'Diffyg ewyllys gwleidyddol' i godi grant y Llyfrgell Gen
- Cyhoeddwyd
Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn "cydnabod pwysigrwydd ein sefydliadau diwylliannol," yn ôl ffynhonnell yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae 30 o swyddi dan fygythiad yn y Llyfrgell yn Aberystwyth wrth iddi geisio gwneud arbedion.
Mae pryder y gallai gwasanaethau gael eu torri'n ôl yn sylweddol hefyd.
Dywedodd y llywodraeth ei bod yn "edrych ar bob opsiwn sydd ar gael" i ddiogelu swyddi.
Ariennir y Llyfrgell drwy gyfuniad o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru ac incwm o'i gweithgareddau ei hun.
Ond ychydig iawn o newid sydd wedi bod i faint grant refeniw'r llywodraeth ers blynyddoedd lawer, gan arwain at doriad cyllideb mewn termau real o 40%.
Gwerth y grant ar gyfer y flwyddyn 2020-21 yw £9.89m o'i gymharu â £9.57m yn 2006-07 a £10.41m yn 2009-10.
Mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol y Llyfrgell wedi dweud y gallai codiad o £1.5m i'r grant blynyddol fod yn ddigon i osgoi'r toriadau arfaethedig, dolen allanol.
'Diffyg ewyllys gwleidyddol'
Hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu nad oes arian ychwanegol ar gael.
Yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas becyn cyllido gwerth £17.7m ar gyfer byd y campau yng Nghymru i ymdopi gydag effeithiau'r pandemig.
Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC, dywedodd un ffynhonnell o'r Llyfrgell: "Nid diffyg arian ydy o, ond diffyg ewyllys gwleidyddol.
"Diffyg sylweddoliad pwysigrwydd sefydliadau diwylliannol - dim yn cydnabod pwysigrwydd ein diwylliant ni."
Rhybuddiodd y ffynhonnell y gallai'r Llyfrgell, heb arian ychwanegol, gael ei "gadael ar ôl" a dod yn "lyfrgell genedlaethol eilradd".
'Anodd cael llywodraeth i wrando'
Roedd Andrew Green yn llyfrgellydd a phrif weithredwr y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 1998 a 2013.
Dywedodd wrth y rhaglen: "Roedd hi bron bob amser yn anodd cael llywodraeth i wrando.
"Os ydych chi'n sefydliad sy'n eithaf bach sy'n cael ei ystyried ar y cyrion - er nad oedd ar y cyrion - mae'n anodd iawn cael sylw.
"Rwy'n credu bod diffyg gwerthfawrogiad yn y cylchoedd uchaf yn y llywodraeth, o leiaf, o'r hyn y mae'r Llyfrgell yno ar ei gyfer a'r hyn y mae'n ei wneud."
Daeth adolygiad diweddar o'r Llyfrgell a gomisiynwyd gan y llywodraeth i'r casgliad fod angen "sylw brys" ar ei chyllid ac nad oedd y sefyllfa bresennol yn "gynaliadwy".
Canfu'r un adolygiad fod niferoedd staff y llyfrgell eisoes wedi gostwng o 290 yn 2007-08 i 224 yn 2018-19.
Dywedodd Rob Phillips o undeb llafur Prospect: "Rydym yn ofni y bydd yn llyfrgell genedlaethol mewn enw yn unig."
Ychwanegodd: "Yn syml, ni fydd yn gallu darparu'r gwasanaethau y dylai llyfrgell genedlaethol allu eu gwneud."
Mae deiseb yn galw ar y llywodraeth i ddarparu "cyllid teg" i'r Llyfrgell wedi casglu dros 12,000 o lofnodion.
Ymateb Llywodraeth Cymru
"Rydyn ni'n gwybod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i'r sector diwylliant a threftadaeth ac mae siarad am unrhyw swyddi'n cael eu colli yn bryder gwirioneddol," dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
"Rydyn ni'n edrych ar bob opsiwn sydd ar gael i ni i amddiffyn swyddi a bywoliaethau yn sefydliadau cenedlaethol Cymru.
"Er gwaethaf blynyddoedd o lymder a diffyg cyllid digonol i Gymru, rydym unwaith eto wedi amddiffyn cymorth grant y Llyfrgell rhag unrhyw ostyngiadau.
"Rydym hefyd wedi gweithio i gynyddu llinell sylfaen gyfalaf y llyfrgell yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i gynnal adeilad eiconig y llyfrgell a'r casgliadau pwysig a gedwir ynddo."
Politics Wales, BBC1 Wales, 10.00 ddydd Sul 31 Ionawr ac yna ar iPlayer
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020