Dedfrydu cyn-athro am gynllwyn gwenwyn ffug
- Cyhoeddwyd
Mae athro wedi ymddeol wedi derbyn dedfryd o 21 mis yn y carchar wedi ei ohirio, ar ôl cyfaddef ei fod wedi gadael poteli ffug o Novichok yng Nghastell Penfro.
Ar bum achlysur fe wnaeth John ap Evans, 67, o Benfro, adael poteli wedi'u labelu yn y castell, a oedd yn cynnwys hylif anhysbys, ym mis Gorffennaf 2018.
Cafodd y poteli eu labelu â 'Novichok' a geiriau eraill fel 'angheuol' a 'marwolaeth', gan arwain at wacáu'r ardal ac ymateb aml-asiantaethol.
Digwyddodd hyn bedwar mis ar ôl i asiant cudd-wybodaeth gael ei wenwyno gyda Novichok yng Nghaersallog.
Yn ogystal â chriwiau heddlu a thân, cafodd arbenigwyr amddiffyn cemegol blaenllaw'r DU - sydd wedi bod yn rhan o ymchwiliadau Caersallog - yn ogystal â gwyddonwyr o Porton Down, eu galw i ddadansoddi cynnwys pob un o'r poteli.
Cafodd Evans ei arestio'n ddiweddarach ar ôl i'r heddlu osod camera cudd yn ei le.
Roedd wedi gosod poteli yn 'Wogan's Cavern' yng Nghastell Penfro bum gwaith dros gyfnod o 16 diwrnod cyn cael ei arestio.
Roedd i fod i sefyll ei brawf, ond fe newidiodd ei ble yn ddiweddarach i bob un o'r pum cyhuddiad.
Fe gyfaddefodd y cyn-athro - a oedd yn cynrychioli ei hun yn y llys - ei fod wedi gosod sylwedd amheus bump o weithiau
Clywodd y llys fod Mr Evans wedi rhoi nifer o wahanol esboniadau i'r heddlu mewn cyfweliadau, ond ar un achlysur dywedodd nad oedd wedi disgwyl cael ei gymryd o ddifrif, ac nad oedd yn gwybod pam ei fod wedi ei wneud, heblaw ei fod eisiau i bobl wybod bod digwyddiadau yng Nhaersallog wedi bod yn "gelwydd".
Pan aeth yr heddlu i archwilio ei gyfrifiadur cartef fe ddaethon nhw o hyd i amryw o chwiliadau rhyngrwyd yn ymwneud â'r sylwedd Novichok ac â gwenwynau Caersallog, ac nad oedd Mr Evans yn credu eu bod wedi digwydd mewn gwirionedd.
Dywedodd Mr Evans wrth Lys y Goron Abertawe nad oedd wedi bwriadu achosi unrhyw niwed a'i fod wedi gosod y poteli fel rhan o osodiad celf.
Ar ran yr erlyniad, dadleuodd Simon Davies er efallai nad oedd wedi bwriadu peryglu bywyd, bod yn rhaid ystyried gweithredoedd Mr Evans yng nghyd-destun y pryder cenedlaethol a achoswyd gan y digwyddiadau yng Nghaersallog.
Ar ôl i swyddogion yn Porton Down ddarganfod bod cynnwys y poteli yn ddiogel dywedodd Mr Evans wrth yr heddlu mai cymysgedd o sawsiau tomato a brown ydoedd, wedi'i gymysgu â dŵr.
'Trist a phathetig'
Honnodd Castell Penfro fod gorfod aros ar gau yn ystod cyfnod brig y tymor gwyliau wedi costio amcangyfrif o £7,000 o bunnoedd i'r atyniad, a'u bod wedi derbyn dim ond tua £4,000 o bunnoedd mewn iawndal.
Yn Llys y Goron Abertawe cyfaddefodd y Barnwr Paul Thomas QC nad oedd Mr Evans yn cael ei ystyried yn fygythiad gwirioneddol i gymdeithas, ond roedd ei weithredoedd yn ganlyniad i "ddihangfa wirion" a gyflawnwyd gan unigolyn "trist, pathetig a oedd am ddod â rhywfaint o gyffro i mewn i'ch bywyd".
Roedd yn anghytuno nad oedd gweithredoedd Mr Evans wedi bod yn faleisus yn fwriadol, gan dynnu sylw at y ffaith ei fod wedi cyflawni'r gweithredoedd gan wybod beth oedd wedi digwydd o'r blaen, ac ar ôl gweld y cyhoeddusrwydd yr oedd wedi'i ddenu, "ac mae'n debyg bod hynny wedi eich difyrru".
Aeth ymlaen i ganmol ymatebion y gwasanaethau brys, a oedd - er gwaethaf y digwyddiadau - wedi "gweithredu'n hollol briodol gyda budd y cyhoedd mewn meddwl, ac i'w canmol".
Wrth ddedfrydu'r cyn-athro i 21 mis yn y carchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, dywedodd y Barnwr Thomas y dylai Mr Evans hefyd gyflawni 15 diwrnod o weithgaredd adsefydlu - "i fynd i'r afael â'ch meddwl gwyrgam" - a 200 awr o waith di-dâl yn y gymuned.
Gorchmynnodd y Barnwr Thomas hefyd i Mr Evans dalu iawndal o Gastell Penfro o £2,400.
Gorffennodd trwy ddweud: "Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n sylweddoli pa mor ffôl ydych chi wedi bod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2018