Y ffansins pop Cymraeg sy'n 'gofnod prin o hanes'
- Cyhoeddwyd
Yn y byd digidol modern lle mae'r newyddion diweddara' am fandiau ar gael o fewn eiliadau, mae'n anodd dychmygu treulio oriau gyda siswrn, glud a pheiriant ffotocopïo i gynnig yr un gwasanaeth.
Ond ffansins yr 1980au a'r 1990au oedd cyfryngau cymdeithasol y cyfnod.
Nawr mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi ychwanegu rhai i'w harchif yn dilyn apêl ar Ddydd Miwsig Cymru 2020.
Ynghyd â'r 200 poster gafodd eu rhoi i'w casgliad roedd sawl ffansin o'r 1980au, ac oherwydd natur y cyfrwng mae'n debyg nad oes llawer wedi goroesi.
Cofnod hanesyddol
Cylchgronau DIY am y sîn bop ydi'r ffansin, wedi eu creu yn gyfan gwbl gan bobl sy'n caru cerddoriaeth. Yn aml un person oedd yn ysgrifennu'r holl gynnwys - yn adolygiadau a chyfweliadau, ac yn dylunio, gosod, gwerthu a dosbarthu.
Yn ôl Nia Mai Daniel, o Archif Gerddorol Gymreig y llyfrgell, roedd nifer o'r cyhoeddiadau yn cael eu targedu'n benodol ar gyfer yr Eisteddfod neu gig benodol - ac mae'n ddiolchgar bod rhai wedi goroesi.
Meddai: "Roedd rhywun yn gwneud ffansin i ddigwyddiad, ac wedyn pan mae'r digwyddiad wedi mynd, mae'n mynd i'r bin efallai.
"Mae'n bosib mai dyma'r unig gopi sy'n bodoli o rai ffansins ac mae'n adlewyrchu beth oedd yn mynd ymlaen ar y pryd.
"Ac efallai dyw un ffansin neu un poster ddim i weld yn bwysig ond fel casgliad mae'n adlewyrchu'r cyfnod. Mae'n rhoi lot o wybodaeth ynglŷn â'r bandiau - pwy oedd yn chwarae, efo pa fandiau eraill oedden nhw'n chwarae, ym mhle, pwy oedd yn trefnu.
"Mae hefyd yn dangos y cysylltiad rhwng cerddoriaeth a gwleidyddiaeth, mae nifer yn sôn am Gymdeithas yr Iaith, a Threth y Pen, ac mae'n dangos beth oedd yn digwydd yn y cymunedau.
"Maen nhw'n gofnod reit bwysig a phrin."
Adlewyrchu'r cyffro
Un o'r ffansins gafodd eu rhoi i'r llyfrgell gan Rhys Williams o Gaerdydd, oedd yn gyfrifol am y blog fanzineynfytyn, dolen allanol, ydi Dyfodol Dyddiol.
Gorwel Roberts, aeth yn ei flaen i weithio gyda'r cylchgrawn pop Sothach, oedd y 'band un dyn' tu cefn i'r cyhoeddiad.
"Roedd lot o fandiau yn cynnig rhywbeth gwahanol ar y pryd ac roedd pethau yn ffresh - bandiau fel Datblygu, Cyrff, Anrhefn Traddodiad Ofnus ac Elfyn Preseli," meddai wrth Cymru Fyw. "Roedd yn gyfnod cyffrous a ro'n i'n hapus i fod yn rhan o'r rhywbeth cyffrous oedd yn dechrau magu traed.
"Ro'n i'n ei wneud o adra efo teipiadur, lot o cut-ups - yn torri cylchgronau efo siswrn a'u gludo nhw, wedyn mynd ag o i'r argraffwr ym Mhenrhyndeudraeth a'i werthu wedyn mewn gigs.
"Nes i wneud tua pedwar, ond roedd yn anodd cyhoeddi stwff yn rheolaidd - i gynhyrchu'r stwff, dosbarthu, ei werthu fo a chael pethau i sgwennu amdanyn nhw.
"Mae'r pethau yma yn bwysig yn hanesyddol. Mae'n hawdd anghofio amdanyn nhw."
Ddegawd yn ddiweddarach, meddylfryd tebyg oedd gan Esyllt Williams dros ddechrau ffansin ei hun. Roedd hi'n 14 ar y pryd, yn byw yn Abertawe ac yn mynd i gigs yn Aberaeron a Chaerfyrddin.
"Ro'n i eisiau creu rhywbeth oedd yn adlewyrchu pa mor gyffrous roedd popeth yn teimlo - ac roedd yn lot o hwyl," meddai.
"Nes i fynd ati i gyfweld cwpl o bobl ac wedyn mynd ati efo Pritt Stick a siswrn yn torri pethau allan o magazines, geiriau neu luniau roeddwn i'n hoffi. Ro'n i'n cymryd amser i'w gwneud nhw ac yn ofalus iawn - yn rhoi Tipex ar ochrau'r lluniau fel bod dim llinell du wrth wneud ffotocopi, ac yn gwneud cartŵns."
Tua phum copi o Letys wnaeth hi gynhyrchu ac roedd hi'n cyhoeddi un wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ac un yn y gaeaf.
Mae Esyllt, sy'n DJio erbyn hyn, yn dweud bod y ffansin - fel y finyl - wedi dechrau dod yn ôl i ffasiwn ond bod pwrpas cyhoeddiadau heddiw yn wahanol:
"Roedd pobl yn gyrru 50c yn y post i mi efo envelope a stamp i mi yrru copi iddyn nhw a ro'n i'n gwerthu nhw yn yr Eisteddfod.
"Mae'r rhai heddiw yn fwy o waith celf yn hytrach na ffansin fel oedd e. Nid dyma y lle i fynd i wybod am fands."
Mae Nia Mai Daniel, oedd ei hun yn rhan o griw cynhyrchu ffansin Ms Gwenith ddiwedd yr 1980au, yn cytuno:
"Mae Instagram a Twitter a'r cyfryngau cymdeithasol wedi agor ffordd fwy rhwydd a mwy deniadol o gyrraedd cynulleidfa eang. Podcasts hefyd - mae unrhywun yn gallu recordio podcast.
"Ond mae'r rhain yr un syniad o fod eisiau gwneud rhywbeth a'i gael e allan. Mae'r un elfen DIY ac oedd i ffansins - dim ond bod y cyfrwng wedi newid."
Hefyd o ddiddordeb: