Tân Stryd Fawr Bangor yn 'parhau i gael effaith negyddol'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder fod tân a ddigwyddodd ar Stryd Fawr Bangor cyn y Nadolig yn parhau i gael effaith negyddol ar rai o fusnesau'r ddinas.
Ers canol Rhagfyr mae sgaffaldau i sefydlogi'r adeiladau wedi golygu nad oes modd i geir yrru drwy ben ucha'r stryd.
Yn ôl rhai o berchnogion siopau'r ardal mae hyn wedi arwain at "un o'r cyfnodau distawaf" erioed.
Dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod wedi cefnogi busnesau'r ardal, gan fynnu fod y "stryd yn dal ar agor".
Fe wnaeth y tân effeithio ar ddau adeilad - bwyty a siop ddillad annibynnol - ar 17 Rhagfyr y llynedd.
Mae Edward Logan o Classic Carpets wedi bod yn gwerthu carpedi yng nghyffiniau Bangor ers bron i 37 o flynyddoedd ond mae wedi penderfynu cau ei siop.
"Y rheswm, mwy 'na dim byd, ydy oherwydd y tân," meddai.
"Does neb yn pasio efo traffig, does na'm footfall, a'r logistics o gael stoc yma - mae'n nightmare.
"Basically, da ni wedi rhoi give up."
Mae'r stryd yn parhau'n agored i gerddwyr ac mae'r mwyafrif o siopau'n parhau yn agored ond gyda llai yn cerdded heibio mae nifer o fusnesau wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn gwerthiant.
"Does 'na neb yn cerdded y stryd ac yn amlwg does 'na ddim ceir yn pasio," meddai Carys Davies o siop ddillad So Chic.
"Mae'r cyngor wedi bod yn cyfathrebu ac maen nhw'n trio eu gorau - mae'n sefyllfa anodd iawn.
"Be da ni'n gofyn amdano ydy gostyngiad yn y cyfraddau treth, a hynny tan i'r lôn ailagor."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi sefydlu cronfa gwerth £4.8m i ymateb i heriau lleol a bod hynny'n cael ei ddarparu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Ychwanegodd Cyngor Gwynedd ei fod yn ceisio cefnogi busnesau a chyfathrebu'n glir.
Mae disgwyl i graen gyrraedd stryd fawr Bangor dros yr wythnosau nesaf i ddechrau'r broses o ddymchwel yr adeiladau, gyda swyddogion yn rhagweld y bydd y lôn ar gau tan ddiwedd Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019