Yfed a gyrru: 'Newidiodd ein bywydau mewn eiliadau'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Emyr Williams: "Fi'n grac - ma' beth na'th e yn gallu dinistrio bywydau"

Mae teulu sy'n dal i ddioddef o sgil effeithiau gwrthdrawiad yfed a gyrru wedi ymbil ar bobl i fod yn ofalus wrth iddyn nhw deithio a mwynhau eu hunain eto yn dilyn y cyfnod clo.

Petai Emyr Williams heb ddefnyddio techneg gyrru yr oedd wedi'i ddysgu fel swyddog heddlu i osgoi gwrthdrawiad llawn, meddai, "byddai rhywun wedi cael ei ladd".

Serch hynny mae'n dal i fyw ag effaith anafiadau i'w ben a'i gefn, ac mae ei wraig Angela wedi gorfod dysgu i ysgrifennu â'i llaw chwith o ganlyniad i'w hanafiadau hithau.

Daw hyn wrth i luoedd heddlu Cymru rybuddio eto am beryglon yfed a gyrru, wrth i bobl deithio ymhellach a thafarndai ailagor yn dilyn y cyfyngiadau Covid-19.

Cynnydd ar draws Cymru

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod dau o'r pedwar llu heddlu Cymru wedi arestio mwy o bobl am yfed a gyrru rhwng Mawrth a Gorffennaf eleni o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd - a hynny er gwaethaf y cyfnod clo.

Mae pob un o'r lluoedd hefyd wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl gafodd eu dal yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau o'i gymharu â 2019.

Dywedodd Heddlu Gwent bod 223 o bobl wedi'u harestio am yfed a gyrru rhwng diwedd Mawrth a diwedd Gorffennaf eleni - cynnydd o 9% ar y llynedd, gan adlewyrchu patrwm tebyg yn ardal Heddlu'r De.

Roedd y cyfnod clo'n dawelach o ran troseddwyr yfed a gyrru i Heddlu'r Gogledd, welodd gwymp o 25%, a Heddlu Dyfed-Powys welodd ostyngiad o 27%.

Ond bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl gafodd eu harestio am yrru dan ddylanwad cyffuriau, gyda chynnydd o 141% yn ardal Gwent, 133% yn Dyfed-Powys, 59% yn y Gogledd a bron i 50% yn y De.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Williams yn dweud bod teimladau o euogrwydd o hyd oherwydd yr anafiadau i Angela

Ddwy flynedd yn ôl roedd Emyr Williams yn teithio adref yn y car gyda'i wraig Angela a'u merch Megan ger Hwlffordd, pan fuon nhw mewn gwrthdrawiad â gyrrwr oedd wedi yfed.

"Dwi'n cofio gweld yr Audi mawr yn tynnu mas o'r maes parcio reit o flaen ni," meddai Emyr.

"Nes i drio symud car ni mas o'r ffordd, achos os na fydden ni 'di 'neud 'na fi'n credu bydde rhywun wedi cael ei ladd.

"Fi'n meddwl 'nôl i'r hyfforddiant ges i gyda'r heddlu 'nôl yn 1999, a sai'n gwybod pam, ond nes i beth ges i'n ddysgu, a fi'n credu 'na beth safiodd pawb."

'Does dim gwella o fe'

Ar ôl dod allan o'r car a gweld nad oedd Angela a Megan wedi'u hanafu'n ddifrifol, cafodd y ddwy eu hebrwng i'r dafarn gyfagos i aros am yr ambiwlans tra bod Emyr yn aros gyda gyrrwr y car arall.

"Fi'n cofio daeth un person mas o'r dafarn a dod lan ato i amser welodd e'r ceir heddlu wedi cyrraedd, 'fi'n credu well bod rhywun yn cael breathalyser' - ddim yn sôn am fi, ond y dyn oedd yn gyrru'r car arall," meddai.

"Naethon nhw breathalysio fi achos ma' rhaid iddyn nhw, gaeth y dyn arall y test, a chwythodd e drosto."

Cafodd Emyr, Angela a Megan eu cludo i'r ysbyty, ac ar y pryd roedd Emyr yn gobeithio mai mân anafiadau'n unig oedd ganddyn nhw.

"O'n i'n teimlo'n OK, [mewn] sioc," meddai. "Y peth mwya' o'n i'n becso am oedd Megan, ond diolch i'r drefn oedd Megan yn OK.

"Gaeth Ange dolur i'w llaw hi a chest hi, ond o'dd pethe yn disgwyl yn OK... o'n i'n meddwl cwpl o wythnose a bydd pethe 'nol i fel o'n nhw."

Nid felly oedd hi.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Angela Williams ddim yn gallu defnyddio ei llaw dde yn dilyn y digwyddiad

Er i Megan ddianc heb unrhyw sgil effeithiau, mae Emyr ac Angela - y ddau yn gweithio i Heddlu Dyfed-Powys - yn dal i ddioddef o'u hanafiadau.

"O'n i dal yn godde gyda pendro, migraines... o'n i'n gorwedd ar lawr yr ystafell wely yn gobeithio bydde popeth yn stopo sbinio, ma' hwnna dal yn digwydd," meddai Emyr.

