Y Llinell Las: Portreadu'r 'bobl tu ôl i'r iwnifform'
- Cyhoeddwyd
"'Neith pobl ddim sylweddoli y gwaith sydd ganddon ni os nad ydyn nhw'n dod allan efo ni."
Dyna eiriau plismon ym mhennod gyntaf cyfres deledu newydd sydd yn rhoi cip tu ôl i'r llen ar fywyd heddweision heddiw.
Mae Y Llinell Las yn dilyn Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, gan roi syniad i wylwyr beth yn union yw'r swydd, yn ogystal â rhoi cyfle i ddod i 'nabod rhai o'r personoliaethau tu ôl i'r iwnifform.
'Mwy i'r swydd'
Syniad Stephen Edwards, un o'r cynhyrchwyr, oedd y gyfres, sydd yn dangos blwyddyn yn hanes yr heddlu sy'n plismona ffyrdd y gogledd.
"Dwi'n gobeithio fydd beth bynnag fyddwch chi'n ei weld ar y teledu yn cyfleu yn union beth 'dan ni wedi ei weld drwy ei ffilmio hi fel tîm," meddai.
"'Swn i'n feddwl fydd o'n newid eich agwedd chi tuag at yr heddlu yn gyffredinol - mai pobl ydyn nhw ar ddiwedd y dydd ac mai jest iwnifform maen nhw'n ei wisgo.
"Hefyd cael chi i ffwrdd o'r agwedd mai ista mewn layby efo speedgun maen nhw a gneud dim byd arall - mae 'na fwy i'r swydd na hynny - pa mor galed a gwahanol ac unigryw ydi'r swydd."
Mae'r stori yn cael ei hadrodd gyda chamerâu bach a mawr; o dashcams y ceir, i luniau camerâu corff yr heddweision, a fideos o hofrenyddion yr heddlu. Roedd Stephen yn ymuno gyda heddweision ar shifft ac hefyd yn ffilmio'r hyn oedd yn digwydd o'i safbwynt ef yn sedd y teithiwr.
"O'n i'n mynd allan 9 o'r gloch nos, a ddim yn dod adra tan 2 y bore i fod - weithiau o'n i'm adra tan 7... 9 y bore. Do'n i'm yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd allan 'na.
"Does gan y cyhoedd ddim syniad be' sy'n mynd ymlaen, efo'r ffyrdd na'r heddlu'n gyffredinol."
Heriau dalgylch eang
Gyda dalgylch Heddlu Gogledd Cymru mor enfawr - bron i draean o dir Cymru - cafodd Stephen brofiadau amrywiol wrth deithio ledled y gogledd.
"Mae'n aruthrol, 'dach chi ddim yn sylweddoli ei maint. Mae ganddoch chi Ynys Môn, lawr i Pen Llŷn, lawr i Aberdyfi, i fyny i Wrecsam a'r canol yn fan'na. Mae hi'n ardal eang ofnadwy, a 'sach chi'n gallu bod mewn dinas ar un adeg yng nghar yr heddlu, hanner awr wedyn ym Mhen Llŷn i lawr y lonydd cefn i gyd.
"Dio'm ots lle ydach chi, yn y dinasoedd neu'r lonydd cefn, mae'r crime dal i ddigwydd yna."
Un o'r plismyn sydd yn cael ei ddilyn yn y gyfres yw Sgt Meurig Jones. Mae'n gweithio mewn ardal wledig, a phan ddaeth ar draws car sy'n gyrru'n wyllt ac yn gwrthod stopio, cafodd y camerâu weld yn union sut beth yw hi i fod mewn car heddlu wrth iddo fynd ar ôl car.
Dyma un o'r elfennau mwyaf peryg am ei swydd, meddai Meurig:
"Does yna ddim un pursuit fyswn i'n galw'n 'saff'. Mae 'na ryw elfen o berygl yna o'r cychwyn.
"Unwaith maen nhw'n dechrau mynd lawr y lonydd cefn, does gennym ni ddim syniad beth sydd rownd y tro nesa', a does ganddyn nhw ddim chwaith."
Swydd ryfeddol y bobl gyffredin
Yn y gyfres, cawn ddod i 'nabod y person o fewn yr iwnifform hefyd, gan ddysgu am fywydau rhai o'r heddweision tu hwnt i'r swydd dydd-i-ddydd, fel Sgt Trystan Bevan sydd yn aelod o'r tîm ers wyth mlynedd, ond sydd hefyd yn byw a gweithio ar fferm y teulu. Roedd sicrhau fod y gyfres yn cyfleu'r ochr yma yn bwysig iawn i Stephen, meddai.
"Ydi mae hi'n portreadu'r tîm, ond hefyd mae'n portreadu'r cymeriadau a'r bobl sy'n barod i fod o flaen camera i sgwrsio. Doedd hi ddim yn hawdd eu cael nhw, ond maen nhw wedi gneud job wych.
"Un o'n hamcanion ni oedd i gael dangos eu gwaith nhw, ond y bobl sydd yn gneud y stori. Pobl gyffredin ydyn nhw, fel chi a fi, dim jest plismyn.
"Dwi'n meddwl ei fod o'n elfen gry' iawn o be' 'dan ni 'di neud, bo' ni'n gallu bod mor agos efo nhw a chael eu perthynas dda, i ddangos yn union bod yna swydd ryfeddol gan bobl gyffredin."
'Nath hynny ddigwydd?!'
O yfed a gyrru, cyflymder a thrais tuag at yr heddlu, mae'r gyfres yn dangos ystod o bethau mae'n rhaid i'r heddlu ddeilio â nhw yn ystod shifft, ac fe gafodd Stephen brofiadau bythgofiadwy wrth ffilmio'r gyfres, meddai.
"Yn ystod ffilmio'r gyfres, 'dach chi'n dod i ryw fath o norm, 'dach chi'n jumpio i'r car a 'dach chi'n ffilmio a 'dach chi'n gweld gymaint o bethau - 'dach chi'n mynd i ddamweiniau, 'dach chi'n mynd ar ôl ceir, 'dach chi'n stopio ceir, 'dach chi'n helpu rhywun am rywbeth hollol wahanol i beth oedden ni'n eu wneud...
"'Dach chi yn y zone o weithio, ond 'dach chi'm yn sylweddoli rili, tan 'dach chi adra a chael paned, 'nath hynny ddigwydd rŵan?!' Yr adeg yna, mae o'n sincio mewn am eu swydd nhw, a beth sydd ganddyn nhw i'w wneud.
"Mae 'na gymaint o bethau sydd 'di digwydd, dwi 'di weld, a phethau dal yn fy meddwl i.
"Y peth mwya' sy'n dod adra ar ôl bod allan efo nhw a gweld eu gwaith nhw ydi'r teimlad, am bo' chi'n rhan [o'r peth], bo' chi 'di helpu rhywun."
Hefyd o ddiddordeb: