'Annog carcharorion i beidio defnyddio'r Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae siaradwyr Cymraeg yn cael eu gwahanu'n fwriadol a'u hannog i beidio defnyddio'r iaith yng ngharchar mwyaf Cymru, yn ôl honiadau.
Daw'r honiad gan ddyn sy'n dweud bod ei hawliau i siarad Cymraeg wedi eu parchu'n well mewn carchardai dros y ffin nac yng Ngharchar Berwyn yn Wrecsam.
Dywedodd un o weinidogion Llywodraeth Cymru bod "hwn yn rhywbeth sydd yn hollol annerbyniol".
Ond mae'r Gwasanaeth Carchardai yn gwadu'r honiadau, gan ddweud bod cynllun ar waith a chefnogaeth ar gael i siaradwyr yr iaith.
'Cwestiynu pam fy mod i'n siarad Cymraeg'
Cafodd Rhodri ab Eilian o Nant Peris ei ddedfrydu i garchar ym mis Ebrill 2020.
Mae'n honni bod carchardai yn ardaloedd Lerpwl a'r Amwythig wedi parchu ei hawl i ddefnyddio'r iaith, ond fod pethau'n wahanol yn Wrecsam.
Dywedodd wrth ymgyrchwyr grwpiau Undod a'r Prisoner Solidarity Network (PSN) bod swyddogion "bob amser yn cwestiynu pam fy mod i'n siarad Cymraeg" ac "yn eich annog i beidio â siarad Cymraeg".
Yn ôl ei chwaer, Heledd Williams, mae materion fel oedi cyn derbyn llythyrau Cymraeg o'r tu allan i'r carchar a diffyg mynediad i'r cyfryngau Cymraeg hefyd yn effeithio'i brawd.
"Dwi'n meddwl mai'r prif beth yw eu bod nhw'n gwahanu siaradwyr Cymraeg," meddai.
"Pam dydyn nhw ddim ar yr un wing efo'i gilydd fel maen nhw yn Stoke Heath (ger Amwythig) a charchardai eraill? Pam eu bod nhw'n cael eu hynysu fel hyn? Dydy o ddim yn gwneud dim synnwyr.
"Am ei fod o'n garchar newydd, dwi ond yn gallu dyfalu eu bod nhw eisiau creu diwylliant lle mae'r carchar mewn rheolaeth a'u bod ddim eisiau i unrhyw un o'r cymunedau gwahanol gael autonomy."
Trin yr iaith fel 'braint, nid hawl'
Agorodd Carchar Berwyn - yr ail garchar mwyaf yn Ewrop - yn 2017, ac roedd pryderon yn y cyfnod hwnnw nad oedd y swyddi newydd oedd yn cael eu hysbysebu yn rhoi lle digonol i'r Gymraeg.
Yn 2020, honnodd adroddiad blynyddol gan Fwrdd Monitro Annibynnol y carchar bod swyddogion wedi awgrymu wrth siaradwyr y byddan nhw'n colli rhai o'u hawliau o fewn y carchar os na fyddan nhw'n stopio siarad yr iaith.
Mae Undod a PSN yn galw ar bobl i anfon llythyrau i aelodau etholedig i fynnu bod "bygythiadau, gwahanu a sancsiynau carcharorion Cymraeg eu hiaith yng Ngharchar y Berwyn… yn dod i ben".
Dywedodd Siwan Clark o Undod bod y sefyllfa'n dangos bod yr iaith yn cael ei thrin fel "braint, nid hawl".
"Os ydyn ni'n gadael i garcharorion beidio cael eu hawliau iaith, dydyn nhw ddim yn hawliau iaith," meddai.
Wrth ymateb i'r honiadau, dywedodd Eluned Morgan AS, sy'n gyfrifol am y Gymraeg ac Iechyd Meddwl yn Llywodraeth Cymru, ei bod "ddim yn hapus o gwbl i glywed nad ydy pobl yn gallu siarad Cymraeg mewn unrhyw le ac yn sicr mewn carchar sydd yng Nghymru".
Ychwanegodd: "Mae hwn yn rhywbeth sydd yn hollol annerbyniol ac mi fyddwn ni'n edrych mewn i'r sefyllfa os yw hynny'n briodol."
Gwadodd y Gwasanaeth Carchardai yr honiadau, gan ddweud bod gan y carchar gynllun iaith Gymraeg ac aelod arweiniol o staff sy'n cefnogi carcharorion sy'n defnyddio'r iaith.
"Mae hyn yn anwiredd ac nid ydym wedi derbyn unrhyw gwynion," meddai llefarydd.
'Annog unrhyw un i rannu eu profiadau'
Yn 2018 cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg ar y pryd, Meri Huws, adroddiad yn amlinellu'r rhwystrau i siaradwyr Cymraeg o fewn y gwasanaeth carchardai.
Dywedodd ei holynydd, Aled Roberts, bod yr awdurdodau wedi "ymateb yn gadarnhaol i bob un o'n hargymhellion a datblygu cynllun iaith newydd yn adlewyrchu'r ymrwymiad i wella".
Ychwanegodd: "Rydym wedi parhau i fod mewn cyswllt rheolaidd gyda'r gwasanaeth carchar ac wedi gohebu â llywodraethwr y Berwyn yn dilyn adroddiad y Bwrdd Monitro Annibynnol rai misoedd yn ôl a oedd yn amlygu meysydd i'w gwella o ran triniaeth o'r Gymraeg.
"Rwy'n ymwybodol, serch hynny, o'r sylwadau diweddar sydd wedi eu gwneud ynghylch triniaeth siaradwyr Cymraeg yng ngharchar Berwyn.
"Rwy'n annog unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan hyn i gysylltu â mi i rannu eu profiadau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019