Pwy oedd yn fuddugol yng Ngwobrau'r Selar 2021?

  • Cyhoeddwyd
Gwobrau'r Selar 2021

Fel arfer, mae Gwobrau'r Selar yn ddwy noson llawn cerddoriaeth gan rai o artistiaid gorau Cymru, yn Undeb y Myfyrwyr, Aberystwyth.

Ond wrth gwrs, eleni - fel bron pob digwyddiad tebyg - nid oedd modd cael seremoni a pherfformiadau byw. Yn hytrach, cafodd holl enillwyr y gwobrau eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru.

Bu un o drefnwyr y Gwobrau - Owain Schiavone - yn siarad ar Raglen Aled Hughes ar Radio Cymru am bwysigrwydd cynnal y gwobrau, er bod cyfyngiadau'r flwyddyn ddiwethaf wedi ei gwneud hi'n gyfnod mor anodd i gerddorion a'r diwydiant:

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i bawb, yn amlwg. Mae pobl wedi ei weld o fel cyfle hefyd, a 'dan ni wedi gweld artistiaid gwahanol yn mentro dros y flwyddyn ddiwetha', ac yn cael dipyn o hwyl arni ac yn cael dipyn o sylw. Mae hi wedi bod yn flwyddyn gymysglyd.

"'Dan ni i gyd yn methu digwyddiadau byw - mae hi'n bechod fod 'na ddim digwyddiad byw Gwobrau'r Selar eleni - ond mi 'nawn ni ddathlu gorau posib ar y tonfeddi, a dwi'n meddwl fod Radio Cymru, fel Y Selar, wedi trio rhoi platfform ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg dros y flwyddyn ddiwetha', ac wedi llwyddo i 'neud hynny ac wedi cadw hwyliau pobl i fyny gobeithio.

Selar 2020Ffynhonnell y llun, ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Lewys, un o'r artistiaid oedd yn perfformio yn y gwobrau y llynedd. Mae pawb yn gobeithio y bydd Gwobrau'r flwyddyn nesaf yn mynd yn ôl i'r arfer

"Mae 'na wobr arbennig eleni i gydnabod y flwyddyn sydd wedi bod - Gwobr 2020 - ac mae honno yn benodol i rywun 'dan ni'n teimlo sydd wedi ymateb mewn ffordd cadarnhaol iawn i'r heriau 'dan ni wedi eu hwynebu yn 2020.

"Gobeithio mai dim ond eleni y byddwn ni'n gorfod cyflwyno'r wobr yna - y bydd pethau'n dechrau mynd yn ôl i drefn mwy arferol yn y flwyddyn yma."

Enillwyr Gwobrau'r Selar 2021

Seren y Sin

Mared

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Radio Cymru

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Radio Cymru

Gwaith Celf Gorau

Cofi 19

Band neu Artist Newydd

Malan

Artist Unigol

Mared

Gwobr 2020

Eädyth

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 2 gan Radio Cymru

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 2 gan Radio Cymru

Cân Orau

Hel Sibrydion - Lewys

Record Fer Orau

Dim Ond Dieithryn - Lisa Pedrick

Gwobr Cyfraniad Arbennig

Gwenno

Fideo Cerddoriaeth Gorau

Dos Yn Dy Flaen - Bwncath (Gwaith animeiddio gan Lleucu Non)

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X 3 gan Radio Cymru

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X 3 gan Radio Cymru

Band Gorau

Bwncath

Record Hir Orau

Bwncath II - Bwncath

Llongyfarchiadau bawb!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig