Bron i 300 o hen domenni glo Cymru 'â statws risg uchel'
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 300 o hen domenni glo Cymru'n cael eu hystyried yn rhai "risg uchel" all achosi perygl i bobl neu eiddo, 12 mis wedi tirlithriad yn y Rhondda.
Bu arbenigwyr yn trafod effaith newid hinsawdd ar ddiogelwch hen safleoedd pwll glo mewn uwchgynhadledd ar-lein gyda Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC yn dilyn y cyfarfod hwnnw, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU oedd talu am unrhyw waith yr oedd ei angen i wneud tomenni glo Cymru'n ddiogel.
Cafodd adolygiad ei gynnal wedi i 60,000 o dunelli o wastraff glo lithro lawr mynydd ym Mhendyrus fis Chwefror y llynedd yn dilyn Storm Dennis.
Mae dros 2,000 o domenni glo yng Nghymru - y mwyafrif ar dir preifat, ac yn bennaf yng nghymoedd y de.
Wedi tirlithriad Pendyrus cafodd y tomenni eu mapio a'u hasesu i weld pa mor sefydlog ydyn nhw.
O'r 294 sy'n rhai risg uchel, mae:
70 yn Sir Caerffili;
64 yn Rhondda Cynon Taf;
59 ym Merthyr Tudful;
42 ym Mhen-y-bont ar Ogwr;
35 yng Nghastell-nedd Port Talbot;
16 ym Mlaenau Gwent;
8 yn Sir Abertawe.
Tasglu yn cynnwys llywodraethau Cymru a'r DU, yr Awdurdod Glo, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru fu'n edrych ar y sefyllfa.
Daeth i'r casgliad nad yw'r ddeddfwriaeth gyfredol "yn ddigon cadarn na'n addas i'w bwrpas o ran archwilio a chynnal a chadw" hen domenni.
'Rheolaeth yn allweddol'
Amcangyfrifir y byddai gwaith diogelu tomenni'n costio £600m, ac oherwydd hynny roedd angen cynllun hirdymor i fynd i'r afael â'r broblem, meddai Mr Drakeford.
"Mae'r tomenni glo wedi bod yna ers ymhell cyn datganoli," meddai.
"Chafodd Llywodraeth Cymru erioed ei ariannu i ddiogelu'r tomenni yn unol â'r safonau sydd eu hangen heddiw.
"Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i ariannu'r rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac i drafod ariannu tu hwnt i hynny.
"Ond mae angen cynllun 10 mlynedd - nid un wedi ei wneud drwy Fformiwla Barnett, ond rhaglen sy'n cydnabod yr hyn y mae'r diwydiant glo wedi ei adael ar ôl yn y rhan yma o'r DU."
Yn ôl prif weithredwr yr Awdurdod Glo, Lisa Pinney, mae'r ffordd y mae tomenni yn cael eu rheoli'n allweddol o ran lleihau'r risg i gymunedau.
"Ychydig dan 300 sy'n safleoedd risg uwch ond mae hynny mewn gwirionedd yn golygu eu bod angen mwy o sylw ac archwilio cyson i sicrhau eu bod yn parhau'n ddiogel," meddai.
Pwysleisiodd y bydd yna weithredu yn achos unrhyw bryderon.
"Gall unrhyw domen sy'n hen ddeunydd cloddio ar lethr greu risg, yn amlwg, ond y peth allweddol ydy rheoli dŵr a'i gadw draw," meddai.
"Dyna pam mae'r archwiliadau a'r cynnal a chadw mor bwysig."
Mae'n bwysig, medd ysgrifennydd Undeb y Glowyr De Cymru, Wayne Thomas, i gasglu cymaint o wybodaeth â phosib a gweld pa rai sydd angen eu symud.
"Ble ma' nhw'n saff a s'dim isie 'neud dim byd mawr, [dyna] un categori," meddai.
"Y categori byddwn i'n disgwyl ar yw: faint o'r tips hyn sydd ddim yn saff, isie 'neud y gwaith arnyn nhw nawr a ffindio mas wedyn 'ny, 'reit, falle bod coal tips yn llefydd 'sdim isie ni hala arian arnyn nhw o gwbl'."
'Cryn dipyn o ofn'
Er na chafodd unrhyw un anaf yn nhirlithriad Pendyrus flwyddyn yn ôl, fe wnaeth achosi "cryn dipyn o ofn", medd Sam Hughes, sy'n gallu gweld y llethr o'i chartref yng Nglynrhedynog.
Roedd hynny oherwydd "beth all fod wedi digwydd a'r ffaith pa mor gyflym dda'th y tip i lawr", ac mae'n rhaid, felly, ystyried symud tomenni, meddai.
"Unwaith chi lan ar y mynydd ma' fe'n hyfryd i edrych arno, ond os ma' rhywbeth yn digwydd fel hyn pan ma' pobl yn cerdded o gwmpas - wel, mae'n mynd i fod yn awful.
"Mae'n mynd i edrych yn od, siŵr o fod, os maen nhw yn symud nhw gyd, ond os dyna'r unig beth maen nhw'n gallu neud, falle dyna be dylen nhw neud."
Does dim syndod bod pryderon o hyd ynghylch diogelwch tomenni, meddai'r hanesydd Dr Ben Curtis, sy'n arbenigo ar y diwydiant glo, yn sgil newid hinsawdd a chyfnodau glaw trwm iawn.
"Mae lot ohonyn nhw wedi ca'l eu symud ar ôl trychineb Aberfan wrth gwrs," meddai.
"Ond mae lot ohonyn nhw dal i fod yna, a ma'r potensial dal i fod yna am broblemau yn y dyfodol, efallai."
Talu'r pris
Mae'n hanfodol, medd AS Llafur Rhondda, Chris Bryant i roi'r cyllid priodol.
"Mae'n frawychus na chafodd cofrestr o hen domenni glo mo'i llunio wrth gau'r pyllau felly mae'n hen bryd i'r gwaith yma ddigwydd," meddai.
"Gyda chymaint ar dir preifat, mae'n mynd i fod yn waith anferthol a chymhleth ac mae'n rhaid i San Steffan a'r Senedd [yng Nghymru] gydweithio.
"Fy ofn mwyaf yw y bydd [y Canghellor, Rishi] Sunak yn mynnu bod cynghorau lleol yn talu am hyn o'u trethi cyngor, ond ni ddylai cymunedau tlotaf y DU gael eu gorfodi i dalu am dacluso ein treftadaeth ddiwydiannol genedlaethol."
Dywed Llywodraeth y DU ei bod wedi cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ers stormydd dechrau 2020 i roi mwy o gefnogaeth i gymunedau gafodd eu heffeithio.
"Yn Rhagfyr, fe wnaethon ni gadarnhau y byddai £31m yn cael ei ddarparu ar gyfer y gwaith hanfodol yma, gyda £9m ar gyfer gwaith adfer tomenni glo bregus," medd llefarydd.
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi cael £1.3bn yn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf "felly maen nhw mewn lle da i barhau gyda'r gwaith hyn".
Roedd yr uwchgynhadledd hefyd yn gyfle i drafod materion diogelwch ehangach wedi i bwysedd dŵr mewn hen siafft achosi llifogydd difrifol fis diwethaf yn Sgiwen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021