefo Debenhams, sydd falle un o'r siope mwy enwog a pwysig i'r ddinas.
"Mae'n drist iawn, iawn ar hyn o bryd. Mae'r footfall yn isel, isel iawn. Gobeithio neith pethe pigo fyny rywfaint cyn Dolig."
'Sefyllfa heriol iawn'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel Cyngor, rydym yn gwerthfawrogi fod y sefyllfa bresennol yn heriol iawn i fusnesau yn yr ardal yma o Fangor. Achoswyd difrod sylweddol i 164 a 166 Stryd Fawr Bangor gan dân ac fe wnaeth y Cyngor ymateb yn gyflym i sicrhau diogelu'r safle.
"Fodd bynnag, mae angen bwrw ymlaen gyda'r gwaith o ddymchwel yr adeiladau sy'n weddill sydd yn gyfrifoldeb ar berchnogion yr adeiladau dan sylw.
"Dros y misoedd diwethaf, rydym fel Cyngor wedi ceisio cefnogi'r perchnogion gyda'r trefniadau angenrheidiol, ac yn ymwybodol fod nifer o ystyriaethau technegol a chymhleth wedi codi. Er hynny, rydym hefyd yn siomedig nad yw'r gwaith wedi symud ymlaen ac nad oes yna gadarnhad o hyd o ran pryd bydd y gwaith dymchwel yn cychwyn ac yn cael ei gwblhau.
"Rydym hefyd yn ymwybodol o bryderon busnesau cyfagos ac effaith ar ganol y ddinas. Yn sgil hyn, a'r amser sydd eisoes wedi pasio, mae'r Cyngor bellach yn ystyried camau gorfodaeth pellach er mwyn ceisio adfer y sefyllfa."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019