"Problem gyda nwylo, ysgwydd, cefn, tinnitus - fi'n gwybod allen ni fynd 'mlan a 'mlan.

"Ma' Complex regional pain syndrome type 2 gyda Angela, a does dim gwella o fe. Ma' Angela ffaelu defnyddio ei llaw dde hi, ac mae hi mewn poen bob dydd.

"Y peth gwaetha' i ni fi'n credu fel teulu yw'r ffaith bod neb yn gallu gweld dim byd, felly os maen nhw ffaelu gweld dim byd, s'dim byd yn bod arnon ni."

'Dyw e ddim werth e'

Cafodd gyrrwr y car arall, oedd un a hanner gwaith dros y trothwy yfed a gyrru, waharddiad am 15 mis a dirwy.

Mae'r gwaharddiad hwnnw ar ben bellach, ond mae Emyr yn cyfaddef ei fod yn "grac" bod yr effaith ar ei deulu ef yn parhau.

"Mae'r person arall oedd yn gyrru'r car wedi cael ei gosbi, mae'r gyfraith wedi 'neud beth mae'r gyfraith fod 'neud," meddai.

"Ond fel person mae'n 'neud dolur achos beth 'naeth e, mae'n gallu dinistrio bywydau y ddau ochr i'r digwyddiad."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ffodus ni wnaeth Megan ddioddef unrhyw anafiadau yn y gwrthdrawiad

Gyda'r cyfnod clo yn llacio, bellach a mwy o bobl yn teithio yn y car i dafarndai sydd efallai newydd ailagor, mae Emyr yn awyddus i bwysleisio nad yw'n bryd anghofio'r negeseuon am yfed a gyrru.

"Dyw e ddim werth e," meddai.

"Falle mae'r person wedi 'neud e unwaith a gyrru adre yn iawn, falle bod nhw yn gallu gyrru yn iawn ar ôl cael peint neu ddau beint, ond mae'n rhaid i nhw feddwl am y bobl eraill sydd ar yr hewl hefyd.

"Mae pethau'n gallu digwydd, ci yn gallu rhedeg mas, plentyn yn gallu rhedeg mas. Jyst plîs peidiwch. Mae'n dinistrio bywydau, mae wir yn.

"Fi'n gwybod ni dal yma, a dwi'n teimlo'n euog bob dydd achos beth sydd wedi digwydd i Angela, achos fi oedd yn gyrru ar y pryd, a na'i byth faddau i fi'n hunan achos mae hwn wedi digwydd.

"Ond mae'n rhaid i fi feddwl hefyd, os na fydden i 'di 'neud beth nes i falle bydde rhywun wedi marw."

Haws dal gyrwyr yn y cyfnod clo?

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y cynnydd yn nifer yr achosion o yrru dan ddylanwad cyffuriau, a'r gostyngiad yn y nifer yfed a gyrru, o ganlyniad i ddau reswm.

"Yn gyntaf, gyda chyflwyno deddfwriaeth Covid-19, fe wnaeth ein swyddogion gynnal archwiliadau ar draws yr ardal er mwyn sicrhau bod pobl ond yn teithio os oedd hi'n hanfodol," meddai llefarydd.

"Wrth gynnal yr archwiliadau hyn fe wnaeth swyddogion ymateb i unrhyw ymddygiad amheus neu anarferol gan yrwyr, gan arwain at nifer o arestiadau.

"Gan fod tai trwyddedig wedi cau a mwy o bobl yn aros adref, fe welon ni ostyngiad yn nifer y bobl gafodd eu harestio am yfed a gyrru, gan nad oedd pobl yn teithio adref o dafarndai, clybiau a bwytai."

Dywedodd yr Uwcharolygydd Jane Banham o uned plismon ffyrdd Heddlu'r Gogledd ei bod hi'n "bryderus iawn" fod cymaint o bobl wedi parhau i gael eu dal yn gyrru dan ddylanwad hyd yn oed yn ystod y cyfnod clo.

Ffynhonnell y llun, Press Association
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion Cymru wedi arestio mwy o bobl am yrru dan ddylanwad yn ystod y cyfnod clo na wnaethon nhw dros yr un cyfnod llynedd

"Mae gennym ni nawr mwy o swyddogion wedi hyfforddi i gymryd profion cyffuriau ar ochr y ffordd, gan gynnwys swyddogion plismona lleol," meddai.

"Peidiwch meddwl bod natur wledig y rhanbarth yn eich gwarchod chi, achos dydy o ddim."

Dywedodd y Prif Arolygydd Helen Coulthard o Heddlu'r De: "Rydyn ni'n targedu pob gyrrwr sy'n dewis torri'r rheolau ffyrdd yma, gyda phwyslais arbennig ym misoedd yr haf pan mae 'na gynnydd yn anffodus yn nifer y gyrwyr sy'n gwneud hyn."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent fod ganddyn nhw fwy o swyddogion sydd wedi'u hyfforddi i gynnal profion cyffuriau, a'u bod hefyd yn cael "mwy o wybodaeth gan aelodau'r cyhoedd yn ymwneud â'r drosedd hon".