Cyhuddo Drakeford o fethu ag amddiffyn yr heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr heddluoedd Cymru wedi cyhuddo'r Prif Weinidog o beidio amddiffyn eu swyddogion yn ystod y pandemig.
Mewn llythyr agored ar y cyd, mae pedair cangen Ffederasiwn Heddlu Cymru yn cyhuddo Mark Drakeford o fethu â blaenoriaethu swyddogion heddlu rheng flaen yn y broses o frechu yn erbyn Covid.
Mae Ffederasiynau Dyfed-Powys, Gwent, Gogledd a De Cymru - sy'n cynrychioli'r cwnstabliaid, rhingylliaid a rhengoedd archwilio - yn herio Mr Drakeford ar ddatganiadau a wnaeth fis Ebrill diwethaf.
Yn un o'r datganiadau hynny, dywedodd: "Rhaid inni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi [yr heddlu]."
Dywed yr arweinwyr fod y sylw yna'n benodol wedi achosi "rhwystredigaeth, siom a dicter llwyr oherwydd bod ein haelodau... yn cael eu trin â dirmyg ymddangosiadol gan Lywodraeth Cymru".
Mae deiseb yn annog Llywodraeth Cymru i roi brechlyn Covid i swyddogion yr heddlu fel blaenoriaeth bellach wedi cael mwy na 10,000 o lofnodion., dolen allanol
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud penderfyniadau ar y broses frechu ar sail cyngor meddygol.
Yr heddlu ar 'waelod y domen'
"Ar draws pob cornel o Gymru, mae gennym enghreifftiau di-ri o heddweision sydd, yn ffiaidd, wedi cael eu poeri a'u pesychu arnynt gan bobl sy'n honni bod ganddynt Covid-19," meddai arweinwyr Ffederasiwn Heddlu Cymru.
"Mae gan hyn, wrth gwrs, oblygiadau iechyd ac mae'n rhoi ein timau plismona gweithgar mewn perygl pellach.
"Nid oes unrhyw weithwyr allweddol eraill yn wynebu amgylchiadau mor ffiaidd wrth gyflawni eu dyletswyddau.
"Ac eto, o ran cynnig rhywfaint o amddiffyniad i blismona ar ffurf brechiad Covid, mae'n ymddangos bod gwasanaeth yr heddlu yn cael ei ystyried ar waelod y domen, yn anghyfleus, yn annheilwng.
"Nid oes unrhyw gydnabyddiaeth wedi ei roi, ar unrhyw adeg yn ystod y pandemig hwn, i'r risgiau y mae swyddogion heddlu rheng flaen yn eu hwynebu wrth amddiffyn y cyhoedd.
"Ni allant bellhau'n gymdeithasol wrth arestio rhywun neu ddelio ag anghydfod cyhoeddus. Ni allant wneud eu gwaith wrth ynysu oddi wrth bawb ond eu teulu eu hunain."
Mae'r llythyr agored wedi'i lofnodi gan gadeirydd Ffederasiwn Heddlu Dyfed-Powys Gareth Jones, ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gwent Nicky Ryan, ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru Mark Jones a chadeirydd Ffederasiwn Heddlu De Cymru, Steve Treharne.
Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i annog y Prif Weinidog i "wneud ymrwymiad gweladwy i gefnogi plismona ac ailddatgan y datganiad a wnaethoch yn gyhoeddus ym mis Ebrill y llynedd".
"Mae pob un ohonom yn cytuno y dylid amddiffyn ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen ond os yw gweithwyr sydd ddim yn rheng flaen yn cael brechlyn yna siawns bod rhaid blaenoriaethu plismona rheng flaen," medden nhw.
"Mae plismona yn amddiffyn y rhai sy'n achub bywydau ond mae'r asiantaethau hynny wedi cael eu brechu, neu'n cael eu brechu ac eto mae plismona, er eu bod ochr yn ochr, yn cael eu gadael yn agored i niwed ac nid ydynt hyd yn oed yn cael eu hystyried i'w hamddiffyn."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI).
"Maen nhw wedi argymell ym mha drefn y dylid brechu pobl yn y DU.
"Mae hyn yn sicrhau bod y bobl sydd fwyaf mewn perygl o ddal coronafeirws, a datblygu salwch difrifol, yn cael eu brechu gyntaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2020