Oedi addysg yn 'ergyd arall' i fyfyrwyr prifysgol
- Cyhoeddwyd
Mae oedi parhaus cyn ailddechrau addysg wyneb yn wyneb yn "ergyd arall" i fyfyrwyr prifysgol sydd eisoes "wedi colli cysylltiad â'u hastudiaethau", yn ôl undeb NUS Cymru.
Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i aros adref tan y Pasg, oni bai am nifer fach sy'n cael dychwelyd i ddilyn cyrsiau iechyd a chyrsiau ymarferol.
Golyga penderfyniad prifysgolion Cymru'r wythnos hon bod myfyrwyr nawr yn gorfod cwblhau o leiaf traean o'r flwyddyn academaidd bresennol ar-lein.
Yn ôl Llywydd NUS Cymru, Becky Ricketts, mae'n hanfodol i roi'r "gefnogaeth iechyd meddwl, academaidd ac ariannol" angenrheidiol i fyfyrwyr i'w cynnal drwy'r misoedd nesaf.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi £50m at gefnogi myfyrwyr.
'Mae'r straen yn eich bwrw'
Roedd Abbie Baker, 19, yn fyfyriwr rheoli twristiaeth blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd yn "emosiynol iawn" o glywed na allai ddychwelyd i'r campws tan ddiwedd y tymor presennol.
"Mae straen addysg prifysgol ar-lein a pheidio gwybod beth sy'n digwydd yn eich bwrw, a ry'ch chi'n torri," meddai.
Bu'n rhaid symud yn ôl adref i Ben-y-bont ar Ogwr cyn Nadolig, ond roedd yn dal i dalu am ystafell yn Abertawe.
"Er nad oedd modd cymdeithasu â myfyrwyr eraill, roedd dal synnwyr o ryddid yna. Dydw i ddim yn agos at lawer o bobl yma, felly rwy'n teimlo'n eithaf unig ac mae wir wedi effeithio ar fy iechyd meddwl.
"Nes i ddim meddwl bydde mor anodd ag y mae wedi bod yn nhermau cyfathrebu a chefnogaeth."
Mae gwahaniaeth mawr rhwng dilyn cwrs Safon Uwch a dysgu ar-lein i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, medd Abbie.
"Dydw i ddim yn gwneud cystal ag yr o'n i wedi disgwyl oherwydd, o 'mhrofiad i, dydyn ni heb gael yr arweiniad.
"Ry'ch chi'n meddwl 'falle nad ydw i'n fyfyriwr digon da, dydw i ddim yn haeddu bod yma' oherwydd y graddau hynny. Rwy'n deall bod e'n hollol wahanol i Safon Uwch ond mae'r teimlo'n ddiraddiol iawn, rhoi gymaint o ymdrech i rywbeth ond rydych chi mewn gwirionedd wedi ei wneud yn hollol anghywir.
"Abertawe oedd fy newis cyntaf... nawr rwy'n teimlo falle na ddyliwn i wedi dod yn y lle cyntaf.
"Mae'n anodd gyda'r holl waith ar-lein a straen yr hyn sy'n digwydd o 'nghwmpas. Mae wedi cael effaith ar sut rwy'n dysgu, ac yna ar y traethodau a'r arholiadau.
"Mae wedi gadael ei ôl arna'i ac er mae'r brifysgol yn darparu gwasanaethau i bobl sy'n cael trafferth, rwy'n teimlo 'mod i'n faich ar bawb."
Mae Prifysgolion Cymru a Llywodraeth Cymru wedi mynegi gobaith bod y penderfyniad i oedi addysg wyneb yn wyneb tan o leiaf Pasg yn rhoi "sicrwydd" i fyfyrwyr.
Mae Shreshth Goel, myfyriwr rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi teimlo'n "unig" wrth astudio ar-lein yn yr wythnosau diwethaf.
Methodd â threulio'r Nadolig adref yn India, a bydd wedi byw ar ben ei hun am bedwar mis erbyn Pasg.
"Mae'n eich bwrw weithiau," meddai'r myfyriwr y gyfraith ail flwyddyn, "ond mae yna gefnogaeth hefyd.
Gwerth am arian
"Dyw gwneud gwaith ar-lein ddim byd tebyg i ddysgu mewn person, ond ry'n ni'n deall nad oes bai ar neb. Mae'n fwy anodd i ganolbwyntio achos mae mwy i dynnu'ch sylw pan ry'ch chi'n neud e ar-lein."
Pryder mawr yw faint o werth am arwain mae'n cael o'r cwrs wrth dalu £17,000 y flwyddyn.
"Pan ry'ch chi'n dod o wlad arall, ry'ch chi nid yn unig yn talu am yr holl addysg ond hefyd am y profiad."
Mae'r pandemig eisoes wedi cael "effaith ddinistriol" ar fyfyrwyr, medd Becky Ricketts.
"Mae Llywodraeth Cymru a'r sefydliadau wedi rhoi'r buddsoddiad sydd ei daer angen i wasanaethau iechyd meddwl, academaidd ac ariannol eleni," meddai.
"Ond gyda llawer o fyfyrwyr nawr yn wynebu mwy o amser o'r campws, mae'n hanfodol i'r gefnogaeth yma gyrraedd pawb sydd ei angen.
"Mae myfyrwyr, yn naturiol, yn poeni am orfod dysgu ar-lein am fisoedd lawer heb gefnogaeth wyneb yn wyneb.
"Nid pob myfyriwr sydd â'r dechnoleg, y gofod na'r cysylltiadau i ddysgu'n effeithiol o adref, ac mae'n rhaid i ddulliau asesu adlewyrchu hynny."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gobeithio y byddai eu cyllid ychwanegol yn helpu prifysgolion i gynnig cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr, gan gynnwys "cefnogaeth iechyd meddwl a lles" a "mynediad i gyllid digidol a chaledi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021