Rhywfaint o oedi i gynlluniau Metro De Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Light rail carFfynhonnell y llun, KeolisAmey
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gerbydau Metro De Cymru edrych yn debyg i hyn

Bydd "ychydig o oedi" yn y broses o gyflwyno Metro De Cymru oherwydd pandemig Covid, yn ôl pennaeth Trafnidiaeth Cymru.

Ond dywedodd James Price fod y prosiect wedi ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd a bod y gwaith paratoi eisoes wedi dechrau.

Ychwanegodd y bydd yr oedi yn "fisoedd yn hytrach na blynyddoedd" a'i bod yn rhy gynnar eto i ddweud faint o effaith fydd y pandemig wedi'i gael ar y gwasanaethau rheilffordd.

"Fe fydd hynny'n ddibynnol ar effaith hirdymor mesurau sydd wedi gorfodi pobl i weithio o adref," meddai.

"Y newyddion da yw bod dyfodol y metro wedi ei sicrhau drwy gyllid y llywodraeth, a thrwy gyllid yr Undeb Ewropeaidd ac mae hynny'n parhau.

"Rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith trac ac yn paratoi ar gyfer trydaneiddio. Felly mae'r gwaith metro yn parhau.

"Mae'r trenau newydd wedi eu harchebu hefyd a bydd pobl yn gweld mai dim ond ychydig o oedi fydd yn amserlen y prosiect. Alla i ddim dweud yn union beth yw'r oedi hwnnw."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Map o gynllun Metro De Cymru

Trafnidiaeth Cymru, sy'n eiddo cyhoeddus, sydd bellach yn rhedeg gwasanaethau'r rheilffyrdd.

Fe ddaeth hynny i rym yn swyddogol ddydd Sul, 7 Chwefror gydag aelodau staff yn cael eu trosglwyddo i'r corff sy'n rhedeg gwasanaethau ar ran Llywodraeth Cymru.

Cafodd cytundeb gwerth £5 biliwn ei roi i KeolisAmey i redeg rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn 2018.

Ond ym mis Hydref 2020 dywedodd y cwmni na allai redeg y gwasanaeth gan fod Covid wedi golygu nad oedd y cytundeb yn ymarferol mwyach, a hynny yn dilyn cwymp sylweddol yn nifer y teithwyr.

Dywedodd James Price wrth Radio Wales fore Llun: "Trwy ddod â gwasanaethau rheilffordd yn fewnol, byddwn ni'n gallu gwarchod yr holl swyddi, nid dim ond gyda'r Metro ond trwy redeg y gwasanaeth rheilffordd ar draws Cymru, cadw gwasanaethau teithwyr i fynd oherwydd roedden nhw mewn perygl, a chaniatáu i ni barhau gyda'r Metro."

Ffynhonnell y llun, KeolisAmey
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gerbydau Metro De Cymru edrych yn debyg i hyn

Bydd KeolisAmey yn parhau i fod â rhan yn y gwaith gan gynnwys uwchraddio Llinellau Craidd y Cymoedd a darparu cerbydau rheilffyrdd.

Yr hyn sy'n aneglur yw effaith y pandemig ar wasanaethau rheilffordd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am i 30% o bobl weithio o adref yn yr hirdymor.

'Angen i deithio fod yn fwy cynaliadwy'

Dywedodd Christine Boston, cyfarwyddwr yr elusen Sustrans Cymru sy'n annog cerdded a beicio, y bydd system drafnidiaeth gyhoeddus dda yn dal i fod yn hanfodol ar ôl y pandemig.

"Mae pobl eisiau cymysgedd," meddai. "Does neb eisiau gweithio o adref ar eu pennau eu hunain am byth ac rwy'n credu bod angen annog pobl, lle mae'n bosib, i weithio'n fwy lleol."

Ffynhonnell y llun, Sustrans
Disgrifiad o’r llun,

'Mae angen creu mwy o le ar drafnidiaeth cyhoeddus,' medd Christine Boston, cyfarwyddwr Sustrans Cymru

"Mae angen peidio rhoi pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ar adegau prysur.

"Mae angen i bobl weithio mewn ffyrdd gwahanol i greu mwy o le ar drafnidiaeth gyhoeddus, fel y gall mwy o bobl deithio'n fwy cynaliadwy."

"Mae llawer o swyddi na ellir eu gwneud o adref ac mae llawer o bobl sy'n dal i fod eisiau mynd i safle gwaith, ond mae'n golygu bod llai o bobl yn cael eu gorfodi i wneud y teithiau yn ystod oriau brig."

Mae James Price yn cytuno y bydd y pandemig yn cael effaith ar drafnidiaeth ond nad oes neb yn gwybod yn union beth fydd y newid.

"Er bydd goblygiadau tymor byr ym mhatrwm teithio pobl credwn fod yr angen sylfaenol yno o hyd a daw'r galw yn ôl."