'Trafod cynnal I'm a Celebrity yng Nghastell Gwrych eto'
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall fod ITV yn cynnal trafodaethau gyda'u partneriaid yng ngogledd Cymru i gynnal y gyfres 'I'm a Celebrity Get Me Out Of Here' yng Nghastell Gwrych unwaith eto yn 2021.
Yn ôl ymgynghorydd ar raglen y llynedd, Garffild Lloyd Lewis, mae yna "bendant drafodaethau wedi bod yn digwydd", rhwng ITV a'u partneriaid.
Bu'n rhaid i'r gyfres gael ei chynnal yng Nghymru yn 2020 yn hytrach nag Awstralia o ganlyniad i'r pandemig rhyngwladol.
Dywedodd ITV nad ydyn nhw am wneud sylw am y tro.
Wrth siarad ar raglen y Post Prynhawn BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Lewis ei fod o ar ddeall bod y trafodaethau'n digwydd gan fod gallu teithio i Awstralia yn annhebygol.
"Dwi 'di siarad efo rhywun ar ran y castell bore 'ma a mi wnaethon nhw gadarnhau mai yn bendant i Gastell Gwrych y byddan nhw am ddod 'nôl os na fyddant yn mynd i Awstralia.
"Mae 'na ddyfalu wedi bod yn y wasg yn y dyddiau diwethaf ac yn bendant fe allai gadarnhau beth dwi'n ei wybod sef bod 'na drafodaethau yn digwydd."
Ychwanegodd Mr Lewis ei fod yn credu y byddai'n rhaid i'r penderfyniad terfynol ddigwydd yn "fuan".
"Dwi'n tybio y byddai'n rhaid i'r penderfyniad gael ei wneud yn weddol fuan, gan fod amser cynhyrchu ar gyfres mor fawr â hon yn cymryd dipyn o amser."
'Dyfalu yw hyn' medd ITV
Y llynedd dywedodd llefarydd ar ran Castell Gwrych fod y gyfres wedi cyfrannu £1m i'r economi leol yn ardal Abergele.
"Does 'na'm amheuaeth y byddai 'na groeso yn Abergele", meddai Garffild Lloyd Lewis.
"Mi oedd na dipyn o ddefnydd o'r Gymraeg yn y gyfres ac mi oedd hynna wedi codi proffil y Gymraeg ym Mhrydain a thu hwnt," ychwanegodd.
Wrth ymateb i'r honiadau dywedodd llefarydd ar ran ITV na fyddai nhw'n darparu unrhyw ymateb ac mai "dyfalu" oedd pobl ar hyn o bryd.
Ychwanegodd y sianel y bydden nhw'n darparu rhagor o wybodaeth petai datganiad i'w wneud ar ddyfodol y rhaglen yng Nghymru.
Dywedodd Mr Lewis fod hi'n anodd rhagdybio amserlen bendant ond mae'n amau y bydd yn rhaid i'r sianel wneud "penderfyniad yn fuan" o ystyried maint y cynhyrchiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020